Rhannu gwybodaeth – dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
20 Rhagfyr 2021
Yn ein gweminar ddiweddaraf i rannu gwybodaeth, edrychom ar ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr wedi’i seilio ar Safonau Gwasanaeth Digidol.
Maent yn datgan: ‘Dylai’r broses o ddylunio gwasanaethau gael ei sbarduno gan anghenion defnyddwyr, pwy bynnag yw’r defnyddwyr hynny. Mae anghenion defnyddwyr yn bwysicach na chyfyngiadau strwythurau busnes, seilos sefydliadol neu dechnolegau.’
Trosolwg o’r sesiwn
Clywsom gan Amelia Still, Ymchwilydd Defnyddwyr sy’n gweithio yn nhîm sgiliau a gallu CDPS. Edrychodd ar rôl ymchwilydd defnyddwyr mewn dylunio cynnyrch digidol, ac aeth â ni drwy’r pwy, beth, sut a pham o ran dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Rhoddodd syniadau ymarferol ar sut i ddechrau cymhwyso technegau ymchwil defnyddwyr i wella gwasanaethau.
“Mae angen i ni wneud pethau sy’n cyfateb i’r ffordd y mae pobl, a pheidio â disgwyl i bobl ystumio eu hymddygiad i ddefnyddio ein gwasanaeth.”
Rhoddodd Tom Norman, Pennaeth Dylunio Gwasanaethau yn Barnardo’s (@BarnardosLab), dair enghraifft o sut maent yn dylunio gwasanaethau wedi’u seilio ar ddull sy’n canolbwyntio ar bobl, a oedd yn cynnwys datblygu ap i helpu pobl ifanc i bennu nodau, cyd-ddylunio rhaglen newid wedi’i harwain gan bobl ifanc, a datblygu strategaeth iechyd a gofal.
Trafodaethau a chwestiynau
Yn y drafodaeth ddilynol, trafodwyd ystod eang o bynciau:
- terminoleg – y gwahaniaeth rhwng dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl
- sut i gynnwys y defnyddiwr fel llais i ddylanwadu a meithrin ymddiriedaeth wrth ddylunio gwasanaethau
- adnoddau a chyngor i helpu sefydliadau sy’n anghyfarwydd â dylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- hyfforddiant arfaethedig gan CDPS yn 2022 i gefnogi hyn
Os nad oeddech yn gallu cymryd rhan yn y weminar, gallwch weld y recordiad yma:
Mae @BarnardosLab yn cynnal sesiynau ‘Brecwast Arloesi’ i unrhyw un sydd â diddordeb neu sy’n rhan o ddylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Cadwch lygad ar eu ffrwd Twitter am fwy o wybodaeth.
I gael y newyddion diweddaraf gan CDPS (gan gynnwys ein harlwy hyfforddiant), cofrestrwch i gael ein cylchlythyr.