Ffôn, fideo, ymweliad? Themâu sy’n dod i’r amlwg o’r prosiect darganfod ar fynediad at Feddygon Teulu

Mae technoleg hefyd yn annog mwy o fenywod ifanc a dynion canol oed i drefnu apwyntiadau – ond mae prinder Meddygon Teulu

18 Mawrth 2022

Mae mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau meddyg teulu o bell oherwydd COVID-19 © Anna Shvets/Pexels

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cynnal prosiect darganfod, a gomisiynwyd gan Wasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd, i ddysgu am brofiad pobl o gael mynediad at wasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru.  

Pam rydyn ni’n gwneud y gwaith ymchwil hwn  

Roedd y pandemig COVID wedi cyflymu’n sylweddol newidiadau i’r ffordd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu, yn enwedig ar-lein. O’r herwydd, mae’n adeg dda i ganfod sut mae’r newidiadau hyn wedi effeithio ar bobl sy’n defnyddio a darparu’r gwasanaethau hynny. 

Bydd canfyddiadau’r prosiect darganfod yn helpu ffurfio datblygiad gwasanaethau digidol ar gyfer y cyhoedd mewn practisiau Meddygon Teulu yng Nghymru ac amlygu ffyrdd o wella mynediad. 

Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud hyd yma 

Mae’r tîm wedi: 

Fe gyfwelon ni â samplau bach o gleifion a chlinigwyr, a ddewiswyd yn ofalus ar gyfer cymysgedd o nodweddion.

Yr hyn rydyn ni’n ei ofyn i bobl 

Rydyn ni’n gofyn pethau fel hyn i bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu yn ddiweddar: 

Rydyn ni hefyd yn siarad â staff practisiau Meddygon Teulu i gael eu barn ynglŷn â sut mae pobl yn cael at eu gwasanaethau; beth sy’n gweithio’n dda a beth y mae angen iddo wella.  

Rydym yn siarad â staff practisau meddygon teulu a defnyddwyr gwasanaeth i ddarganfod beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella © Tima Miroshnichenko/Pexels

Yr hyn rydyn ni’n ei ddarganfod 

Mae gennym ni fwy o gyfweliadau i’w cwblhau, ond mae themâu eisoes yn dod i’r amlwg.

Rydyn ni wedi dysgu:

Beth nesaf?

Yn ystod cam nesaf y prosiect, byddwn yn:

Anfonwch neges e-bost at Hannah Pike, rheolwr cyflawni’r Cynllun Braenaru Gofal Sylfaenol, gyda chwestiynau am y prosiect hwn. 

Dilynwch ni ar Twitter (@CDPS_cymru) a LinkedIn i gael mwy o ddiweddariadau  

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *