Rhannu gwybodaeth – meithrin timau amlddisgyblaethol

19 Hydref 2021

Ymunwch â ni ar gyfer ein sesiwn rhannu gwybodaeth nesaf ble byddwn yn archwilio pwysigrwydd timau amlddisgyblaethol.

Mae ein Safonau Gwasanaethau Digidol yn datgan:

‘Timau yw’r ffordd rydym ni’n creu gwasanaethau i Gymru. Dylai pob un fod yn gyfuniad amrywiol o bobl, profiad, arbenigedd a disgyblaethau.’

Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu:

Rydym yn falch o groesawu Dragos Leonte (Gwasanaeth Trawsnewid Digidol yr Alban) fydd yn a fydd yn sôn sut maen nhw’n defnyddio timau amlddisgyblaethol i ddatblygu eu rhaglen ‘Cwmwl yn Gyntaf’  

Bydd Lesley Jones (Cofnod Gofal Nyrsio Cymru) a Frances Beadle (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)  yn trafod sut maent wedi gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i ddigideiddio cofnodion gofal nyrsio, a’r effaith gadarnhaol y mae hyn wedi ei gael.

Bydd Ann Kempster (Pennaeth Darparu, CDPS) yn amlinellu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen i ddatblygu timau amlddisgyblaethol, a sut mae ein gwaith yn cefnogi hyn.

Cofrestrwch

Dydd Mawrth, 2 Tachwedd, 1pm

https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_Vq-coIQuStGzqqyBLQFnzg

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *