Rhannu gwybodaeth – hyrwyddo’r Gymraeg
21 Rhagfyr 2020
Dangosodd ein gwaith ymchwil defnyddwyr a gynhaliwyd gyda chyflogeion y sector cyhoeddus yng Nghymru i ni
- fod cefnogaeth gref i hyrwyddo’r Gymraeg
- bod y pethau sy’n rhwystro hyn rhag digwydd yn rhai ymarferol yn bennaf: diffyg arian, pobl, offer a chanllawiau
Ni ddylai’r cynnwys Cymraeg sy’n rhan o wasanaethau digidol Cymraeg fod yn fater o gyfieithu cynnwys Saesneg i’r Gymraeg yn unig. Efallai bod cyfieithu uniongyrchol yn dechnegol gywir, ond fe all swnio’n rhyfedd i siaradwyr Cymraeg, a fyddai’n aml yn dweud pethau mewn ffordd wahanol. Mae angen i ni ddeall sut mae siaradwyr Cymraeg yn ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus a sut gellir dylunio gwasanaethau i fodloni eu hanghenion a hyrwyddo’r Gymraeg.
Safonau Gwasanaeth Digidol
Dyna pam rydym wedi cynnwys hyrwyddo’r Gymraeg yn ein Safonau Gwasanaeth Digidol, sef y safonau rydym yn gofyn i’r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu bodloni.
‘Hyrwyddo’r Gymraeg – dylai gwasanaethau yng Nghymru fodloni anghenion pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Dylai timau ddylunio a chreu gwasanaethau sy’n hyrwyddo ac yn hwyluso’r Gymraeg a thrin defnyddwyr sy’n ei siarad yn gydradd â’r rhai sy’n ffafrio’r Saesneg.’
Pan gyhoeddon ni ein safonau drafft gyntaf, trafodwyd p’un a ddylai gofynion yn ymwneud â’r Gymraeg gael eu nodi ar wahân neu a ydynt yn rhan o ‘anghenion defnyddwyr’. Mae’r safon hon yn ymwneud â chael dealltwriaeth go iawn o anghenion pobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac roedd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo ei bod yn briodol cael safon sy’n canolbwyntio’n benodol ar sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hymsefydlu yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu dylunio a’u darparu.
Cofrestrwch yma
Ymunwch â ni ddydd Mercher 20 Ionawr o 4-5 pm pan fyddwn yng nghwmni Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu â Chwsmeriaid yn Dŵr Cymru ac aelod o’n Panel Cynghori, Jeremy Evas o Is-adran y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, a Heledd Evans, Rheolwr Gwasanaethau Digidol Cyfoeth Naturiol Cymru, i ystyried sut gall gwasanaethau cyhoeddus helpu i hyrwyddo’r Gymraeg a bodloni anghenion defnyddwyr. Gallwch gofrestru yma:
https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZcsdOCrqDsiGtymAixU_rfu19St5rUHm0H-