Ystyriodd tîm Adolygu'r Dirwedd Ddigidol CDPS symlrwydd, effaith a swm wrth ddewis gwasanaethau cyngor 'enghreifftiol'

5 Awst 2022

Edrychodd yr Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol ar wasanaethau awdurdod lleol fel gofal cymdeithasol i bwyso a mesur pa rai fyddai'n elwa fwyaf o welliant digidol © Pexels

Mae Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wedi bod yn arolygu cyflwr gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru. Gan fod yr adolygiad wedi dod i ben, rydyn ni wedi bod yn cyhoeddi cyfres o bostiadau blog ar ei ganfyddiadau. Hyd yma, rydyn ni wedi trafod: 

Mae'r postiad hwn yn edrych ar gwestiwn arall a ystyriwyd gan yr Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol: pa wasanaethau awdurdod lleol fyddai'n hawsaf eu gweddnewid. 

Oherwydd dyma'r postiad blog olaf ar gyfer y cam hwn o'r Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol, fe soniwn ni ychydig hefyd am beth fydd yn digwydd i ganfyddiadau'r tîm gan ein bod ni wedi gorffen y gwaith hwn erbyn hyn. 

Rhoddwyd un cwestiwn i dîm yr Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol ei ateb: pa wasanaethau awdurdod lleol y dylid blaenoriaethu cymorth ar eu cyfer i gyflawni'r Safonau Gwasanaeth Digidol ar gyfer Cymru?  

Gwasanaethau sy'n cael yr effaith fwyaf

Mae'r dirwedd gwasanaethau awdurdod lleol yng Nghymru yn enfawr. Fe ddechreuon ni drwy lunio rhestr fer o wasanaethau a chanddynt:  

  • y nifer fwyaf o ddefnyddwyr 
  • proffil uchel 

Fe ddewison ni 7 gwasanaeth, a ddarperir gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a oedd yn bodloni'r meini prawf hyn orau: 

  1. Tai - er enghraifft, ‘Gwneud cais am atgyweirio tai’ 
  1. Cynllunio - er enghraifft, ‘Gwneud cais am ganiatâd cynllunio’ 
  1. Refeniw a budd-daliadau - er enghraifft, ‘Talu'r dreth gyngor’ 
  1. Cofrestru ag ysgol - er enghraifft, ‘Cofrestru fy mhlentyn mewn ysgol uwchradd’ 
  1. Gofal cymdeithasol - er enghraifft, ‘Gwneud cais am asesiad gofal cymdeithasol ac iechyd’ 
  1. Cynnal a chadw strydoedd a phriffyrdd - er enghraifft, ‘Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd’ 
  1. Casglu gwastraff - er enghraifft, ‘Rhoi gwybod am gasgliad biniau a fethwyd’ 

Symlrwydd, effaith, swm

Fodd bynnag, roedden ni hefyd eisiau targedu gwasanaethau a fyddai'n enghreifftiau da o welliant digidol o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer awdurdodau lleol eraill sy'n darparu gwasanaeth tebyg. (Rydyn ni'n galw gwasanaethau o'r fath yn rhai 'enghreifftiol', yn iaith cyflawni digidol.)  

Felly, fe gwtogon ni ein rhestr fer o 7 drwy weld pa mor dda yr oedden nhw'n bodloni meini prawf ychwanegol:  

  • symlrwydd - mae gwasanaethau sydd â theithiau defnyddwyr symlach yn haws eu gweddnewid  
  • y gallu i newid eu graddfa – mae gwasanaethau sy'n debyg ar draws awdurdodau lleol yn haws eu hymestyn 
  • ansawdd bywyd - dylai gwasanaethau enghreifftiol gael effaith sylweddol ar fywydau defnyddwyr (a fernir, er enghraifft, yn ôl eu heffaith ar grwpiau incwm is a pha mor fodlon yw pobl â'r gwasanaeth)  
  • swm - gall gwasanaethau enghreifftiol ddangos eu heffaith yn well os oes ganddynt lawer o ddefnyddwyr   

Mae'r tabl hwn yn dangos sut mae'r 7 gwasanaeth yn cymharu â'r 4 maen prawf enghreifftiol hynny: 

Tabl sy'n dangos sut mae'r 7 gwasanaeth yn cymharu â'r 5 maen prawf enghreifftiol.  

Mae'r tabl yn dangos mai refeniw a budd-daliadau, a chynnal a chadw strydoedd a phriffyrdd yw'r rhai mwyaf ymarferol o ran cymhlethdod, y gallu i addasu graddfa, ansawdd bywyd a swm.
  • Refeniw a budd-daliadau a sgoriodd uchaf yn gyffredinol, gyda sgôr arbennig o gryf o ran cymhlethdod a'r gallu i addasu eu graddfa  
  • Cynnal a chadw strydoedd a phriffyrdd a sgoriodd ail uchaf, gyda sgôr uchel o ran ymarferoldeb 
  • Cafodd casglu gwastraff a thai sgôr uchel yn y ddau fesur, ond ychydig yn is o ran y gallu i addasu eu graddfa 
  • Sgoriodd ofal cymdeithasol yn uwch o ran effaith ond yn waeth o ran ymarferoldeb, yn enwedig o ran cymhlethdod  
  • Cafodd cofrestru ag ysgol a chynllunio sgôr isel yn y ddau fesur 

Y gwasanaethau enghreifftiol gorau: refeniw a budd-daliadau a chynnal a chadw strydoedd

Refeniw a budd-daliadau

Mae refeniw a budd-daliadau'n wasanaethau cymharol syml (yn yr ystyr eu bod yn cynnwys llai o sefydliadau) sy'n debyg ar draws cynghorau. Mae cynghorau hefyd yn awyddus iawn i'w trawsnewid, sy'n gweddu i fodel partneriaeth CDPS o ddylunio cynnwys. Dangosodd yr Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol fod cyfleoedd i:  

  • wella sut mae ôl-systemau yn integreiddio  
  • defnyddio data'n fwy deallus i amlygu preswylwyr sy'n gymwys ar gyfer budd-daliadau ond nad ydynt yn eu cael - gwasanaeth risg uwch i'w weddnewid oherwydd y canlyniadau mawr sy'n gysylltiedig â cholli taliadau budd-dal  
Mae'r gwasanaeth cynnal a chadw strydoedd a phriffyrdd yn dangos sut gallai taith ddi-dor i ddefnyddwyr edrych © Unsplash

Cynnal a chadw strydoedd a phriffyrdd

Gwasanaeth syml arall sy'n rhoi cyfle i ddangos sut gallai taith ddi-dor i ddefnyddwyr edrych - ar gyfer 'Rhoi gwybod am broblem'. O gymharu â refeniw a budd-daliadau, byddai'r risg sy'n gysylltiedig â gweddnewid y gwasanaeth hwn yn gymharol isel, er y byddai hefyd yn cael effaith is ar ansawdd bywyd pobl.

Yr Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol: datgelu heriau mawr mewn gwasanaethau cyhoeddus

Fe ddechreuon ni'r Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol ym mis Medi 2021, gyda'r nod o ddatgelu'r heriau mwyaf arwyddocaol mewn gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru.  

Defnyddiodd tîm yr Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol gamau dylunio Ystwyth ddilynol, sef darganfod, alffa a beta, i strwythuro'r adolygiad: 

Darganfod: cyfwelodd y tîm â nifer fach o wasanaethau i ddylunio a phrofi ein dull. 

Alffa: fe arolygon ni sampl fwy o wasanaethau ar draws Cymru. Roedd hynny wedi caniatáu i ni fesur yn fras i ba raddau yr oedd gwasanaethau'n bodloni'r Safonau Gwasanaeth Digidol

Beta: ers mis Ionawr 2022, rydyn ni wedi ymgysylltu â mwy na 50 o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. O'r gwaith hwn, rydyn ni wedi blaenoriaethu set o heriau ymarferol mewn gwasanaethau digidol, y dylai CDPS a'i phartneriaid fynd i'r afael â nhw. 

Ychwanegu at ganfyddiadau

Rydyn ni wedi casglu digonedd o wybodaeth am yr heriau sy'n wynebu defnyddwyr a pherchnogion gwasanaethau fel ei gilydd. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon i lywio gwaith CDPS a'n partneriaid. Rydyn ni wedi sicrhau bod ein canfyddiadau ar gael mewn wiki (cyfeiriadur ar-lein) er mwyn i dimau eraill CDPS eu defnyddio wrth iddynt ddatblygu gwasanaethau digidol gyda'n partneriaid.  

Mae rhai o dimau CDPS eisoes yn ychwanegu at ganfyddiadau'r Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol - er enghraifft, timau sy'n gweithio ar wasanaethau iechyd a gofal a chaffael sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae prosiectau eraill yn ein portffolio nawr, yn aros i dderbyn sylw pan fyddwn yn barod i fynd i'r afael â nhw. 

Hwyl fawr (am nawr)! 

Mae'r Adolygiad o'r Dirwedd Ddigidol wedi dod i ben. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu amser, ymdrech a syniadau at yr adolygiad. 

Os hoffech gysylltu ynglŷn â'n canfyddiadau, anfonwch neges e-bost atom.