Mae partneriaeth a ffurfiwyd gan CDPS i wneud ceisiadau am grantiau chwaraeon cymunedol yn fwy cynhwysol eisoes wedi arwain at brosesu cyflymach a llai o wrthodiadau

1 Awst 2022

Mae defnyddwyr yn mynd trwy'r prototeip ymgeisio 100% o'r amser, gan deimlo eu bod yn rheoli'r broses © Pexels

Yn dilyn cam darganfod a cham alffa, mae tîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a Chwaraeon Cymru newydd orffen cam alffa 14 wythnos estynedig (a alwyd yn alffa+). Roedd yr amser ychwanegol hwn wedi caniatáu i ni ganolbwyntio'n unig ar ddylunio a phrofi proses ymgeisio am grantiau o'r dechrau i'r diwedd, ar yr un pryd ag archwilio newidiadau i brosesau swyddfa gefn sy'n gweddu'n well i anghenion defnyddwyr a Chwaraeon Cymru. 

Y prif ganfyddiadau o waith ymchwil ynglŷn â defnyddioldeb y prototeip

Ar ôl gwerthuso 8 prototeip, yn rhychwantu 5 taith defnyddiwr (cymhwysedd, creu cyfrif, cais, cynnig a dysgu), dyma beth rydyn ni wedi'i ddysgu gan y rhai a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil:

  • fe aethon nhw drwy'r broses ymgeisio 100% o'r amser ac roedden nhw'n gadarnhaol iawn ynglŷn â pha mor rhwydd ydoedd 
  • roedd y patrymau dylunio wedi perfformio'n dda ar draws dyfeisiau bwrdd gwaith, llechen a symudol  
  • roedd y prototeipiau'n bodloni disgwyliadau'r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil ynglŷn â threfn y camau 
  • roedd y cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn rheoli'r broses ymgeisio  
ystadegau sy'n dangos 4 gwibiad ymchwil, 12 wythnos, 5 taith defnyddwyr, 29 sesiwn ymchwil gyda'r holl gyfranogwyr, 8 sesiwn ymchwil gyda chyfranogwyr nad oeddent erioed wedi gwneud cais i Chwaraeon Cymru
Cam alffa+ Chwaraeon Cymru mewn rhifau

"Roedd yn reddfol, a doedd dim rhaid i mi neidio'n ôl ac ymlaen rhwng gwahanol adrannau - roedd yn eich arwain yn awtomatig at y rhan nesaf"

Dyfyniad gan un o'r cyfranogwyr yn yr ymchwil alffa+

Effaith camau Ystwyth blaenorol

O ganlyniad i argymhellion a ddeilliodd o gamau cynharach o'r prosiect Ystwyth hwn, dyma rai newidiadau y mae Chwaraeon Cymru wedi'u gwneud yn ddiweddar:

Newidiadau i'r broses asesu

Ers 1 Ebrill 2022, mae ceisiadau'n cael eu hasesu gan banel mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

Arferai paneli asesu pob cais am gyllid. Bellach, mae swyddog buddsoddi unigol yn asesu pob un, oni bai bod rheswm iddo fynd gerbron panel.

Buddion:

  • cyflymu'r broses benderfynu a chynyddu ymreolaeth unigolion yn y tîm buddsoddi (sy'n dyfarnu grantiau) 
  • llai o geisiadau'n cael eu gwrthod a pherthynas well ag ymgeiswyr a phartneriaid 
Mae partneriaeth CDPS-Chwaraeon Cymru wedi arwain at wrthod llai o geisiadau a pherthynas well ag ymgeiswyr © Pexels
Cadarnhau'r bartneriaeth rhwng CDPS a Chwaraeon Cymru

Mae bwriadau CDPS a Chwaraeon Cymru ar ddechrau ein partneriaeth wedi cael eu gwireddu wrth i ni weithio gyda'n gilydd. Rydyn ni wedi:

  • cael dealltwriaeth well o'r broblem wreiddiol ("Sut gall Chwaraeon Cymru gynyddu cyrhaeddiad ac effaith eu buddsoddiadau cymunedol?") trwy sylweddoli, er enghraifft, bod rhaid i ni weithio'n agosach â rhwydweithiau partner i ffurfio perthnasoedd â grwpiau anodd eu cyrraedd 
  • profi proses ymgeisio sy'n canolbwyntio'n fwy ar y defnyddiwr 
  • cefnogi rhannu gwybodaeth ac uwchsgilio yn Chwaraeon Cymru mewn Ystwyth a sgiliau digidol y tu hwnt i'r tîm craidd 
  • datgelu meysydd gwaith eraill i Chwaraeon Cymru eu hystyried (er enghraifft, archwilio'r rôl y gall partneriaid Chwaraeon Cymru ei chyflawni wrth gefnogi ymgeiswyr) 

Beth sydd nesaf?

Cyflwynodd y tîm ei ganfyddiadau a'i argymhellion alffa+ i noddwyr Chwaraeon Cymru yng nghanol mis Mehefin. Mae Chwaraeon Cymru bellach yn ystyried sut i weithredu'r argymhellion, p'un a ydynt yn gysylltiedig â'r broses ymgeisio neu welliannau eraill i wasanaeth neu bolisi.

Mae'r bartneriaeth rhwng CDPS a Chwaraeon Cymru wedi dod i ben ar ei ffurf tîm amlddisgyblaethol bresennol, ond rydyn ni'n trafod cydweithio yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith, gwnewch sylw neu anfonwch neges e-bost at rebecca.pudsey@sport.wales, rheolwr cynnyrch yn Chwaraeon Cymru.