Gall cymuned gweithlebod yn fewnol neu’n fwy eang, ond, ymddengys fod gan bob grŵp ychydig yn gyffredin

23 Awst 2022

Os yw aelodau'n cael gwerth allan o'r gymuned a'i fod yn diwallu eu hanghenion am gymorth a dysgu, rydym ar y trywydd cywir © Pexels

Rydym ni gyd yn rhan o gymuned, hyd yn oed os nad ydym yn sylweddoli hynny. Meddyliwch am eich cymdogaeth, neu efallai eich bod yn gefnogwr o dîm chwaraeon. Efallai eich bod mewn clwb o ryw fath, neu rydych chi’n galw heibio fforymau ar y rhyngrwyd yn aml. Mae’r rhain i gyd yn gymunedau.

Ond beth yn union yw cymuned? Mae Emily Webber, arweinydd mewn cymunedau digidol ac Agile neu Ystwyth, yn ei ddisgrifio’n syml fel “[grŵp] o bobl sydd â chysylltiad cymdeithasol ystyrlon”. Mae hynny'n sicr yn wir am y grwpiau uchod. Aiff Emily ymlaen i drafod yr ymdeimlad o berthyn gall cymuned ei ddarparu, ac am y ffordd mae aelodau wedi ymrwymo i’w gilydd. Mae’n siŵr bod hyn yn teimlo’n eithaf cyfarwydd - meddyliwch eto am eich cymdogaeth neu glwb, a’ch gallu i ddibynnu ar y bobl sy’n ffurfio’r cymunedau hynny, am gymorth.

Felly pam nad ydym ni’n meddwl yn fwy am y gweithle wrth ystyried cymunedau?

Cymunedau gweithle

Un math o gymuned yn y gweithle yw ‘cymuned ymarfer’, lle mae’r cysylltiad sy’n dod â phobl ynghyd yn ymwneud â’u proffesiwn. Mae’r cymunedau hyn yn tueddu bod yn anffurfiol, y tu allan i’r strwythur rheoli, ond yn gallu darparu aelodau â chyfleoedd gwych ar gyfer cymorth a dysgu ar y cyd - yn union fel mathau eraill o gymunedau.

Yma’n CDPS, rydym wedi cynnal gweithdai’n ddiweddar ar yr hyn y byddai rheolwyr cyflenwi a rheolwyr cynnyrch eu heisiau allan o gymuned. Nid yw’n syndod bod pobl eisiau i’r gymuned weithredu fel rhwydwaith cymorth a lle i ddysgu.

O gymharu â chymunedau eraill mae CDPS wedi’u sefydlu, rydym yn dechrau’n fach ac yn fewnol gyda’r gymuned gyflenwi. Mae gennym ‘coffi cyflym’ wythnosol lle rydym yn trafod y pethau da a’r heriau rydym wedi dod ar eu traws yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Hefyd, mae gennym sesiwn misol, sef y “gofod diogel”, pan fyddwn yn treiddio’n ddyfnach mewn i broblem, rhoi cynnig ar weithdy neu dechneg hwyluso newydd, neu gael siaradwr allanol.

sgrinlun o fwrdd murlun - mae nodiadau gludiog gan aelodau â thema gyffredin, man diogel lle gall pobl drafod heriau o fewn eu rôl, a rhannu gwersi a ddysgwyd
Dangosodd gweithdai'r hyn yr oedd rheolwyr cyflenwi a chynnyrch eu heisiau oddi wrth gymuned, fel y cofnodwyd ar fwrdd murlun
sgrinlun o fwrdd murlun – nodyn gludiog yn dweud 'dathlwch lwyddiant a methiant, gadewch i bobl wneud camgymeriadau', 'gofynnwch i bawb rannu eu llwyddiannau bob wythnos'
Mae cymunedau ymarfer yn 'fannau diogel', lle mae pobl yn cael gwneud camgymeriadau

Gwella fesul dipyn 

Rydym yn cynnal trafodaeth ar-lein fywiog hefyd, lle rydym yn cynnig cymorth i’n gilydd er mwyn gwneud y pethau mawr gweithio’n well. Mae cael y trafodaethau preifat cyson yma wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.

Ar ochr y cynnyrch, rydym wedi awgrymu dull tebyg – er mai bwriad y gymuned hon, o’r cychwyn cyntaf, yw bod yn agored i bob rheolwr cynnyrch yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nid oes gennym lawer o reolwyr cynnyrch yn CDPS, ac rydym yn amau bod hynny’n wir mewn sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru. Felly rydym yn gwahodd cydweithwyr mewn adrannau llywodraeth y DU, megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Thŷ’r Cwmnïau, i gymryd rhan hefyd. 

Y mesur o lwyddiant yma yw bod y cymunedau’n cynnal, bod pobl yn cael gwerth, ac nad oes angen CDPS fod yn ‘berchen’ arnynt. Mae Ystwyth yn pregethu hunan-drefnu – os yw aelodau’n teimlo bod ganddyn nhw lais yn y gymuned a’i fod yn diwallu eu hanghenion am gymorth a dysgu, yna rydyn ni ar y trywydd cywir. 

I ddarganfod mwy am ein cymunedau, cysylltwch â Darren McCormac, arweinydd y gymuned gyflenwi CDPS.