Joanna Goodwin i arwain dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn y CDPS
Mae Jo wedi arwain timau digidol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol a chyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
22 Gorffennaf 2022
Rydym yn falch iawn o groesawu Joanna Goodwin i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) fel Pennaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr.

Mae Jo wedi gweithio ym maes digidol ar draws llywodraeth ganolog a lleol ers dros ddegawd, yn fwyaf diweddar yn arwain y tîm digidol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae Jo wedi bod ar banel CDPS o’r dechrau ac mae’n gyffrous i ymuno â’r tîm i gefnogi ei waith ledled Cymru.
Mae Jo hefyd wedi gweithio gyda Content Design London yn ddiweddar ar ystod o brosiectau dylunio cynnwys byd-eang.
Ysgrifennodd Jo y canllawiau hygyrchedd cyfryngau cymdeithasol cyntaf ar gyfer llywodraeth. Arweiniodd y gwaith ymchwil a datblygu ymarfer a fabwysiadwyd gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth a bellach Gwasanaeth Cyfathrebu’r Llywodraeth.
Tra oedd yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), roedd Jo yn Bennaeth Ymarfer Digidol, ymhlith rolau eraill. Mae’n dweud mai ei hoff atgofion o’r ONS oedd gweithio gyda chymunedau ymarfer a chreu’r gymuned dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Mae Jo yn gyffrous ynglŷn â’r cyfle i weithio gyda CDPS a’r sector cyhoeddus ehangach i sicrhau bod ein cynhyrchion a’n gwasanaethau’n canolbwyntio mwy ar ddefnyddwyr. Mae’n credu mewn dylunio ailadroddol a bod pethau bach yn gallu cael effaith fawr. Bydd yn defnyddio’r dull hwn i weithredu arferion ac egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd Jo yn ymgymryd â’r rôl yng nghanol mis Medi.
Dilynwch Jo ar Twitter yn @JoannaGoodwin3