‘Hybiau’ yn dŷ hanner ffordd rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio gartref

Byddai angen gweithleoedd o bell a rennir ar rai yn achlysurol, ac i eraill mae tawelwch a chyfrinachedd yn brif flaenoriaethau – mae Stephanie Ellis yn adrodd ar ymchwil ddiweddaraf CDPS

6 Ebrill 2022

Uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru yw i 30% o weithlu Cymru weithio i ffwrdd o swyddfa draddodiadol © Brooke Cagle/Unsplash

Mae’r pandemig wedi cyflymu chwyldro mewn patrymau gweithio ond, wrth i lawer o bobl adael y swyddfa – dros dro neu am byth – beth sy’n esblygu yn ei le?

Mae gweithio gartref yn iawn os oes gennych noddfa dawel. Ac eto, gall diffyg lle, plant bywiog neu ormod o amser gyda phartner sy’n cydweithio wneud y fersiwn newydd o lafur domestig yn amherffaith i lawer.

Wele’r ‘hwb’ gweithio o bell – sef math o dŷ hanner ffordd rhwng swyddfa a… tŷ sy’n llawn offer ar gyfer gweithio modern, ar-lein. Gellir ei archebu fesul awr neu ddydd a’i rannu â gweithwyr digidol eraill sy’n aml yn ddieithriaid.

Traean o weithwyr allan o’r swyddfa

Mae Llywodraeth Cymru yn annog gweithio o bell – ei huchelgais hirdymor yw i 30% o weithlu Cymru weithio i ffwrdd o swyddfa draddodiadol. Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn ddiweddar

“Mae gweithio o bell yn cynnig llu o fuddion… helpu pobl i ddianc rhag y cymudo a datblygu cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith… Mae gweithio’n lleol hefyd yn chwarae rhan hanfodol mewn adfywio canol ein trefi… yn ogystal â lleihau tagfeydd a lleihau allyriadau carbon”   

Mae hybiau, felly, yn ymestyn manteision o’r fath i fwy o bobl, a bydd system archebu dda yn annog mwy o bobl i’w defnyddio. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried prynu neu adeiladu gwasanaeth a fyddai’n caniatáu i bobl archebu lle mewn hwb a ddarperir yn gyhoeddus ac yn breifat, ar-lein.   

Yn ddiweddar, cwblhaodd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ddarganfyddiad 8 wythnos (cam ymchwil cynnar dylunio gwasanaeth Ystwyth) i ganfod anghenion defnyddwyr a darparwyr am wasanaeth o’r fath.   

Cyfwelodd y tîm darganfod 14 o ddarpar ddefnyddwyr hybiau posibl mewn ardaloedd gwledig, trefol a maestrefol ledled Cymru. Roedden nhw’n wrywaidd a benywaidd, ac roedd rhai ohonynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Roedd rhai ohonynt yn anabl, ac roedd gan rai anghenion iechyd meddwl. Nid oedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn ymwybodol bod rhwydwaith o hybiau gweithio o bell eisoes yn bodoli yng Nghymru.  

Siaradodd y tîm hefyd â 10 darparwr hybiau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.  

Dywedodd defnyddwyr posibl y ganolfan wrthym y byddent yn defnyddio hyb i weithio yn ystod gwyliau ysgol ac i osgoi ymyriadau eraill gartref © Helena Lopes/Unsplash

Beth ddywedodd defnyddwyr hybiau

Dywedodd defnyddwyr posibl hybiau wrthym:

Roedd pa mor aml y byddai pobl yn defnyddio hwb yn amrywio. Dywedodd un defnyddiwr posibl: 

“Byddai gallu defnyddio hwb yn ddefnyddiol i mi pan fyddaf rhwng ymweliadau cartref â chleientiaid. Dw ddim eisiau teithio’r holl ffordd adref ac mae gennyf ddwy awr yn sbâr i wneud fy ngwaith papur… Gallwn gynnwys hynny yn fy wythnos waith”  

Beth ddywedodd darparwyr hybiau

Dywedodd darparwyr hybiau wrthym am eu:

Canfu un darparwr hwb bod y trefniadau archebu presennol yn aneffeithlon. Dywedodd:

“Byddai’n dda iawn i bobl fynd ar-lein, gweld beth sydd ar gael, archebu’r lle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Ar hyn o bryd… mae’n golygu… 5 neu 6 neges e-bost yn ôl ac ymlaen ac yna archebu lle am £9”

Beth rydym ni wedi’i wneud â’r canfyddiadau

Yn seiliedig ar ein hymchwil, rydym wedi rhoi arweiniad i Lywodraeth Cymru ar beth y dylai ei ystyried wrth ddewis darparwr archebu hybiau ar-lein – gan gynnwys pa mor hygyrch ydyw – yn ogystal â’r cynllun a’r cyfleusterau y dylai’r hybiau eu hunain eu cael.

Rydym hefyd wedi argymell bod defnyddwyr a darparwyr hybiau yn profi unrhyw offeryn archebu yn llawn cyn i Lywodraeth Cymru ei brynu neu ei adeiladu.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae’r tîm hybiau o bell bellach yn archwilio’r dull gorau o sefydlu system archebu hybiau o bell ar-lein i Gymru, yn seiliedig ar yr anghenion a nodwyd gennym.

Mae Stephanie Ellis yn ymchwilydd defnyddwyr ar sgwad Hybiau Sector Cyhoeddus CDPS.

Sut mae hybiau o bell yn gweithio orau? Dywedwch wrthym am eich profiadau yn y sylwadau isod.

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *