19 Tachwedd 2021

Bwyddyn yn ôl, wnaethon ni benodi panel ymgynghori. Sefydlwyd y panel un ar ddeg person i helpu newid cyfeiriad y CDPS, i rannu eu profiadau a’u dealltwriaeth ac i fod yn llais cyhoeddus cefnogol ar drawsnewid digidol gan gyd-weithio yn agos â’n Prif Weithredwr, Sally Meecham. 

Ar y dechrau, cafodd panel prentis ei greu er mwyn cefnogi’r gwaith o adeiladu gallu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr digidol.  Roedd y chwe prentis wedi’u paru gyda aelod o’r panel ymgynghori fel mentor. Erbyn hyn, rydym wedi cyfuno’r ddau banel, gan gadw'r trefniadau mentora yn eu lle. 

Cyn iddi adael, mae ein Prif Weithredwr, Sally Meecham yn adlewyrchu ar eu cyfraniad a’r rôl maen nhw wedi chwarae yn llwyddiant y CDPS. 

Mae cael y panel ardderchog yma wedi bod yn fuddiol iawn i’n gwaith a’n datblygiad. Mae nhw’n angerddol dros ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac mae eu cymorth wedi bod yn amhrisiadwy dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Dyma rannu ein argraffiadau gyda nhw yn gynnar ac yn gweithio gyda’n gilydd wrth ddefnyddio ein dealltwriaeth a phrofiadau ar y cyd, i sicrhau bod anghenion defnyddwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth. 

Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn i aelodau'r panel ymgynghori yn unigol gan eu bod nhw wedi rhoi eu hamser mor hael ar ystod eang o waith, gan gynnwys cefnogi datblygiad o’n sgiliau a’n rhaglen gallu; darpariaeth gwasanaethau Cymraeg a chymorth gyda recriwtio o staff parhaol. 

Mae hi wedi bod yn wych gweld aelodau llai profiadol yn ennill hyder gyda chymorth eu mentoriaid. 

Cafodd Heledd Evans, Rheolwr Gwasanaethau Digidol Cyfoeth Naturiol Cymru ei pharu â Ross Ferguson, dirprwy gyfarwyddwr Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU. 

Cefais gyfle i holi’r ddau am y profiad:

“Roedd cael bod yn rhan o banel ymgynghori i CDPS, i ddechrau fel aelod prentis ac yno fel aelod llawn, yn brofiad gwych. Yn un o fy sgyrsiau cyntaf gyda Ross, fe wnes i sylweddoli mod i wedi darllen sawl un o’i flogiau ar drawsnewid digidol dros y blynyddoedd, felly roedd o’n wych cael ei gyfarfod o a’i holi mewn person. 

Mae Ross wedi bod yn agored ac yn hael gyda’i gyngor ac rydw i wastad yn edrych ymlaen at ein sesiynau. Rydw i yn gallu rhannu heriau, a phrofi syniadau a chynlluniau efo fo. Y darn cyntaf o gyngor ganddo oedd i ddechrau ysgrifennu blogiau a cheisio gweithio yn agored – rhywbeth nes i fynd ati i wneud ( er bod gen i ffordd i fynd!). Mae wedi bod yn werthfawr iawn ac mae wedi rhoi mwy o hyder i mi wneud beth ‘dw i’n ceisio i wneud. 

Heledd Evans

Mae Ross hefyd wedi gweld y profiad yn fuddiol:

“Mae bod yn rhan o’r panel ymgynghori wedi bod yn brofiad hollol wych. Un o’r agweddau nes i'w fwynhau fwyaf oedd gweithio gydag aelodau prentis. Ges i fy mharu gyda Heledd, sy’n ffantastig ac wedi rhannu ei dealltwriaeth o’r Sector Cyhoeddus Gymreig efo ni. 

Mi gawson ni drafodaethau gwych yn cymharu nodiadau ar drawsnewid digidol ar y lefel strategol a gweithredol. Roeddwn ni wedyn yn gallu defnyddio'r wybodaeth yma i lywio fy nghyfraniadau i’r panel cynghori. Rydw i wir yn gwerthfawrogi'r cyfle yma o ddysgu yn ogystal ag ymgynghori. "

Ross Ferguson

Mae dau aelod gwreiddiol y panel ymgynghori: Jessica Leigh Jones (bellach yn Gadeirydd yn y CDPS) a Darius Pocha wedi cael eu penodi gan y Dirprwy Weinidog, Lee Waters fel ein cyfarwyddwyr anweithredol dros dro. Rydym wedi ffarwelio â Eddie Copland, Sabrina Robinson, Andrea Williams a Karen Jones (gyda Chris Owen yn cymryd ei lle yng Nghastell Nedd Port Talbot) sydd wedi camu i lawr o’r panel yn y misoedd diweddar. 

Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y panel ymgynghori, fydden ddim wedi cyflawni cymaint oni bai am eich cymorth, ymrwymiad ac arweiniad. 

Sally 

Gallwch weld aelodau cyfredol y panel ymgynghori yma.