Mae darganfod gwir anghenion pobl yn allweddol i greu gwasanaethau gwell yng Nghymru – fel mae gwaith tîm cyfunol CDPS-Chwaraeon Cymru yn ei ddangos

25 Gorffennaf 2022

Mae ymchwil defnyddwyr wedi ein helpu i ddarganfod sut gallai grwpiau cymunedol gael at grantiau chwaraeon yn haws © Pexels

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ymchwilio a dylunio buddsoddiad cymunedol (gwasanaeth rhoi grantiau) y gallai grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon yng Nghymru ei ddefnyddio’n haws ar-lein.

Deall eich cynulleidfa

Un o nodau Chwaraeon Cymru yw cynyddu cyrhaeddiad ei grantiau, yn enwedig ymhlith grwpiau sydd dan anfantais.

Er mwyn helpu cyflawni’r nod hwnnw, roedd angen i’r tîm dylunio gwasanaeth ddeall y broses ymgeisio bresennol yn well a’r mathau o grwpiau a oedd eisoes yn gwneud cais am grantiau. Roedd hefyd rhaid i ni ddysgu mwy am bobl a allai elwa o gyllid ond nad oeddent erioed wedi gwneud cais, a beth allai fod yn eu hatal rhag gwneud hynny.

Rhoddodd y tîm flaenoriaeth i ymchwil defnyddwyr yn ein gwaith. Roedd hynny wedi ein galluogi i ddeall:

  • pwy yw’r ymgeiswyr – presennol a phosibl  
  • beth mae ymgeiswyr ei angen  
  • sut oeddent wedi dod o hyd i fuddsoddiadau a grantiau Chwaraeon Cymru a chael atynt 
  • sut oedd y broses ymgeisio o’u safbwynt nhw 
  • pwy a beth oedd wedi dylanwadu arnynt i wneud cais i Chwaraeon Cymru 
  • sut gellid gwella profiad y defnyddiwr i helpu cynyddu cyrhaeddiad y cyllid buddsoddi sydd ar gael, a mynediad ato 

Defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau da

Yn ystod y cam darganfod, fe gasglon ni ddigon o wybodaeth a’n helpodd i gyflwyno achos cryf dros archwilio, dylunio a phrofi proses ymgeisio well.

Fe ganfuon ni fod rhwystrau sylweddol a oedd yn creu anghytgord ac yn atal ymgeiswyr posibl. Roedd iaith ddryslyd, anallu i gael gafael ar gymorth a’r angen i ddarparu lefel feichus o wybodaeth i gyd yn cyfrannu at y profiad hwnnw. Rydyn ni wedi blogio’n fanylach am yr hyn a ddysgon ni yn ein canfyddiadau diwedd y cam darganfod.

Helpodd ein gwaith ymchwil ni i fireinio dyluniad, ymarferoldeb a chynnwys ein prototeipiau cychwynnol © Unsplash

Ehangu ein dealltwriaeth yn ystod y cam alffa

Fe gymeron ni’r hyn a ddysgon ni yn y cam darganfod a’i ddatblygu ymhellach, gan archwilio 3 ffrwd waith yn rhan o’r cam alffa. Un o’r ffrydiau hyn oedd datblygu prototeip o’r gwasanaeth arian grant, y gwnaethon ni ei brofi gyda defnyddwyr go iawn, a’i ailadrodd mewn cylchoedd pythefnosol (“gwibiadau”).

Gwelodd CDPS a Chwaraeon Cymru fudd ymestyn y cam alffa am 14 wythnos arall i ganolbwyntio’n unig ar ddylunio, profi ac ailadrodd prototeipiau o’r broses ymgeisio. Fe barheuon ni i wneud hynny gyda grwpiau o gynulleidfaoedd a oedd wedi gwneud cais am gyllid yn y gorffennol, yn ogystal â’r rhai hynny nad oeddent erioed wedi gwneud cais i Chwaraeon Cymru yn flaenorol.

Ein nod yw sicrhau bod y broses ymgeisio’n agored ac yn gynhwysol i bawb.

Datblygu gwasanaethau gwell trwy ymchwil

Mae ein gwaith ymchwil yn parhau i helpu’r tîm i fireinio dyluniad, ymarferoldeb a chynnwys ein prototeipiau cychwynnol.

Bydd y wybodaeth a gawn ni gan ymgeiswyr posibl yn ein helpu i ddatblygu fersiynau o’n prototeipiau hyd nes y gallwn ddylunio a darparu gwasanaeth sy’n hawdd ei ddeall a’i lywio ac sy’n cefnogi proses ymgeisio gadarnhaol.

Mae ymchwil defnyddwyr, ochr yn ochr â dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn elfen allweddol o sut y dylai’r sector cyhoeddus yng Nghymru greu a darparu gwasanaethau.

Trwy ddefnyddio dull a ffyrdd o weithio Ystwyth, byddwn yn parhau y tu hwnt i’r cam alffa i ymchwilio a chanfod beth sy’n gweithio ac ailadrodd y gwasanaeth. Dyna sut byddwn yn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion pobl a all elwa o fuddsoddiad cymunedol a chymorth Chwaraeon Cymru.