Mapio cynhwysiant digidol

Beth oedd y nod?

Roedd y prosiect hwn yn edrych ar edefyn arbennig o’r Adolygiad Tirwedd Ddigidol: pa mor hygyrch yw gwasanaethau cyhoeddus digidol i holl drigolion Cymru.

Pa broblemau gallai’r prosiect eu datrys i bobl?

Bydd trawsnewid digidol yng Nghymru yn golygu bydd rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl.

Mae strategaeth ddigidol Cymru yn diffinio cynhwysiant digidol fel “rhoi’r cymhelliant, mynediad, sgiliau a hyder i bobl ymgysylltu â’r byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion”. Yn wir, mae’r nod yma’n rhan o lythyr cylch gwaith y CDPS ac yn ganolog i’r rheswm dros ein bodolaeth.

Bwriad y prosiect yma oedd cynhyrchu cyfeiriadur gweithgaredd cynhwysiant digidol ar draws Cymru. Byddai’r cyfeiriadur yn rhoi’r cyfle i ni adnabod gweithgareddau cynhwysiant eraill, a darganfod os ellir eu cydgysylltu. Byddai dadansoddiad daearyddol a demograffig o’r weithgaredd yn datgelu sut mae rhanbarthau Cymreig yn gwahaniaethu o ran y cyfanswm gwariwyd ar gynhwysiant digidol, ac os yr ydynt yn targedu gwahanol grwpiau o bobl.

Pwy oedd wedi cymryd rhan?

Prif randaliad y prosiect oedd Dyfodol Llewyrchus Llywodraeth Cymru a Bwrdd Rhaglen Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru. Bu’r prosiect hefyd gweithio’n agos gyda Chymunedau Digidol Cymru a Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru.

Comisiynwyd y gwaith hwn gan Swyddfa Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru.

Beth wnaeth CDPS?

Mapiodd CDPS weithgareddau cynhwysiant digidol ar draws bob ardal yng Nghymru, gan greu cwmpas y prosiect:

Yna fe wnaethom greu un cyfeiriadur yn cynnwys gweithgareddau cynhwysiant digidol yng Nghymru o fewn cwmpas y prosiect, dros y 2 flynedd ddiwethaf.

Roedd allbynnau prosiectau eraill yn cynnwys:

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Rydym wedi dechrau creu’r cyfeirlyfr unigol o weithgareddau cynhwysiant digidol yng Nghymru, o fewn cwmpas y prosiect, yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.

Nesaf, byddwn yn amlygu’r tueddiadau daearyddol a demograffig sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hyn.

Gan edrych ymhellach tua’r dyfodol, bydd allbynnau’r prosiect hwn yn cynnwys:

Sut wnaeth y prosiect yma helpu darparu’r strategaeth ddigidol i Gymru?

Helpodd y prosiect cyflawni tair cenhadaeth y strategaeth:

Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol

Darparu a moderneiddio gwasanaethau i’w gynllunio i ddylunio o amgylch anghenion y defnyddiwr, mewn modd syml a chyfleus. Gobeithiwn bydd hyn o ganlyniad i fapio cynhwysiant digidol.

Cenhadaeth 2: cynhwysiant digidol

Rhoi’r cymhelliant, mynediad, sgiliau, a hyder i bobl ymgysylltu â’r byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion.

Cenhadaeth 4: economi digidol

Ysgogi ffyniant a gwydnwch economaidd drwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol.

Postiadau blog

Pontio’r rhaniad digidol yng Nghymru – cyhoeddwyd 7 Ebrill 2022