Rhannu gwybodaeth – Safonau Gwasanaeth Digidol, diweddariad
7 Medi 2021
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar nesaf yn ein cyfres rhannu gwybodaeth, pan fyddwn ni’n edrych ar y cynnydd sydd wedi ei wneud wrth ddatblygu Safonau Gwasanaeth Digidol i Gymru.
Mae wedi bod yn flwyddyn ers i ni gyhoeddi ein fersiwn gyntaf o’r safonau. Mae’r Safonau Gwasanaeth Digidol yn set o safonau y gall unrhyw un eu dilyn er mwyn sicrhau fod anghenion y defnyddiwr wastad wrth graidd y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu dylunio a’u darparu.
Rydym eisiau cefnogi y bobl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel y gallan nhw gyrraedd y safonau yma a gwella profiadau pobl yng Nghymru wrth eu defnyddio.
Mae gwirio’n gyson yn erbyn set o safonau sydd wedi eu cytuno arnynt yn gallu cynnig ffocws, cynnal momentwm a herio.
Fe wnaethom greu ein drafft cyntaf o’r safonau gwasanaeth digidol a gofyn am eich adborth. Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn siarad gyda defnyddwyr gwasanaeth, ymchwilio i’r defnydd o safonau gwasanaeth yn y DU a thu hwnt a dod i ddeall mwy am yr heriau sy’n wynebu pobl wrth iddynt adeiladu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Yn y gweminar nesaf hon byddwn yn cynnig diweddariad ar y safonau ac yn clywed gan y bobl sydd wedi bod yn eu profi.
Cofrestrwch yma
Ymunwch gyda ni 1 – 2pm, dydd Mercher 22 Medi ar gyfer ein 6ed yn y gyfres rhannu gwybodaeth. Yn ymuno â ni bydd Ann Kempster (Pennaeth Darparu, CDPS) a Maria Carmo (Arweinydd Cyflenwi, ymgynghorydd allanol yn CDPS) fydd yn siarad am y fersiwn diweddaraf o’r Safonau Gwasanaeth Digidol I Gymru, pam ein bod ni eu angen a sut mae nhw’n cael eu mabwysiadu. Cofrestrwch yma i ymuno yn y drafodaeth:
https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_VyW9RpYaSC2bCCJRqgmoGQ