Yn ystod y cam alffa, gwerthusodd tîm gwasanaeth grantiau Chwaraeon Cymru 4 prototeip gyda chyfranogwyr a oedd wedi gwneud cais am gyllid chwaraeon cymunedol yn flaenorol – dyma beth ganfuon nhw

27 Mai 2022

Canolbwyntiodd y tîm alpha ar ddylunio, profi ac ailadrodd prototeipiau a oedd yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r broses ymgeisio ar gyfer ymgeiswyr grant © Unsplash

Mae Chwaraeon Cymru a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn gweithio ar brosiect Ystwyth i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith grantiau cymunedol Chwaraeon Cymru trwy wella gwasanaeth ymgeisio digidol y sefydliad. 

Yn dilyn cam darganfod, parhaodd Chwaraeon Cymru a CDPS i weithio gyda’i gilydd ar gam alffa 12 wythnos, a orffennodd yng nghanol mis Ionawr 2022 – mae’r postiad blog hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r cam alffa. 

Deall llywio

Wrth i’r tîm alffa bwyso a mesur y gwaith, fe sylweddolon ni na allem gyflawni’r cwmpas gwreiddiol. Fe gytunon ni gyda noddwyr y prosiect, Chwaraeon Cymru a CDPS, i ganolbwyntio ar y canlynol:

  • gweithio gyda thîm cyfathrebu digidol Chwaraeon Cymru i ddeall sut mae defnyddwyr yn llywio i’r adran grantiau ar wefan Chwaraeon Cymru
  • gweithio gyda’r tîm cysylltiadau â phartneriaid i ddeall cyrhaeddiad eu partneriaid cenedlaethol, sy’n helpu gwneud chwaraeon yng Nghymru yn fwy cynhwysol
  • deall posibiliadau technegol y system bresennol ac, os oes modd, ymchwilio i’r farchnad ar gyfer opsiynau
  • dylunio, profi ac ailadrodd prototeipiau sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o’r broses ymgeisio

'I rywun nad yw’n deall technoleg, mae’n boen cymryd sgrin lun ac yna ei atodi'

Defnyddwyr wedi’u clystyru ar bob pen o’r raddfa sgiliau digidol

Fe wnaethon ni werthuso 4 prototeip mewn 15 sesiwn gyda chyfranogwyr a oedd wedi ymgeisio ar gyfer buddsoddiadau neu grantiau cymunedol Chwaraeon Cymru yn flaenorol. Dyma rai o’r pethau rydyn ni wedi’u dysgu:

  • roedd y cyfranogwyr yn hoffi’r ffaith bod Chwaraeon Cymru yn ymateb yn gyflym i argyfyngau, fel llifogydd a’r pandemig COVID-19, gyda grantiau newydd a oedd yn caniatáu i weithgarwch chwaraeon barhau
  • roedd defnyddwyr Cronfa Cymru Actif – sef cronfa chwaraeon cymunedol Chwaraeon Cymru – yn hapus i helpu Chwaraeon Cymru i wella’r broses grantiau
  • mae sgiliau digidol isel yn rhwystr rhag ymgeisio – i gwblhau’r set gymhleth o gwestiynau sy’n ffurfio’r broses ymgeisio
  • roedd y cyfranogwyr wedi’u clystyru ar bob pen o’r raddfa sgiliau digidol – uchel ac isel – ond yn tueddu’n fwy tuag at y pen isaf
  • roedd yr ymgeiswyr yn ystyried awdurdodau lleol fel yr hyn yr oedd y tîm alffa yn ei ddisgrifio fel ‘dieithriaid dirgel’ neu ‘ffrindiau agos’ – roedd y cyfranogwyr naill ai’n methu deall pam y byddai angen iddynt drafod cais gyda nhw neu’n dibynnu ar eu cymorth bob tro
  • mae sefydliadau heb leoliad ffisegol yn cael trafferth ateb cwestiynau ynglŷn â lleoliad, awdurdod lleol a chyfeiriad

"Mae’r cwestiynau hyn fel petaen nhw’n addas i glybiau rygbi a thimau pêl-droed. Dydyn nhw ddim mor addas i ni…"

Beth nesaf?

Cyflwynodd y tîm ganfyddiadau ac argymhellion y cam alffa i noddwyr y prosiect, Chwaraeon Cymru, ym mis Ionawr, ochr yn ochr â chynnig ar gyfer y cam nesaf.

"’Tasen ni ddim wedi cael y cyllid … ni fyddai’r clwb yn bodoli"

Rydyn ni bellach mewn cyfnod alffa 14 wythnos estynedig (rydyn ni’n ei alw’n ‘alffa+’) sy’n canolbwyntio ar ddylunio a phrofi proses ymgeisio am grantiau o’r dechrau i’r diwedd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys profi prosesau swyddfa gefn a fyddai’n gweddu’n well i anghenion defnyddwyr a Chwaraeon Cymru.

Dywedwch wrthym am eich profiad o wasanaethau grantiau yn y blwch sylwadau isod. Ac os ydych yn gorff chwaraeon a hoffai ymwneud â datblygu gwasanaeth Chwaraeon Cymru, anfonwch neges e-bost atom 

Darllenwch fwy:

Un tro … mewn tîm gwasanaeth Ystwyth

Ceisiadau sain? Helpu i fwrw’r rhwyd grantiau yn ehangach

Prototeip i gychwyn sgwrs

Cam darganfod Chwaraeon Cymru – yr hyn a ddysgodd y tîm

Chwaraeon Cymru – canfyddiadau diwedd y cam darganfod

Cam darganfod Chwaraeon Cymru