Weithiau mae pethau bychain yn gweithio yn llawer iawn gwell, medd Pete Stanton

27 Ionawr 2022

Beth sydd mor dda am dîm amlddisgyblaethol?

Yn dilyn ethos tebyg i ‘reol dau pizza’ Jeff Bezos (peidiwch byth cynnal cyfarfod lle na allai dau pizza fwydo’r grŵp cyfan), gall tîm bach, amlddisgyblaethol weithio’n well, ac yn gyflymach, nag un mwy – wrth i ni drafod mewn post yr wythnos ddiwethaf am ddarganfyddiad Cyfoeth Naturiol Cymru (cam ymchwil cychwynnol prosiect) ar drin gwastraff peryglus.

Daeth y dull o weithredu fel tîm bach, amlddisgyblaethol o weithgynhyrchu yn Japan yn y 1950au, gyda chwmnïau fel Toyota a Honda yn defnyddio timau bach, grymus, cymysg i weithio mewn dull oedd yn ailadrodd ac yn arbrofi er mwyn cyrraedd canlyniad clir – y dechneg a ddaeth i gael ei hadnabod fel ‘gweithredu ystwyth’. 

Mae dylunio gwasanaeth ystwyth yn tarddu o weithredu tîm arloesol yn y diwydiant ceir © Carlos Aranda/Unsplash

Mae’r un rheolau’n berthnasol wrth symud y senario o weithgynhyrchu ceir i adran y llywodraeth, dyweder. Gall tîm amlddisgyblaethol a neilltuir i dasg/problem benodol lwyddo’n aml oherwydd:  

  • gellir neilltuo tasgau’n haws mewn timau bach – yn enwedig pan fydd gan bob unigolyn sy’n rhan o dîm allu neu faes arbenigol penodol, sy’n gwella’r broses rhannu tasgau  
  • daw goleuni o nifer o wahanol safbwyntiau – oherwydd bod arbenigwyr amrywiol yn rhan o’ch tîm, gall pob un gynnig awgrymiadau/datrysiadau o safbwyntiau gwahanol 
  • mae pawb yn dysgu gan ei gilydd – gall pob unigolyn mewn tîm ddysgu rhywbeth newydd gan ei gydweithwyr, ac mae hynny’n cynnwys cymryd rhan mewn rhywbeth y tu allan i’w rôl benodol (e.e. ymchwil defnyddwyr)  
  • mae safbwyntiau gwahanol yn annog ailfeddwl ac ailstrwythuro prosesau – yn fyr, mae syniadau sy’n gwrthdaro fel arfer yn arwain at arloesi a gwella 
  • mae ansawdd gwasanaeth neu gynnyrch yn gwella – mae gweledigaeth eang yn caniatáu i chi greu a dylunio cynnyrch/gwasanaeth o ansawdd gwell trwy gynnwys amrywiaeth eang o arbenigwyr yn y broses 
  • mae’r tîm yn gwella’n barhaus – mae pobl yn dysgu gan ei gilydd, a chydweithio yw’r ffordd hawsaf o ddysgu. Yn ogystal, mae’r wybodaeth hon hefyd yn cael ei rhannu gyda’r holl brosiectau sy’n dilyn

Oherwydd hyn, mae timau amlddisgyblaethol yn ganolog i’r Safonau Gwasanaeth Digidol ar gyfer Cymru.

Tîm winwnsyn

Yn ogystal â’r tîm amlddisgyblaethol, mae arnoch angen tîm winwnsyn hefyd. 

Mae’n hanfodol i dîm amlddisgyblaethol gael cymorth ehangach o fewn ei sefydliad er mwyn iddo lwyddo. Os caiff y tîm ei wahanu o’r busnes, byddai hynny’n debygol o achosi problemau dibyniaeth a chyfathrebu, ac yn effeithio ar gyflawni unrhyw beth yn gyflym yn y pen draw.  

Beth yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â hynny? Dyma gyflwyno’r tîm winwnsyn …  

Crëwyd y tîm winwnsyn gan yr ymarferydd Ystwyth, Emily Webber, ac mae’n ffordd o annog elfennau craidd mewn sefydliad sy’n dibynnu ar ei gilydd (e.e. cyfreithiol, polisi, cyllid, cyfathrebu) i ymwneud â chenhadaeth prosiect heb, 1) amharu ar faint bach (ac effeithiol) y tîm amlddisgyblaethol craidd, a 2) effeithio ar lwyth gwaith cydweithredwyr a chefnogwyr o ddydd i ddydd.   

Ar ei ffurf symlaf, gellir disgrifio’r tîm winwnsyn fel hyn:  

Tîm (amlddisgyblaethol) craidd:  

  • diben: darparu gwasanaethau digidol  
  • cyfathrebu: dyddiol (yr holl sesiynau ar eu sefyll, ôl-sylliadau, cynllunio, dangos a dweud)  
  • cydleoli: bob dydd, drwy’r dydd  
  • mathau o bobl: perchennog cynnyrch, rheolwr cyflawni, datblygwyr, dylunwyr, busnesau bach a chanolig (BBaChau), ac ati  

Cydweithredwyr (a allai fod yn gweithio gyda nifer o wahanol dimau):  

  • diben: rhoi gwybodaeth arbenigol i gynorthwyo’r tîm, sicrwydd fel y bo’r angen, lleihau dibyniaeth a rhwystrau (agor drysau)  
  • cyfathrebu: yn rheolaidd, maen nhw’n dod i rai cyfarfodydd ystwyth  
  • cydleoli: yn rheolaidd (1-2 ddiwrnod yr wythnos, neu lai) – mae hyn hefyd yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen a cham y prosiect – ond digon i beidio â rhwystro unrhyw beth  
  • mathau o bobl: timau cyflawni eraill sy’n gweithio o fewn yr un portffolio, fel cyswllt TG, cyswllt polisi, rheolwr portffolio, gweithrediadau, cyflenwyr ac ati 

Cefnogwyr 

  • diben: rhoi gwybodaeth iddynt yn unig, bwydo i flaenoriaethau sefydliadol eang  
  • cyfathrebu: pob gwibiad / ailadroddiad (sesiynau dangos a dweud, ad-hoc pan fydd angen)  
  • cydleoli: yn fisol neu fel y bo’r angen  
  • mathau o bobl: grwpiau llywio, uwch arweinwyr, y sefydliad ehangach 

Os hoffech wybod mwy am y pwnc hwn, rhowch sylw isod.  

Postiad blog gan Pete Stanton, Rheolwr Cyflawni, Cam Darganfod Gwastraff Peryglus CNC.