Rhannu gwybodaeth – defnyddio data i wneud penderfyniadau
18 Ionawr 2022
Ymunwch â ni yn ein gweminar rhannu gwybodaeth nesaf i archwilio sut gall data gael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau o fewn dylunio gwasanaeth.
Mae ein Safonau Gwasanaeth Digidol yn datgan:
Dylem fesur pa mor dda mae gwasanaethau’n gweithio i ddefnyddwyr yn gyson. Dylai timau ddefnyddio data am berfformiad i ganfod a blaenoriaethu gwelliannau. Lle y bo’n bosibl, dylai’r data hwnnw fod yn awtomataidd ac mewn amser real, er mwyn iddo fod mor wrthrychol a hawdd ei gasglu â phosibl.
Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu:
- sut gall data gael ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau i wella gwasanaethau
- astudiaethau achos lle y mae data wedi dylanwadu ar ailadrodd gwasanaeth
Rydyn ni wedi trefnu siaradwyr gwych:
- Bydd John Morris o dîm data a daearyddiaeth Llywodraeth Cymru yn archwilio sut gallwn ddefnyddio data’n well ac yn fwy deallus.
- Bydd Jeremy Griffith o raglen frechu COVID Cymru yn sôn am sut maen nhw’n defnyddio data i wneud penderfyniadau yn y fan a’r lle.
- Bydd Suzanne Draper o Ddata Cymru yn sôn am yr hyfforddiant a’r cymorth maen nhw’n eu cynnig i’r rhai sydd eisiau gwella eu sgiliau dadansoddi data.
Cofrestrwch:
Dydd Mawrth 25 Ionawr
11am – 12pm
https://us02web.zoom.us/webinar/register/7016418319225/WN_Y0p1YKn6Q1CWQwxeT0TR9Q