Darganfod hybiau’r sector cyhoeddus

Beth oedd nod y cyfnod darganfod?

Darganfod mwy am anghenion gweithwyr sector cyhoeddus – yn ogystal â rhai preifat – sydd eisiau archebu lle mewn swyddfeydd gweithio pell, a elwir fel arall yn ‘hybiau’, mewn modd syml a rhwydd.

Pa broblemau all y cyfnod darganfod ddatrys i bobl?

Gwnaeth cyfnod darganfod (ymchwilio) y prosiect Ystwyth hwn archwilio anghenion defnyddiwr ar gyfer y gwasanaeth arfaethedig. Fodd bynnag, yn ogystal â helpu pobl i ddod o hyd i leoedd addas i weithio o bell, roeddem yn disgwyl y byddai’r gwasanaeth yn meithrin y math o rannu gwybodaeth sy’n digwydd pan fydd pobl yn gweithio yn yr un lleoliad.

Pwy oedd yn rhan o’r cyfnod darganfod?

Tîm Gweithio o bell Lywodraeth Cymru oedd yn bartner i CDPS yn ystod y darganfyddiad.

Beth wnaeth CDPS?

Gwnaethom gyfweld â defnyddwyr hybiau posib a staff cefn swyddfa’r canolfannau gweithio o bell. Edrychwyd dros y cyfweliadau yn fanwl, ac ar anghenion defnyddwyr ar gyfer y gwasanaeth gweithio o bell.

Sut wnaeth y prosiect yma helpu darparu’r strategaeth ddigidol i Gymru?

Helpodd hybiau’r sector cyhoeddus cyflawni 3 cenhadaeth y strategaeth:

Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol

Darparu a moderneiddio gwasanaeth fel eu bod nhw’n cael eu dylunio gyda phwyslais ar anghenion y defnyddiwr, yn syml, diogel a chyfleus.

Cenhadaeth 5: cysylltedd digidol

Cefnogir gwasanaethau gan seilwaith cyflym a dibynadwy.

Cenhadaeth 6: data a chydweithio
Mae gwasanaethau yn cael eu gwella trwy weithio gyda’n gilydd, gyda data a dealltwriaeth yn cael eu defnyddio a’u rhannu.

Postiadau blog

‘Hybiau’ yn dŷ hanner ffordd rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio gartref – cyhoeddwyd 6 Ebrill 2022