Rhannu gwybodaeth – dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
29 Tachwedd 2021
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar rhannu gwybodaeth nesaf pan fyddwn ni’n edrych ar ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Mae’n trydedd Safon Gwasanaeth Digidol yn dweud:
Dylai anghenion defnyddwyr yrru cynllunio gwasanaethau, pwy bynnag yw’r defnyddwyr hynny. Mae anghenion defnyddwyr yn bwysicach na chyfyngiadau strwythurau busnes, seilos sefydliadol neu dechnolegau.
Bydd y sesiwn yn edrych ar:
- ystyr dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- rôl Ymchwilwyr Ddefnyddwyr mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- y ffyrdd mae sefydliadau wedi cynnwys defnyddwyr wrth ddylunio eu gwasanaethau
Byddwn yn clywed gan Amelia Still, Ymchwiliwr Ddefnyddwyr sy’n gweithio gyda thîm Sgiliau a Galluoedd CDPS. Bydd yn siarad am ei rôl hi mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Cawn glywed astudiaethau achos o ddau sefydliad wedyn, a sut maen nhw wedi defnyddio dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer eu gwasanaethau nhw:
Dafydd Tudur o’r Llyfrgell Genedlaethol
Tom Norman o Barnardo’s
Cofrestrwch yma:
Dydd Mercher 15 Rhagfyr
https://us02web.zoom.us/webinar/register/4616381864236/WN_Qn3ZWU9zTzmEeSTE8X7SvQ