20 Hydref 2021

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wedi cyhoeddi penodi Myra Hunt a Harriet Green fel Prif Weithredwr newydd y sefydliad. Dyma’r tro cyntaf i swydd ar y lefel hon gael ei rhannu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Bydd y ddwy yn ymuno wedi pum mlynedd yn Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU (Defra), ble roedden nhw’n rhannu rôl Prif Swyddog Digidol am bum mlynedd ac yn arwain ar drawsnewid gwasanaethau digidol. Cyn hynny roeddent yn gyfrifol am drawsnewid digidol gwasanaethau addysg yn fyd eang  gyda’r Cyngor Prydeinig.

https://youtu.be/o2zAEUP7Dcs

Jessica Leigh Jones, yw cadeirydd CDPS, dywedodd: “Rwy’n hapus iawn i groesawu Myra a Harriet fel Prif Weithredwr newydd ar y cyd, yn dilyn proses recriwtio trwyadl. Mae’n gyfnod hynod o gyffrous i’r CDPS, i’r sector digidol ac i Gymru. Maen nhw’n dod â phrofiad sylweddol o drawsnewid digidol a chyfathrebu gyda nhw, yn ogystal â phartneriaeth unigryw i’n harwain at lwyddiant strategol.” 

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’n Prif Weithredwr presenol Sally Meecham, sy’n gadael CDPS mewn sefyllfa gref i gyflawni amcanion y Strategaeth Ddigidol i Gymru, yn dilyn ei gwaith o sefydlu a chryfhau proffil ac impact y Ganolfan.”