Rhannu gwybodaeth – Safonau Gwasanaeth Digidol
27 Medi 2021
Wythnos diwethaf cynhaliom ein chweched gweminar yn y gyfres Rhannu Gwybodaeth, yn edrych ar Safonau Digidol i Gymru a sut y buodd Chwaraeon Cymru yn eu profi fel rhan o’u gwaith darganfod diweddar.
Trosolwg o’r sesiwn
Rhoddodd Ann Kempster, Pennaeth Darparu Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ddiweddariad ar y safonau, gan amlinellu’r newidiadau sydd wedi eu gwneud ers eu cyflwyno gyntaf.
Mae dwy safon newydd wedi eu hychwanegu, sy’n gwneud cyfanswm o 12 ac maent wedi eu rhannu i dair thema:
- cwrdd ag anghenion y defnyddiwr
- creu timoedd digidol da
- defnyddio’r data a’r dechnoleg gywir
Aeth Ann trwy y 12 safon, rhannu gwybodaeth am y pethau ddylai’r sefydliadau fod yn meddwl amdanynt wrth eu defnyddio, cyn trosglwyddo’r awenau i Maria Carmo a’r tîm o Chwaraeon Cymru.
Sut mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio’r safonau
Rhannodd Maria gefndir y gwaith mae CDPS wedi bod yn ei wneud gyda Chwaraeon Cymru yn eu helpu i ddeall “sut y gall Chwaraeon Cymru gynyddu cyrhaeddiad a thraweffaith eu buddsoddiadau cymunedol (grantiau)” yn ystod eu cyfnod ‘darganfod’ wyth wythnos.
Eglurodd Rebecca Pudsey a Steffan Berrow o Chwaraeon Cymru sut oedden nhw wedi defnyddio’r safonau yn ystod y cyfnod yma.
At bwrpas y gweminar, fe wnaethant edrych ar ddwy safon a pha drafodaethau fuodd o fewn y tîm ar gyfer eu gweithredu:
- dylunio gwasanaethau dwyieithog
Fe wnaethant hyn trwy gynnal y cyfnod ‘Darganfod’ yn ddwyieithog, gan gynnwys dylunio arolwg, cyfweld ac ysgrifennu blogiau. Anogodd hyn iddynt ail-ystyried eu proses grant bresennol, a pha mor hawdd oedd gwneud cais trwy gyfrwng y Gymraeg.
- deall defnyddwyr a’u hanghenion
Roedd hon yn ystyriaeth o’r dechrau a thrwy gydol y cyfnod darganfod 8 wythnos. Yr ymarferiad cyntaf oedd ceisio deall pwy oedd eu defnyddwyr. Yr ail oedd deall yr anghenion a dyheadau y defnyddwyr hynny. Trwy gadw’r safon mewn cof, bu’r tîm yn gwirio a herio o’r dechrau.
Beth nesaf i’r safonau gwasanaeth digidol?
Fe wnaeth Ann gloi y gweminar trwy roi diweddariad i bawb ar y camau nesaf, fydd yn cynnwys chwilio am Bennaeth Safonau yn yr wythnosau nesaf a chreu bwrdd safonau gyda phrif swyddogion digidol Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol a Iechyd, a CDPS.
Trafodaeth a chwestiynau
- yn y drafodaeth ddilynodd, trafodwyd amryw o bynciau gan gynnwys:
- faint o sefydliadau sy’n dylunio gwasanaethau gan ddilyn y safonau yng Nghymru?
- sut fydd y safonau yn gwella’r modd mae’r sector gyhoeddus yn defnyddio data, yn fewnol ac yn allanol
- os bydd na safonau penodol ar gyfer sectorau gwahanol
- sut bydd y safonau yn cael eu hasesu a beth fydd y broses sicrwydd
- sut y bydd CDPS yn cysylltu eu rhaglen datblygu sgiliau a gallu gyda’r safonau
Gwyliwch y sesiwn
Os nad oeddech chi’n gallu ymuno gyda ni yn y gweminar ond gyda diddordeb clywed y drafodaeth, mae recordiad yma: