Rhannu gwybodaeth – Strategaeth Ddigidol i Gymru

12 Chwefror 2021

Yr wythnos hon fe wnaethom gynnal y 3ydd sesiwn rhannu gwybodaeth, sy’n sesiynau er mwyn rhannu gwybodaeth, dysgu a thrafod. Pwnc trafod y mis yma oedd y Strategaeth Ddigidol i Gymru. Roedd yn wych gweld dros 50 o bobl yn ymuno gyda ni o bobl sector yng Nghymru i ddysgu mwy am y strategaeth a beth mae hynny yn olygu wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Trosolwg o’r sesiwn 

Cychwynnwyd y sesiwn gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters. Rhannodd Lee rai profiadau personol oedd yn amlygu yr angen i newid y ffordd rydym ni’n derbyn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a dywedodd ‘os ydym ni yn datgysylltu gyda’r byd modern, rydym yn creu gofod ble bydd gwasanaethau cyhoeddus yn colli eu gwerth.’

Yna, cawsom gyflwyniad gan Glyn Jones, PSD Llywodraeth Cymru, roddodd drosolwg i ni o’r strategaeth ddrafft a’r chwech cenhadaeth. Eglurodd Glyn beth oedd pob cenhadaeth yn gobeithio ei gyflawni ac amlinellodd bwysigrwydd cydweithio os am weld newid gwirioneddol.

Cyn symud ymlaen i gwestiynau, clywsom gan Sally Meecham, Prif Weithredwr dros dro y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, am y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud gan CDPS a sut y bydd y strategaeth yn cael ei chefnogi gyda cynllun gweithredu er mwyn cyflawni.

Trafodaeth a chwestiynau 

Cafodd amryw o bynciau eu trafod yn ystod y sesiwn cwestiwn ac ateb 

Diolch i bawb lwyddodd i ymuno a chymryd rhan yn y drafodaeth 

Beth nesaf? 

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu yr adborth ar y strategaeth, gafodd ei rhannu trwy gyfres o ‘blogs’, cyn cyhoeddi’n derfynol. Mae gwaith ar y gweill nawr i greu cynlluniau gweithredu ar gyfer pob cenhadaeth.

Os nad oeddech chi’n gallu ymuno, mae recordiad o’r sesiwn ar gael yma: 

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *