Rhannu gwybodaeth – cynyddu gallu yng Nghymru

24 Chwefror 2021

Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar nesaf yn y gyfres rhannu gwybodaeth pan fyddwn ni yn edrych ar sgiliau a gallu digidol.

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae nifer ohonom wedi gwneud newidau mawr yn sut a ble ydym ni’n gweithio, sut ydym ni yn cynnig gwasanaethau a sut ydym ni yn byw ein bywyd o ddydd-i-ddydd.

Mae’r byd digidol wedi bod yn ganolog ac wedi’n galluogi i ymateb ar gyflymder sydd wedi synnu amryw, ac sydd i’w ganmol. Ond nid yw hynny yn golygu fod y newid wedi bod yn hawdd.

I rai pobl, mae wedi bod yn her gweithio mewn ffyrdd newydd ar blatfformau newydd. Rhai wedi gorfod newid yr hen ffyrdd o wneud pethau a cheisio eu hail-greu ar y tirlun digidol. I eraill, mae wedi bod yn anoddach ac wedi amlygu’r gwahaniaeth sydd yna rhwng y rhai sydd yn gyfforddus yn y byd digidol a’r rhai nad ydynt, a’r rhai sydd yn gallu cael mynediad i isadeiledd digidol a’r rhai na all.

O ysgolion i weithleoedd, sut ydym ni yn cefnogi gweithlu heddiw tra’n datblygu gweithlu’r dyfodol? Pa gefnogaeth ddylai fod ar gael i’r rheiny sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? Nid yn unig i roi y sgiliau angenrheidiol iddyn nhw wneud y swyddi maen nhw wastad wedi eu gwneud, ond hefyd i addasu a gwella y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu?

Cofrestrwch yma 

Ymunwch gyda ni rhwng 1-2pm dydd Mercher, 10 Mawrth ar gyfer y bedwaredd yn ein cyfres rhannu gwybodaeth pan fyddwn ni yn cael cwmni yr Athro Tom Crick, Simon Renault a Jo Carter. Byddant yn siarad am sgiliau digidol yng Nghymru, beth sydd angen canolbwyntio arno wrth ddarparu gwasanaeth cyhoeddus a’r pethau sydd eisoes ar waith i ni weld cynnydd mewn gallu. Cofrestrwch nawr i ymuno yn y sgwrs:

https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZAud-Csqz0qGdIfhfvUIdGEhh290re-N6GO

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *