Bydd cyfeirlyfr o sefydliadau sy’n helpu pobl Cymru i fynd ar-lein yn gwella’r rhagolwg ar gyfer llawer sydd eisoes dan anfantais, yn ôl Aoife Clark

7 Ebrill 2022

Canfu'r DLR fod pobl sy'n anabl neu'n dlawd ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu hallgáu'n ddigidol © SHVETS/Pexels

Y rhaniad digidol yw’r bwlch rhwng pobl sydd â mynediad hawdd at fuddion technoleg ddigidol a’r rhai sydd hebddo. Nid yw’r bwlch hwnnw’n newydd, ond roedd y pandemig wedi’i ledu, pan ddaeth fynediad ar-lein at wasanaethau yn bwysicach fyth.

Mae’r Ganolfan Economeg ac Ymchwil Fusnes, sy’n rhagfynegi tueddiadau cymdeithasol, wedi amcangyfrif y bydd 6.9 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn parhau i fethu mynd ar-lein erbyn 2028 heb gymorth. Yng Nghymru, nid yw 7% o’r boblogaeth 16 oed a hŷn ar-lein. Mae’n hynny’n gyfystyr â thua 180,000 o bobl, ac mae’n ganran uwch na gweddill y Deyrnas Unedig. 

Mae bod ar-lein yn caniatáu i bobl gael mynediad at ystod ehangach – ac felly rhatach – o nwyddau a gwasanaethau. Mae hefyd yn cysylltu pobl â’i gilydd, gan leihau unigrwydd ac ynysigrwydd. Pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw’r rhai hynny nad ydynt yn gallu mynd ar-lein oherwydd diffyg sgiliau technegol neu fynediad at y dechnoleg neu’r seilwaith angenrheidiol. Mae’r ynysigrwydd a’r rhwystrau hynny’n cyfrannu at iechyd gwaeth ar gyfer pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae hynny’n golygu bod cynhwysiant digidol yn fater cymdeithasol – ac un a ddylai fod yn bwysig i ni. 

Ymgysylltu â’r byd digidol

Yn ddiweddar, gofynnodd Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol yn Llywodraeth Cymru i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) adolygu’r hyn sy’n cael ei wneud yng Nghymru i gael pobl ar-lein a’u cynnwys yn ddigidol.

Yn rhan o’i Hadolygiad o’r Dirwedd Ddigidol, mae CDPS yn arolygu’r cymorth sydd ar gael i helpu pobl i fynd ar-lein yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn edrych ar ba grwpiau yng Nghymru, a pha leoliadau, y mae’r cymorth hwn wedi’i anelu atynt. O’r wybodaeth hon, rydyn ni’n creu ‘cyfeirlyfr cynhwysiant digidol’ sy’n rhoi trosolwg o’r hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar draws y wlad. 

Yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu

Mae tîm yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol wedi siarad â 18 sefydliad yn ystod yr wythnosau diwethaf am sut maen nhw’n gwella cynhwysiant digidol yng Nghymru. Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno ein gwaith i 3 rhwydwaith sy’n ymgyrchu dros gynhwysiant digidol: Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd a Bwrdd y Rhaglen Sgiliau a Chynhwysiant Digidol. 

Dyma ddau beth pwysig rydyn ni wedi’u dysgu o’r sgyrsiau hyn hyd yma: 

  1. Mae cynhwysiant digidol yn fater cymdeithasol

Pobl sydd eisoes dan anfantais, fel pobl dlawd neu anabl, yw’r rhai sy’n fwyaf tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae allgáu digidol yn lledu’r bwlch anghydraddoldeb cymdeithasol.

Amlygwyd y mater hwn mewn sgwrs a gawson ni gydag un sefydliad, sef Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, a ddywedodd wrthym am unigolyn a oedd mewn perygl o dorri rheolau’r gwasanaeth prawf os nad oedd yn llenwi ffurflen ar-lein. Heb unrhyw ddyfeisiau â mynediad at y rhyngrwyd, ni fyddai’r unigolyn wedi gallu llenwi’r ffurflen heb gymorth y sefydliad.

2. Mae cannoedd o sefydliadau’n awyddus i wneud gwahaniaeth

Yr hyn a ddaeth i’r amlwg i dîm yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf yw faint o frwdfrydedd sydd i gynnwys pobl, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau, mewn byd cynyddol ddigidol. Mae gan Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru fwy na 70 o aelodau, ac mae cannoedd o sefydliadau wedi llofnodi Siarter Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru. 

Mae’r cymorth yn cynnwys hyfforddiant digidol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr gan y rhaglen fawr Cymunedau Digidol Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd yna’n trosglwyddo sgiliau ymlaen i breswylwyr eraill yng Nghymru. Mae sefydliadau fel Busnes yn y Gymuned yn rhoi dyfeisiau sydd wedi’u llwytho â lwfans data o flaen llaw i grwpiau ac unigolion, fel nad oes rhaid iddynt boeni am gysylltiad band eang. 

Yn ogystal, mae llyfrgelloedd yn cynnal hyfforddiant digidol ledled Cymru, ac mae awdurdodau lleol yn cynnig rhaglenni i wella sgiliau digidol pobl ar gyfer gwaith.

Yng Nghymru, nid yw 7% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd ar-lein, canran uwch na gweddill y DU © Georg Arthur Pflueger/Unsplash

Darlun llawn cynhwysiant digidol 

Mae tîm yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol yn bwriadu gorffen fersiwn gyntaf y cyfeirlyfr erbyn y Pasg a’i chyhoeddi’n fuan wedi hynny. 

Bydd cael darlun llawn o waith cynhwysiant digidol ledled Cymru yn ein helpu i wneud dau beth. Yn gyntaf, byddwn yn gallu arwain polisi Llywodraeth Cymru i gael mwy o bobl ar-lein. 

Yn ail, bydd y cyfeirlyfr yn caniatáu i sefydliadau sy’n ymwneud â chynhwysiant digidol, a’r bobl maen nhw’n eu helpu, gael gwybod beth arall sy’n digwydd gerllaw. Bydd hynny’n darparu cyfleoedd i rannu gwybodaeth a gweithio ar brosiectau gyda’i gilydd. 

Mae canran y bobl nad ydynt ar-lein yng Nghymru wedi gostwng o 19% i 7% yn ystod y 6 blynedd diwethaf. Credwn y gall y cyfeirlyfr cynhwysiant cymdeithasol helpu gostwng y ffigur hwnnw ymhellach fyth. 

Mae Aoife Clark yn ymchwilydd defnyddwyr yn yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol

Os oes unrhyw waith cynhwysiant digidol yng Nghymru – neu ymhellach i ffwrdd – y dylem ni wybod amdano, rhowch wybod i ni yn y blwch sylwadau isod.