Rhannu gwybodaeth – dylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr
11 Rhagfyr 2020
Diolch yn fawr i bawb a ymunodd â’r weminar gyntaf yn ein cyfres rhannu gwybodaeth yr wythnos hon. Rydym yn awyddus i ddarparu cynifer o gyfleoedd â phosibl i rannu gwybodaeth, dysgu ac ymgysylltu. Yn y digwyddiad cyntaf hwn, daeth dros 30 o bobl at ei gilydd o bob rhan o Gymru i edrych ar sut gall dylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Trosolwg o’r sesiwn
I ddechrau’r sesiwn, clywodd y grŵp gan Darius Pocha, sef sylfaenydd Create/Change ac aelod o Banel Cynghori’r Ganolfan; Jess Neely, Arweinydd Ymchwil a Dylunio Gwasanaethau yn Perago; ac Ian Vaughan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. O egwyddorion dylunio gwasanaethau i gymunedau o ddiddordeb a darpariaeth ymarferol, dyma rai o’r pwyntiau allweddol gan y tri siaradwr:
- ein man cychwyn yw bod rhaid i ni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd â’r bobl sy’n eu defnyddio
- yng Nghymru, mae gennym:
- wasanaethau cyhoeddus y mae angen eu dylunio
- pobl sydd â’r sgiliau i’w dylunio
- pobl sydd eisiau dysgu sgiliau dylunio gwasanaethau
- nid oes gennym:
- ddigon o gyfleoedd i bobl fedrus
- llwybrau i bobl ymuno â’r proffesiwn
- mae defnyddio ymagwedd dylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn ein helpu i ddylunio’r peth iawn i’r cwsmer
- heb ddylunio gwasanaethau, nid oes gweddnewidiad go iawn
Ymdriniodd y drafodaeth a ddilynodd â sgiliau a gallu, gweddnewid gwasanaethau trwy’r pandemig a rhannu heriau ac arfer da.
Beth sydd nesaf?
Rydym bellach yn ystyried ffyrdd eraill o ddod â phobl at ei gilydd a pharhau â’r sgwrs. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, os hoffech rannu unrhyw wersi a ddysgwyd neu os hoffech gael gwybod mwy, cysylltwch â ni info@digitalpublicservices.gov.wales
Os nad oeddech yn gallu mynychu’r sesiwn, ond hoffech glywed y sgwrs, mae’r recordiad ar gael yma: