Penodi panel cynghori ar gyfer Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
13 Hydref 2020
Mae panel cynghori wedi’i benodi i gefnogi cyfnodau cychwynnol Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru.
Mae panel cynghori ag un ar ddeg o unigolion wedi’i sefydlu i helpu llywio cyfeiriad Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS).
Bydd y panel yn gweithio gyda Chadeirydd y Ganolfan, Sally Meecham, i gefnogi a herio CDPS er mwyn sicrhau bod anghenion defnyddwyr yn parhau yn flaenllaw o ran strategaeth a chyflwyno. A hwythau wedi’u dewis i rannu’u profiad a’u gwybodaeth, bydd y panel yn llais cyhoeddus cefnogol ar drawsnewid llywodraeth, gan gynyddu ymwybyddiaeth o gynnydd a materion.
Dywedodd Cadeirydd CDPS, Sally Meecham, ‘Dod o hyd i bobl sy’n frwd dros wasanaeth cyhoeddus oedd hyn, a’r cyfleoedd y gall digidol eu cynnig i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Roeddem eisiau creu panel â phrofiadau, addysg ac agweddau amrywiol, ac rwy’n hynod falch â’r ymateb a’r ystod wych o aelodau panel sy’n ymuno â ni’.
Bydd y Ganolfan yn adolygu aelodaeth y panel yn barhaus i sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r profiad a’r cefndir sydd eu hangen i lywio’r gwaith wrth iddo ddatblygu.
Cafodd y Ganolfan ei chreu ym mis Mehefin 2020 i sicrhau bod y sgiliau, y wybodaeth a’r galluoedd gan y sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflenwi gwasanaethau wedi’u trawsnewid yn ddigidol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau’r defnyddiwr. Bydd yn denu cyfleoedd a buddsoddiad newydd i Gymru drwy arddangos ymagwedd gydgysylltiedig, aml-sefydliadol a digidol-alluog ein gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
Aelodau Panel Cynghori’r CDPS

A hithau’n arbenigwr mewn dysgu technoleg ac ymarfer digidol, mae Esther wedi ymwneud llawer â’r mudiad llythrennedd digidol a datblygu’r strategaeth genedlaethol ar gyfer cyflwyno digidol ar gyfer y sectorau addysg ôl-16 yng Nghymru. Mae’n darparu gweithdai ymgynghoriaeth a gweithdai ysbrydoledig sy’n cwmpasu llawer o themâu digidol, yn cynnwys arweinyddiaeth, cyflogadwyedd, dysgu cyfunol a dysgu hybrid ac asesu, a gallu staff. Mae ei hastudiaeth PhD yn archwilio iaith ac addysg ar-lein.

Eddie yw Cyfarwyddwr y London Office of Technology and Innovation (LOTI), sy’n helpu bwrdeistrefi i weithio gyda’i gilydd, gan ddod â’r gorau o ddigidol, data ac arloesi i wella gwasanaethau cyhoeddus i Lundeinwyr. Mae hefyd yn aelod o’r Smart London Board, sef grŵp sy’n cynghori Maer Llundain. Yn 2018 a 2019, roedd ar restr Apolitical o’r 100 o Bobl Mwyaf Dylanwadol y Byd mewn Llywodraeth Ddigidol.

Ross Ferguson yw’r Arweinydd Cynnyrch ar gyfer GDS Expert Services, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Border Protocol Delivery Group fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflenwi Cynnyrch. Yn flaenorol, roedd yn gysylltiedig â sefydlu’r Canadian Digital Service fel ei Gyfarwyddwr Llwyfan, ac mae wedi gwasanaethu fel Pennaeth y gymuned Rheoli Cynnyrch ar gyfer Llywodraeth y DU.

Mae Sabrina yn Seicolegydd Siartredig, a’i rôl bresennol yw Arweinydd Lles yng Nghyngor Swydd Essex, gyda ffocws ar yrru eu hagenda lles y gweithlu. Mae Sabrina yn frwd ynghylch defnyddio ymagweddau seicolegol i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy, arloesol sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr. Mae gan Sabrina ddiddordeb personol mewn gwaith trawsnewid digidol a’r rhan y gall lles a newid ymddygiad ei chwarae yn hyn.

Mae Alun yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid ac Ymgysylltu yn Dŵr Cymru Welsh Water ar ôl ymuno â’r cwmni fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn 2012 i ddechrau. Yn flaenorol, mae Alun wedi arwain timau cyfathrebu yn BBC Cymru Wales, Plaid Cymru a Transport for London. Ac yntau o Rymni yn wreiddiol, bu’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Mae Anne yn gyd-sylfaenydd Cwmni Buddiannau Cymunedol Barod, ac ar hyn o bryd mae’n cwblhau doethuriaeth yn Ysgol Fusnes Bangor. Mae’n frwd ynghylch bod bywyd cyhoeddus mor hygyrch ag y bo modd trwy ddylunio, yn hytrach nag fel ôl-ystyriaeth. Ei harwyddnod yw helpu cymunedau a grwpiau cymdeithasol gwahanol i gyfathrebu a gweithio gyda’i gilydd i gyflawni hyn.

Mae Dafydd yn arbenigwr technoleg ddigidol â phrofiad helaeth yn helpu llywodraethau a chwmnïau i addasu i oes y rhyngrwyd. Roedd yn gyd-sylfaenydd Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU ac mae wedi cynorthwyo â chreu unedau gwasanaethau digidol ledled y byd. Mae wedi helpu sefydliadau i reoli problem gynyddol technoleg etifeddol anghynaliadwy a chymhleth a deall sut i adeiladu timau digidol cryf.

Mae Andy yn gyn Brif Uwch-arolygydd gyda Heddlu Gwent sydd wedi arwain ar lawer o atebion technoleg i gefnogi gorfodi’r gyfraith ledled y DU ac Ewrop. Mae’n frwd ynghylch sicrhau mai gwir lwyddiant digidol yw asesu/cipio profiad y cwsmer/defnyddiwr yn gyntaf a defnyddio’r dechnoleg fel galluogwr. Mae ganddo gysylltiadau rhwydweithio da gyda’r gymuned gwasanaethau brys ac mae ganddo dros bum mlynedd ar hugain o brofiad o reoli rhaglenni/prosiectau. Mae wedi arwain ar fentrau trawsnewid, newid a chyd-fentrau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, ac mae’n dal i weithredu fel ffrind beirniadol i uwch arweinwyr.

Dylunydd cymdeithasol Prydeinig/Indiaidd yw Darius ac mae’n gweithio gyda thimau polisi a chynnyrch ar broblemau ar lefel y boblogaeth mewn addysg, cyflogaeth, gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae’n gyd-sylfaenydd yr ymgynghoriaeth dylunio gwasanaethau Create/Change and Colour — sef cwmni gwyddoniaeth gymhwysol deallusrwydd artiffisial a data.

Mae Karen yn gweithio fel y Prif Weithredwr Cynorthwyol a’r Prif Swyddog Digidol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot lle mae’n arwain gwaith y Cyngor i harneisio potensial data a thechnoleg er mwyn cyflawni uchelgais y Cyngor i wella lles bob un o’i drigolion. Gyda graddau Meistr mewn Gweinyddu Busnes a Rheoli Adnoddau Dynol, mae Karen yn teimlo’n frwd ynghylch mynd i’r afael â’r bwlch digidol. Roedd mynd i’r afael â llythrennedd digidol yn y gweithle yn ffocws ei hastudiaeth MA mewn Rheoli Adnoddau Dynol.

Pennaeth Cynnyrch a Masnachol, y Gyfarwyddiaeth Ddigidol yn Llywodraeth yr Alban. Trish Quinn, Pennaeth Cynnyrch a Masnachol, y Gyfarwyddiaeth Ddigidol yn Llywodraeth yr Alban.