1 Gorffennaf 2021

Yn ein blog blaenorol, fe rannon ni ddiweddariad ar y daith ddatblygu ar gyfer ein datrysiad ‘Olrhain Fy Nghais’ i roi mynediad rhwydd at ddiweddariadau statws ar geisiadau i Ofal Cymdeithasol i Oedolion. Gan ein bod ni bellach yn y cam beta, rydyn ni’n dechrau cynnwys ac ymgorffori’r datrysiad mewn arferion gweithio dydd i ddydd, sy’n codi cwestiynau allweddol ynglŷn â sut rydyn ni’n ymgorffori cynaliadwyedd o’r dechrau. 

Yn y blog hwn, rydyn ni’n rhannu rhai o’n meddyliau ynglŷn ag egwyddorion ymgorffori cynaliadwyedd. 

Symud o ‘brosiect’ i ‘gynnyrch’

Mae cynllunio ar gyfer cynaliadwyedd yn golygu newid ffordd o feddwl o ‘brosiect’ i ‘gynnyrch’. Nid yw creu datrysiad digidol yn rhywbeth sy’n gorffen pan fyddwn yn dod i ddiwedd siart Gantt prosiect, ac nid yw lansio’r datrysiad yn ddiwedd ar y broses ddatblygu o bell ffordd. Ein nod yw creu cynnyrch byw a fydd yn cael ei gynnal a’i gadw, ei brofi a’i ailadrodd yn weithredol dros amser fel ei fod yn parhau i fod yn werthfawr i ddefnyddwyr.

Gan weithio gyda phartneriaeth o dri awdurdod lleol (gyda’r potensial i weithio gyda mwy yn y dyfodol), roedd angen i ni gytuno ar bwy fyddai’n gyfrifol am gynnal a chadw a datblygu’n barhaus. Mae hyn yn cynnwys nifer o swyddogaethau, fel:

  • cywiro bygiau, sy’n rhychwantu popeth o newid geiriad o ganlyniad i ganfyddiadau Ymchwil Defnyddwyr wedi’u diweddaru, i fynd i’r afael â phroblemau annisgwyl â’r datrysiad
  • diweddariadau diogelwch, y mae angen eu profi a’u cyflwyno mewn modd amserol i atal problemau diogelwch
  • nodweddion newydd: dros amser, efallai byddwn ni eisiau ychwanegu mwy o wasanaethau neu nodweddion i’r datrysiad. Bydd angen proses i ddatblygu, profi a chyflwyno newidiadau o’r fath 

I alluogi’r swyddogaethau hyn, sy’n hollbwysig ar gyfer effaith tymor hir, mae arnom angen yr adnoddau a’r sgiliau iawn i ymestyn y tu hwnt i’r cam datblygu cychwynnol, yn ogystal â chyfrifoldeb clir am y weledigaeth a’r map trywydd ar gyfer y cynnyrch yn y dyfodol.

Amlygu egwyddorion allweddol ar gyfer cynaliadwyedd

Fe gydweithion ni i lunio rhestr o flaenoriaethau i helpu i wneud y penderfyniad hwn, gan ffurfio 9 egwyddor allweddol ar gyfer y gwaith hwn:

  1. Gwerth am arian
  2. Dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr sy’n parhau i gael ei brofi a’i ailadrodd
  3. Aliniad â’r safonau gwasanaeth digidol
  4. Peidio â dibynnu ar un gwerthwr, gan sicrhau ymagwedd hyblyg
  5. Hygyrchedd a chysylltiad â phatrymau
  6. Aliniad â map trywydd ar gyfer achosion defnydd ychwanegol
  7. Aliniad â strategaeth ddigidol yr Awdurdod Lleol
  8. Galluogi mynediad teg at ddigideiddio
  9. Sefydlu’n gyflym i gynnal y momentwm

Er bod yr egwyddorion hyn wedi cael eu cynhyrchu gyda’n datrysiad ‘Olrhain Fy Nghais’ mewn cof, gellir eu trosglwyddo i gynhyrchion a datrysiadau eraill, ac mae’r cwestiwn ynglŷn â sut i gynnal a datblygu cynnyrch ‘byw’ yn gynaliadwy yn un cyffredinol. Felly, hoffem wybod sut mae pobl eraill wedi mynd ati i wneud penderfyniadau tebyg, a ph’un a yw’r egwyddorion hyn yn cyd-fynd â’i gilydd.

Hoffem glywed gennych os ydych wedi bod yn meddwl am yr egwyddorion ar gyfer ymgorffori cynaliadwyedd – cysylltwch â ni os hoffech rannu eich meddyliau neu’ch myfyrdodau.