Prosiect Braenaru Gofal Sylfaenol – adroddiad darganfod

Cynnwys

  1. Cyflwyniad
  2. Crynodeb gweithredol
  3. Yr hyn a ganolbwyntiom arno
  4. Yr hyn a wnaethom
  5. Yr hyn a ganfuom
    1. Mae’r system iechyd a gofal yn wynebu nifer o heriau
    2. Mae’r heriau hyn yn gorfodi newidiadau i fodelau iechyd a gofal
    3. Mae rhywfaint o gyfatebiaeth â model y dyfodol i’w weld ar draws gofal sylfaenol
    4. Mae ehangu mynediad at gofnodion i ddinasyddion yn cynnig heriau a buddion
    5. Mae rhannu gwybodaeth rhwng gweithwyr proffesiynol yn her allweddol i fodel y dyfodol
    6. Mynediad at wasanaethau meddyg teulu yw’r brif her i ddinasyddion o hyd
    7. Rheoli’r galw yw’r brif her i bractisiau
    8. Mae practisiau’n newid sut mae dinasyddion yn cael mynediad at wasanaethau
    9. Mae blaenoriaethau dinasyddion o ran cael mynediad at wasanaethau yn dibynnu ar y cyd-destun
    10. Gallai gwahanol fodelau mynediad arwain at annhegwch
    11. Nid yw offer digidol wedi bod yn gyson lwyddiannus am resymau clir
  6. Cyfleoedd ar gyfer gwaith ychwanegol
  7. Y camau nesaf

1. Cyflwyniad

Gofynnodd Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) gynnal prosiect darganfod 12 wythnos. 

Nod y prosiect oedd cynnal gwaith ymchwil i ddeall beth y dylai DSPP ei ystyried wrth ddatblygu gwasanaethau digidol ar gyfer y cyhoedd er mwyn gwella gofal sylfaenol fel eu bod: 

Sylwer: yr hyn a olygwn wrth ‘ofal sylfaenol’ yw gwasanaethau sy’n darparu’r pwynt cyswllt cyntaf yn y system gofal iechyd, gan weithredu fel ‘drws blaen’ y GIG. Mae gofal sylfaenol yn cynnwys ymarfer cyffredinol yn ogystal â gwasanaethau fferylliaeth gymunedol, deintyddol, ac optometreg (iechyd y llygaid). 

Dyma grynodeb o’r adroddiad llawn a roddwyd i DSPP. Fe’i golygwyd i’w wneud yn fwy cryno ac i ddileu unrhyw wybodaeth a allai adnabod y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil. 

2. Crynodeb gweithredol

Cynhaliodd CDPS 12 wythnos o waith ymchwil i’r hyn y dylai rhaglen DSPP ei ystyried wrth ddatblygu gwasanaethau digidol ar gyfer y cyhoedd er mwyn gwella’r ffordd y darperir gofal sylfaenol. Comisiynwyd y gwaith hwn am ddau reswm.

Yn gyntaf, achosodd y pandemig gyfnod cythryblus pryd y cyflwynwyd nifer o gynhyrchion digidol ar gyfer y cyhoedd yn gyflym ym maes gofal sylfaenol. Diben y cynhyrchion hyn oedd helpu i reoli heintiau a chadw gwasanaethau i fynd. Prin oedd y wybodaeth am brofiadau dinasyddion neu feddygfeydd o ddefnyddio’r offer newydd hyn.

Yn ail, mae DSPP yn datblygu ap GIG Cymru. Roedd eisiau i’r broses o’i ddatblygu gael ei lywio gan ddealltwriaeth ehangach o’r cyd-destun gofal sylfaenol.

Roedd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddinasyddion a meddygfeydd. Er bod gofal sylfaenol hefyd yn cynnwys fferylliaeth, optometreg a deintyddiaeth – ac yn cael ei gefnogi gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn y gymuned – gwelir y galw mwyaf mewn ymarfer cyffredinol.

Cyfwelodd y tîm ymchwil â dinasyddion a staff meddygfeydd a chanddynt amrywiaeth o nodweddion. Fe wnaethom ddysgu am eu profiadau a’u heriau. Fe wnaethom adolygu astudiaethau eraill perthnasol hefyd, gan gynnwys rhai meintiol a gynhaliwyd gyda samplau mawr.

Cyfwelodd y tîm â detholiad o randdeiliaid gofal sylfaenol ar yr un pryd. Mae llawer yn gweithio ym maes gofal sylfaenol mewn rolau polisi, strategaeth, rheolaeth, craffu neu sector masnachol. Mae’r gweddill yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cynrychioli rolau gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol, iechyd cymunedol a pherthynol i iechyd. Gwnaethom ddysgu am eu gwaith a’u safbwyntiau ynglŷn â’r problemau.

Mae’n amlwg bod gofal sylfaenol yn wynebu nifer o heriau, ond y broblem graidd yw’r ffaith bod y galw cynyddol yn fwy na’r capasiti. Mae’r heriau hyn yn gorfodi’r model gofal sylfaenol i newid. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau’r galw a’i ailgydbwyso ar draws ystod ehangach o wasanaethau. Mae tystiolaeth gynnar o’r newidiadau hyn yn amlwg ym mhob maes.

Mae rhannu gwybodaeth trwy sianeli digidol yn allweddol. Mae manteision ac anfanteision yn gysylltiedig â chaniatáu i ddinasyddion gael at eu cofnodion iechyd meddyg teulu eu hunain ar-lein. Fodd bynnag, disgwylir i’r mynediad hwnnw gefnogi rôl fwy rhagweithiol mewn iechyd a gofal pobl, ar yr un pryd â lleihau’r galw ar bractisiau. Hefyd, mae angen i’r wybodaeth yng nghofnodion meddygon teulu gael ei rhannu’n fwy hwylus rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n gofalu am ddinesydd. Bydd hyn yn hollbwysig i ailddosbarthu’r galw ar draws ffiniau sefydliadol.

Mae dau fater cydgysylltiedig yn dominyddu gofal sylfaenol: mynediad at wasanaethau meddyg teulu o safbwynt dinasyddion a rheoli’r galw o safbwynt practisiau. Mae ymyriadau digidol wedi cael eu defnyddio’n helaeth mewn sectorau eraill i liniaru heriau fel hyn. Nid ydynt wedi bod yn gyson lwyddiannus mewn gofal sylfaenol yng Nghymru. Canfuom sawl rheswm dros hyn. Achoswyd rhai ohonynt gan y pandemig. Ond, at ei gilydd, mae offer digidol wedi cael eu caffael a’u defnyddio’n rhy aml heb ddigon o ddealltwriaeth ac ystyriaeth o’r canlynol:

Mae hyn wedi arwain at ddryswch a rhwystredigaeth i rai dinasyddion a chynnydd canfyddedig yn y galw am rai practisiau. Mae practisiau wedi ymateb trwy ddiffodd neu gyfyngu ar fynediad at fathau amrywiol o wasanaethau digidol. Mae amrywiadau eang wedi dod i’r amlwg yn y ffordd y gellir cael at wasanaethau meddyg teulu. Canfuom fod dewis o ddulliau mynediad yn well am gefnogi’r amrywiaeth o dasgau a chyd-destunau y mae dinasyddion yn eu cyflwyno; gallai hyn fod yn gyfyngedig iawn mewn rhai ardaloedd.

Dylai offer digidol barhau i fod yn rhan bwysig o strategaethau i liniaru heriau sy’n ymwneud â mynediad a galw mewn gofal sylfaenol. Dylem ddysgu o’r arbrofion a gynhaliwyd yn ystod y pandemig. Mae llawer o’r bobl y siaradom â nhw ar draws pob agwedd ar yr ymchwil yn credu mai nawr yw’r amser i ddwysáu ymdrechion i ddefnyddio gwasanaethau digidol yn fwy effeithiol mewn gofal sylfaenol.

Argymhellwn sawl cyfle gwerth uchel am waith â ffocws mwy penodol, gan gynnwys:

Nesaf: Yr hyn a ganolbwyntiom arno