5 Ionawr 2022

Fel tîm prosiect, rydyn ni'n archwilio “sut gall Chwaraeon Cymru gynyddu cyrhaeddiad ac effaith eu buddsoddiadau cymunedol (grantiau)?"

Rydyn ni yn y cam alffa ar hyn o bryd, ac mewn postiad blog diweddar, fe wnaethon ni nodi y byddai hyn yn cynnwys gweithio ar greu, profi ac ailadrodd prototeip o broses ymgeisio o'r dechrau i'r diwedd sy'n bodloni anghenion defnyddwyr ar yr un pryd â chyflawni'r canlyniadau sy'n ofynnol gan Chwaraeon Cymru.  

Bydd y tîm yn gwerthuso 4 prototeip yn ystod y cam hwn.   

Mae angen gwneud llawer iawn o waith paratoi ar gyfer sesiwn werthuso, gan gynnwys recriwtio, dewis cyfranogwyr, creu fframiau gwifren, cytuno ar gynnwys a chynnal sesiynau i rannu a thrafod yr hyn a ddysgwyd.  

Prototeip - profi ein syniadau 

Mae ein prototeipiau'n canolbwyntio ar y meysydd allweddol a godwyd fel materion yn ystod y cam darganfod. Meysydd rhyngweithio gan ddefnyddwyr fel cofrestru ar gyfer cyfrif hyd at ymgeisio am grant. Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn helpu pobl i esbonio pam mae arnyn nhw angen y grant a disgrifio sut byddai eu clwb a'u cymuned yn elwa. 

Enghreifftiau o brototeip 

Nid cynnyrch gorffenedig yw prototeip, ond yn hytrach dechrau sgwrs gyda'ch defnyddwyr. Rydyn ni'n defnyddio prototeipiau i ofyn cwestiynau ac ysgogi sgwrs. 

Fe ddefnyddion ni brototeipiau a fframiau gwifren technoleg isel ar bapur i ddechrau, ac er nad yw defnyddwyr yn gallu rhyngweithio â nhw, maen nhw'n ffordd gyflym a rhwydd o sefydlu cysyniadau lefel uchel.  

Rhoddir isod enghreifftiau o fframiau gwifren a dynnwyd â llaw a fframiau gwifren digidol cynnar a ddefnyddiodd y dylunwyr yn ystod y sesiynau gwerthuso.  

Yna, troswyd y rhain yn brototeipiau uwch-dechnoleg mwy realistig, profadwy a rhyngweithiol.  

Bydd y rhain yn cael eu hailadrodd i greu prototeipiau dilynol wrth i ni barhau i ddysgu mwy gan ein cyfranogwyr yn ystod pob rownd o werthuso. 

Beth ydyn ni'n ei glywed gan gyfranogwyr?  

Yn ystod y cam darganfod, fe glywson ni y dylai'r ffurflen gais fod yn fyrrach, yn symlach, ac yn gliriach: 

“Rydyn ni'n cael ein cynnal gan amaturiaid sy'n rhoi o'u hamser, gwirfoddolwyr” 

“Mae angen i'r broses fod yn symlach” 

“Mae'r ffurflen yn anodd ei deall - mae'r geiriau sy'n cael eu defnyddio yn rhy fawr”  

[dyfyniadau gan ddefnyddwyr o'r cam darganfod] 

Mae'r themâu sy'n dod i'r amlwg o'r sesiynau gwerthuso yn adlewyrchu hyn.  

Roedd y cyfranogwyr yn teimlo y dylai lefel yr ymrwymiad fod yn gymesur â faint o arian grant maen nhw'n gofyn amdano. Proses symlach ar gyfer grant bach gan gydnabod y bydden nhw'n disgwyl rhoi mwy o wybodaeth petaen nhw'n gwneud cais am grant mwy, i fodloni gofynion Chwaraeon Cymru.  

“faint o amser ydw i'n ei dreulio i gael swm bach o arian?” 

Mae iaith blaen a gwybodaeth wedi'i chyflwyno'n glir yn hanfodol. Cyfeiriodd bron bob un o'r cyfranogwyr at hyn yn ystod y sesiynau gwerthuso. Mae angen i ni esbonio'n glir wrth ddefnyddwyr beth mae angen iddyn nhw ei wneud a sicrhau ei bod mor syml â phosibl iddyn nhw wneud hynny.  

“Penawdau cliriach. Brawddegau byrrach, llai geiriog” 

“Mae'n teimlo'n llai biwrocrataidd ac yn fwy cyfeillgar” 

“Rwy'n hoffi'r ffordd y mae wedi'i gosod, mae'n glir beth rydych chi'n gofyn i fi ei wneud.”  

Rydyn ni'n gofyn i ddefnyddwyr gyflawni sawl tasg, gan gynnwys creu cyfrif, gwirio i weld a yw eu sefydliad yn gallu cael cyllid, gwirio i weld a yw eu prosiect penodol yn gymwys, gwneud cais am grant a rheoli cyfrif.  

Dywedodd y cyfranogwyr nad oedd bob amser yn amlwg ble'r oedden nhw arni yn y broses, ac mae angen i ni wneud hynny'n gliriach mewn fersiynau yn y dyfodol.  

“Byddwn i'n disgwyl cael manylion cofrestru o fewn munudau oherwydd rydw i eisiau dechrau'r cais nawr”. 
 

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn y prototeip nesaf cyn y sesiwn werthuso nesaf.  

Beth nesaf?

Pan fydd pob rownd gwerthuso wedi'i chwblhau, byddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau, yr hyn a ddysgwyd, a'n hargymhellion i'n noddwr o fewn Chwaraeon Cymru.  

Bydd hyn yn ei helpu i ystyried y camau nesaf ar gyfer y prototeip y tu hwnt i'r cam alffa presennol.  

Byddwn hefyd yn rhannu hyn mewn postiad blog ar ddiwedd y cam alffa yn gynnar yn 2022. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith hyd yma, gwnewch sylw isod neu cysylltwch ag info@digitalpublicservices.gov.wales 

Postiad blog gan: Tîm Alffa Chwaraeon Cymru