Manylion am gwcis ar digitalpublicservices.gov.wales
Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis Google Anaytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ei gwneud yn haws i’w defnyddio a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a’r system weithredu. Ni chaiff y data eu defnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan:
Cwci | Enw | Diben | Dod i ben |
---|---|---|---|
Language version | wp-wpml_current_language | Y system rheoli cynnwys sy’n creu’r cwci hwn ac mae’n hanfodol er mwyn i’r wefan ddangos yn yr iaith gywir. | Pan fyddwch yn cau eich porwr |
GoogleAnalytics | _ga | Caiff y cwci hwn ei ddefnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwci yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â’r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â’r wefan o’r blaen, a’r tudalennau y maen nhw’n ymweld â nhw. | 2 flynedd |
CookieControl | cdps_settings cdps_ga_a | Mae’r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar ein gwefan. | 1 flynedd |
Mae modd rheoli rhywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu rhagor am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org.
Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu gennym?
Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys. Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio gwefannau. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael ei throsglwyddo a’i storio ar weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau.
Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgaredd defnyddwyr y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.
Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata eraill a gedwir ganddo. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a nodwyd uchod.
Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google a Thelerau Gwasanaeth Google i gael yr wybodaeth fanwl.