Rhannu gwybodaeth – sgiliau a gallu
12 Mawrth 2021
Diolch enfawr i bawb a ymunodd â’n gweminar cyfres rhannu gwybodaeth yr wythnos hon. Nod y gyfres yw darparu cymaint o gyfleoedd â phosib ar gyfer rhannu gwybodaeth, dysgu ac ymgysylltu. Yn ystod gweminar y mis hwn daeth dros 30 o bobl o bob rhan o Gymru ynghyd i edrych ar sut rydym yn meithrin y sgiliau a’r gallu i gefnogi darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Trosolwg o’r sesiwn
I ddechrau’r sesiwn clywodd y grŵp gan Tom Crick, sydd yn Athro Addysg a Pholisi Digidol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn aelod o Banel Cynghori’r Ganolfan. Yna gan Simon Renault, Cyfarwyddwr Busnes y Ganolfan a Jo Carter o gwmni Service Works. Rhai o bwyntiau allweddol y tri siaradwr oedd:
- er mwyn gweld cynnydd mewn sgiliau a gallu, rhaid ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys diwygio’r cwricwlwm ac addysg, gweithlu’r presennol a’r dyfodol a chreu dinasyddion digidol hyderus a galluog. Mae angen i ni edrych ar hyn i gyd, nid canolbwyntio ar un o’r rhan yn unig
- mae ymchwil wedi dweud wrthym:
- nad yw pob uwch arweinydd yn deall sut i weithredu trawsnewid digidol ac mae rhai yn ceisio ei rwystro
- mae llawer o staff y sector gyhoeddus yn awyddus i helpu, ond mae angen hyfforddiant, help ac arweiniad arnynt
- mae’n anodd i dimau gadw golwg ar arfer da a rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu
- nid oes un ddealltwriaeth bendant o’r hyn y mae ‘digidol’ yn ei olygu
- mae rôl CDPS yn cynnwys profi a datblygu ffyrdd o adeiladu sgiliau a gallu digidol sy’n diwallu anghenion y sector gyhoeddus
- mae CDPS eisoes wedi dechrau gweithio gyda thimau o arweinyddion mewn awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu hyfforddiant a chyngor digidol
- hyd yn oed yn ystod y camau cynnar yma, gallwn weld newid mewn diwylliant a meddwl sy’n cefnogi ffyrdd newydd o weithio
Roedd y sesiwn holi ac ateb a’r drafodaeth a ddilynodd yn ymdrin â rôl y trydydd sector yng Nghymru, rhagdybiaethau ynghylch gallu digidol pobl ifanc, sut i ymgysylltu â’r sector gyhoeddus ehangach yng Nghymru a’r angen i ddefnyddio fframweithiau a safonau i gefnogi cymwyseddau proffesiynol.
Wedi colli’r gweminar?
Os nad oeddech yn gallu ymuno gyda ni, mae recordiad o’r sgwrs ar gael yma: