Rhannu gwybodaeth – gwneud y penderfyniadau technegol cywir

11 Mehefin 2021

Pwnc y gweminar mis yma oedd ‘Gwneud y penderfyniadau technegol cywir’. Roedd yn wych gweld pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn dod at ei gilydd i ddysgu mwy am sut i wneud y penderfyniadau technegol cywir er mwyn cynnig gwasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru.

Trosolwg o’r sesiwn

Cawsom gwmni Dai Vaughan, sydd yn aelod o banel cynghori’r ganolfan, a gyda phrofiad eang o weithredu systemau technegol yn y sector gyhoeddus. Siaradodd Dai am y dewisiadau technegol ydym ni’n eu gwneud, sut i wneud yn siŵr y byddant yn addas i’r dyfodol a rheoli cytundebau TG sydd wedi eu hetifeddu.

Rhoddodd Sam Hall, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol drosolwg i ni o’r heriau technegol yn y sector gyhoeddus a beth sydd angen newid. Bu’n sôn am y diffyg hyblygrwydd a’r angen i wneud penderfyniadau dewr yn fwy effeithiol.

Yn olaf, clywsom gan Mike Ogonovsky, Prif Swyddog Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cawsom drosolwg o’r gwaith mae wedi ei wneud yn arwain ymgynghoriadau fideo ac effaith COVID-19 ar gynnydd, defnydd a diwylliant.

Trafodaeth a chwestiynau

Yn dilyn y cyflwyniadau, trafodwyd ystod eang o bynciau gan gynnwys:

Diolch i bawb ymunodd gyda ni ac a gymerodd ran yn y sesiwn.

Gwylio recordiad o’r sesiwn

Os na wnaethoch chi lwyddo i ymuno a’ch bod yn dymuno gwrando ar y drafodaeth, mae recordiad o’r sesiwn yma:

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *