Yn ystod cam cyntaf, archwiliadol Ystwyth, mae'n hollbwysig cynrychioli'ch tybiaethau - ac yna eu herio nhw, meddai Adam Ellison

25 Mawrth 2022

A diagram known as the ‘double diamond’, which depicts the design process and the different stages that take place within it. In real life the process isn’t as neat, but the double diamond is a great way to learn and understand how it works
Diagram o’r enw ‘diemwnt dwbl’, sy’n dangos y broses ddylunio a’r gwahanol gamau sy’n digwydd ynddi. Nid yw’r broses mor dwt mewn bywyd go iawn, ond mae’r diemwnt dwbl yn ffordd wych o ddysgu a deall sut mae’n gweithio 

Gallai ‘darganfod’ gael ei alw’n ‘ymchwilio’ yn rhwydd. Yn ystod y cam cyntaf hwn o ddatblygu gwasanaeth Ystwyth, rydyn ni’n: 

  • dechrau mynd i’r afael â’r broblem dan sylw 
  • cael safbwyntiau ar y broblem y tu hwnt i’n rhai ni 
  • diffinio’r cyfyngiadau y byddwn yn eu hwynebu 
  • datguddio cyfleoedd i gywiro pethau  

Beth yw dylunio a sut mae’n berthnasol i’r broses hon? 

Gweithgarwch cydweithredol yw dylunio y mae pob aelod o’r tîm yn cyfrannu ato. Efallai y bydd angen i chi ddarlunio pethau weithiau, ond does dim angen i chi fod yn arlunydd da i gymryd rhan. Yr hyn sy’n bwysicach nag ansawdd y darluniau yw ansawdd yr holi a’r meddwl sy’n digwydd. 

Mae dylunio’n ein helpu i fynegi ein meddyliau a’n tybiaethau, eu profi a bod yn hyderus ein bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn. 

Y broses ddylunio 

Cam cyntaf unrhyw broses ddylunio yw cymryd cam yn ôl a gofyn, “Ydyn ni wir yn deall y broblem rydyn ni’n dylunio datrysiad ar ei chyfer?”  

Dyna ble rydyn ni’n dechrau ar y cam darganfod, gan balu tuag at wraidd y broblem ac ehangu ein dealltwriaeth ohoni. Rydyn ni’n gwneud hynny trwy edrych tuag allan – dysgu am ddefnyddwyr a’u byd, gan gynnwys eu nodau, eu heriau a’u disgwyliadau. 

Nesaf, rydyn ni’n dechrau diffinio’r broblem yn fanylach. Rydyn ni eisiau gwybod am y rhannau problemus o broses a pha rai y dylem ganolbwyntio arnynt. 

Edrych tuag i mewn 

Yn ystod y cam hwn, rydyn ni’n edrych tuag i mewn, gan herio ein modelau meddyliol a’r systemau a’r prosesau a ddefnyddir gan y tîm neu’r sefydliad rydyn ni’n gweithio gydag ef. 

Trwy’r prosesau hyn, deuwn i ddiffinio’r broblem yn fanylach, gan ennill hyder ein bod yn mynd i’r afael â phroblem wirioneddol a phwysig.  

Nawr, rydyn ni’n barod i gynnig datrysiadau – symud, mewn geiriau eraill, i gam ‘alffa’ y broses Ystwyth. Yn ystod y cam hwn, rydych chi’n gwneud pethau, fel prototeipiau, i’w cyflwyno i’ch defnyddwyr i brofi a yw’ch syniadau’n gweithio a gweld a ydych wir wedi deall anghenion eich defnyddwyr. 

Mae mapiau taith a phersonâu yn ddeilliannau cyffredin gweithdai darganfod

Defnyddio dylunio wrth ddarganfod 

Mae gweithdai, darluniau a phrototeipiau yn ddulliau ac offer dylunio y gallwch eu defnyddio wrth ddarganfod i ddysgu’n gyflym a dechrau profi’ch tybiaethau.

1) Gweithdai dylunio

Mae gweithdai’n ffordd wych o archwilio, holi a chreu pethau gyda’ch gilydd.

Mae gweithdai yn ystod y cam darganfod yn cynnwys diffinio’ch datganiad problem a chreu cynfas darganfod (cynrychioliad gweledol o’ch gofynion), personâu defnyddwyr a mapiau taith y defnyddiwr.

Canlyniad y rhan fwyaf o weithdai yw ‘arteffact’ – rhywbeth (gweledol yn aml) y gallwch gyfeirio ato a’i rannu ag eraill.

2) Darluniau

Mae darluniau’n caniatáu ar gyfer herio’n adeiladol yn ystod camau cynnar Ystwyth

P’un a yw’n siart lif, map neu ddiagram, mae creu darlun yn gofyn am gasglu gwybodaeth, a golygu’r wybodaeth honno i’r hyn sy’n fwyaf perthnasol a phwysig. Yna, rydych yn ffurfio cynrychiolaeth weledol o’ch dealltwriaeth i’w rhannu, gan wahodd her adeiladol.

3) Prototeipiau

Mae lluniadau’n brototeipiau cyffredin, ond gallan nhw gynnwys chwarae rôl hefyd

Mae prototeipiau’n ffyrdd cyflym a thafladwy o archwilio sut rydych yn credu y gallai eich cynnyrch weithio. Maen nhw’n rhoi rhywbeth i chi ymateb iddo a dysgu ohono. Nid dim ond lluniadau un dimensiwn yw prototeipiau: maen nhw’n gallu cynnwys, er enghraifft, aelodau o’r tîm yn chwarae rôl rhyngweithio â gwasanaeth.

Wrth i chi symud trwy’r cam darganfod, gallwch fireinio’ch prototeipiau, a’u gwneud nhw’n fanylach ac yn agosach at fywyd go iawn.

Dywedwch wrthym sut rydych wedi defnyddio dylunio wrth ddarganfod a beth rydych wedi’i ddysgu.

Mae Adam Ellison yn ddylunydd rhyngweithio yn nhîm Gwastraff Peryglus Cyfoeth Naturiol Cymru CDPS