Rhannu gwybodaeth – Strategaeth Ddigidol i Gymru
27 Ionawr 2021
Ym mis Rhagfyr, lansiodd Llywodraeth Cymru gyfres o bostiadau blog yn gofyn am adborth ar y strategaeth ddigidol ddrafft newydd i Gymru.
Bydd y strategaeth newydd yn helpu sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon a syml, yn ogystal ag ysgogi arloesedd yn economi Cymru.
Chwe chenhadaeth
Mae’r strategaeth wedi’i seilio ar chwe chenhadaeth:
Gwasanaethau digidol: darparu a moderneiddio gwasanaethau yn unol â chyfres gyffredin o safonau fel eu bod yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.
Economi ddigidol: sbarduno cydnerthedd, cynhyrchedd a thwf economaidd trwy groesawu arloesedd digidol a manteisio arno i’r eithaf.
Sgiliau digidol: creu cymdeithas a gweithlu sy’n effeithlon, yn wybodus, yn gydweithrediadol ac yn gallu rhyngweithio’n ddiogel mewn byd digidol.
Cynhwysiant digidol: rhoi’r ysgogiad, y mynediad, y sgiliau a’r hyder i bobl ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion.
Cysylltedd digidol: bod gwasanaethau’n cael eu cefnogi gan seilwaith cyflym a dibynadwy.
Data a chydweithio: gwella gwasanaethau trwy gydweithio, gan ddefnyddio a rhannu data a gwybodaeth.
Yn y digwyddiad nesaf yn ein Cyfres Rhannu Gwybodaeth, byddwn yn trafod diben y strategaeth, y chwe chenhadaeth a sut bydd y canlyniadau’n cael eu cyflawni. Hoffem gael eich mewnbwn, eich adborth a’ch syniadau.
Cofrestrwch yma
Ymunwch â ni o 4 – 5pm ddydd Mercher 10 Chwefror ar gyfer y 3ydd digwyddiad yn ein Cyfres Rhannu Gwybodaeth pan fyddwn yng nghwmni Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru, Glyn Jones a Phrif Weithredwr Dros Dro’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, Sally Meecham. Bydd Lee, Glyn a Sally yn siarad am y Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru a sut bydd y Ganolfan yn cefnogi’r broses o’i chyflawni. Cofrestrwch nawr i ymuno â’r sgwrs:
https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZ0kd-yopzorHN0EminFFqtqnm1ZAE_T7fDH