Prosiect Braenaru Gofal Sylfaenol: adroddiad darganfod – newidiadau i fynediad

Cynnwys

5.8 Mae practisiau’n newid sut mae dinasyddion yn cael mynediad at wasanaethau 

Soniodd staff meddygfeydd am ganfyddiad cyhoeddus (a gadarnhawyd trwy ymchwil gyda dinasyddion, ymhlith ffynonellau eraill) nad oedd meddygfeydd yn gweld unrhyw un wyneb yn wyneb, er nad oeddent “byth wedi cau eu drysau”, mewn gwirionedd.

Disgrifiodd practisiau sut roedd y pandemig wedi newid eu dulliau o drin apwyntiadau yn y ffyrdd canlynol:

Cyn y pandemig:

Yn ystod y pandemig:

Gan edrych tua’r dyfodol:

Dangosodd profiadau dinasyddion sut oedd practisiau, yn eu barn nhw, wedi cyflwyno newidiadau heb geisio esbonio na chynyddu ymwybyddiaeth o sut oedd systemau newydd yn gweithio.

Roedd rhai pobl eisiau sicrwydd na fyddai defnyddio sianeli newydd (offeryn digidol, er enghraifft) yn eu rhoi dan anfantais o gymharu â’r rhai sy’n defnyddio’r ffôn. Os oeddent yn ansicr, byddent yn rhoi cynnig ar bob sianel neu unrhyw sianel y gallent.

Roedd rhai pobl wedi ymdopi â hyn yn dda; dywedodd eraill fod y profiad wedi eu siomi ac, mewn rhai achosion, wedi gwneud iddynt deimlo’n ddig bod disgwyl iddynt addasu i ffyrdd newydd o wneud pethau nad oeddent fel petaent wedi’u dylunio gyda chleifion mewn golwg.

Mae effaith y newidiadau hyn wedi rhoi’r berthynas rhwng meddygon a chleifion dan straen. Clywsom ganmoliaeth wresog a phryder go iawn gan ddinasyddion ynglŷn â’r ffordd yr oedd practisiau’n rheoli eu gwasanaethau yn 2022, ac roedd sawl un a gyfwelwyd yn beio gwleidyddiaeth, cyni a newidiadau cymdeithasol am y diffyg cydweddiad rhwng y galw am feddygon teulu a’r cyflenwad ohonynt.

Dywedodd un ei fod wedi’i “siomi ar yr ochr orau ac yn ddiolchgar” bod unrhyw un yn y practis wedi ymateb i’w gais yn gynnar yn y pandemig. Roedd un arall wedi cynhyrfu’n amlwg oherwydd y broses a gyflwynwyd yn ystod yr un cyfnod mewn practis yn yr un ardal o Gymru:

“Ni allaf siarad â meddyg – sut mae hyn yn bosibl? Mae’n cael ei gwneud mor anodd â phosibl; mae gennych chi gyfle 15 munud i geisio cael apwyntiad. Roedd [y practis] ar gau am 4-5 diwrnod yn ystod cyfnod y Nadolig”

Dinesydd

Mewn cyfweliadau â phractisiau, clywsom o’u safbwynt nhw sut maen nhw’n gweithio’n galed iawn i ymdopi yn ystod cyfnod heriol a chydag adnoddau prin. Mae rhai staff practis yn gobeithio y bydd cleifion yn cydweithredu, gan fynegi rhwystredigaeth weithiau nad yw pawb yn deall beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni.

Mae hefyd yn glir o ddinasyddion a rhai meddygon teulu y siaradom â nhw fod llawer o feddygon wedi addasu eu hiaith a’u prosesau’n fwriadol i ddarparu cymorth emosiynol, therapiwtig ac ymarferol pan fyddant wedi sylwi bod rhywun mewn angen. Pwysleisiodd ein gwaith ymchwil ba mor bwysig ydyw i ddefnyddio iaith a phrosesau y mae dinasyddion yn eu deall ac i ddarparu cymorth emosiynol a therapiwtig, yn ogystal â chlinigol.

Clywsom droeon nad oedd rhai offer digidol yn bodloni anghenion amrywiol defnyddwyr, gan gynnwys effeithlonrwydd sylfaenol ac opsiynau priodol ar gyfer mathau penodol o geisiadau.

Roedd un offeryn ymgynghori ar-lein yn arbennig o feichus, gan ofyn “yr un cwestiwn pum gwaith”. Nid oedd ychwaith yn darparu llwybrau ar gyfer tasgau safonol fel trefnu apwyntiadau dilynol, gan ganiatáu opsiynau ‘ie/na’ yn unig ar gyfer atebion pan fyddai gwahaniaeth cynnil wedi bod yn ddefnyddiol.

5.9 Mae blaenoriaethau dinasyddion o ran cael mynediad at wasanaethau yn dibynnu ar y cyd-destun

Mae tystiolaeth gymhellol yn y gwaith ymchwil o’r angen am ddewis ynglŷn â sut gall dinasyddion gael mynediad at wasanaethau. Er bod natur a difrifoldeb cyflwr iechyd unigolyn yn ffactor clir wrth benderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer gwneud a mynychu apwyntiadau, canfu ein gwaith ymchwil defnyddwyr fod agweddau eraill ar fywydau cleifion (lleoliad, opsiynau trafnidiaeth, galluoedd) yn bwysig iawn hefyd.

Clywsom sut oedd gan yr un unigolyn flaenoriaeth gref dros apwyntiad wyneb yn wyneb neu sgwrs o bell ar sail achos unigol.

Disgrifiodd un dinesydd a oedd yn gweithio oriau hir mewn swydd heriol deimlo’n flin yn y gorffennol oherwydd y bu’n rhaid iddo aros yn hir yn y practis am apwyntiadau wyneb yn wyneb:

“Byddwn i’n fwy na hapus cael galwad ffôn. Gallwch siarad [â’r meddyg teulu] dros y ffôn, ar yr amod ei fod yn caniatáu amser priodol i ddelio â’ch mater”

Dinesydd

Aeth yr unigolyn hwn ymlaen i ddisgrifio sut roedd angen rhoi mwy o ystyriaeth i’r broses ar gyfer apwyntiadau ffôn, yn enwedig pan nad oedd y meddyg teulu’n ffonio’n ôl ar yr adeg ddisgwyliedig, a oedd yn golygu bod y claf wedi colli’r alwad ffôn pan ddaeth.

Ar ôl ffonio’n ôl, dywedwyd wrtho y byddai’n rhaid iddo aildrefnu’r apwyntiad “oherwydd dim ond unwaith y gall y meddyg ffonio”. Teimlai fod y dull hwn yn anhyblyg.

Disgrifiodd pobl eraill brofiadau tebyg; roedd un claf yr oedd ei ddealltwriaeth o gyflwr cronig difrifol – a goblygiadau ei adael heb ei drin yn ystod pyliau – yn golygu ei fod wedi pwyso am apwyntiad wyneb yn wyneb lle’r oedd rhaid rhoi triniaeth wyneb yn wyneb.

Heblaw yn ystod pyliau o’r fath, mynegodd yr un unigolyn flaenoriaeth gref am ymgynghoriadau ffôn â’i arbenigwr gofal eilaidd er mwyn osgoi taith flinedig a phoenus:

“Teimlais ei fod [yr arbenigwr] yn gwrando’n astud yn hytrach nag edrych ar ei sgrîn neu’r nodiadau. Roeddwn i’n arfer gyrru am awr, aros am awr (o leiaf), cael yr apwyntiad, aros am awr arall i gael profion gwaed – yna treulio awr arall yn gyrru adref. Hyd yn oed os gallwch chi gael lle parcio i’r anabl, mae’r clinig [clinig yr arbenigwr] ar ochr arall yr ysbyty. Bellach, mae’n apwyntiad 30 munud ar y ffôn a dyna chi. Dydw i ddim yn gwybod pam na wnaethon nhw hyn flynyddoedd yn ôl. Yr un sgwrs rydych chi’n ei chael“.

Dinesydd

Ni chynigiwyd galwad fideo i’r unigolyn hwn ond dywedodd y byddai wedi ffafrio hynny ar draul opsiynau eraill ar gyfer apwyntiadau archwiliad arferol, “oherwydd bod yr ymgynghorydd yn edrych arnoch chi go iawn”.

Roedd o’r farn bod yr elfen weledol yn bwysig i gyfathrebu a helpu’r meddyg i asesu ei gyflwr.

Roedd eraill o’r farn bod cyfathrebu o bell nid yn unig yn dderbyniol ond yn amgenach mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys:

Daeth yn amlwg bod cyfleoedd ar gael i leihau’r ymdrech sy’n ofynnol i deithio i apwyntiadau wyneb yn wyneb trwy ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a fideo, ar yr amod bod practisiau’n ystyried amgylchiadau a dewisiadau unigol wrth gynnig yr opsiynau hyn i ddinasyddion.

“Rwy’n credu petawn i’n gweithio y byddai’n ddefnyddiol cael ymgynghoriad o bell fel opsiwn … Byddai’n well gen i siarad â rhywun wyneb yn wyneb – rydych chi’n ymgysylltu’n well. A’r dyddiau hyn, nid yw amser mor bwysig! Nid yw aros yn broblem. Mae amser yn bwysicach i rai pobl”

Dinesydd

Y brif ystyriaeth ym mhob achos oedd natur y rheswm dros gysylltu, ac roedd yn fwy tebygol y byddai angen i sefyllfaoedd “lle mae llawer yn y fantol” (unrhyw ddiagnosis posibl o newyddion gwael) gael apwyntiad wyneb yn wyneb.

Mae canfyddiadau ein gwaith ymchwil yn cefnogi’r argymhellion gan Healthwatch England, Pum egwyddor ar gyfer gofal iechyd digidol ar ôl COVID (Healthwatch England, 2021):

  1. Cynnal modelau gofal traddodiadol ochr yn ochr â dulliau o bell a chynorthwyo pobl i ddewis y math mwyaf priodol o apwyntiad i fodloni eu hanghenion.
  2. Buddsoddi mewn rhaglenni cymorth er mwyn rhoi’r sgiliau i gynifer o bobl â phosibl gael mynediad at ofal o bell.
  3. Egluro hawliau cleifion ynglŷn â gofal o bell, gan sicrhau nad yw pobl sydd ag anghenion cymorth neu fynediad dan anfantais wrth gael mynediad at ofal o bell.
  4. Galluogi practisiau i fod yn rhagweithiol ynglŷn â chynhwysiant trwy gofnodi anghenion cymorth pobl.
  5. Ymrwymo i gynhwysiant digidol trwy drin y rhyngrwyd fel hawl gyffredinol.

Roedd rhai o’r practisiau y siaradom â nhw yn cydnabod yr angen am fodel cyfunol yn y dyfodol, sy’n rhoi dewis i ddinasyddion ynglŷn â sut maen nhw eisiau rhyngweithio â meddygfeydd.

Dywedodd rhai hefyd fod sianeli newydd fel ymgynghoriadau ar-lein wedi annog grwpiau o ddinasyddion i gysylltu na fyddent wedi gwneud hynny’n flaenorol:

“Mae’n well gan rai pobl gael sgwrs, ond mae’n well gan rai pobl dechnoleg a pheidio â siarad. Mae angen i rai gael cwestiynau arweiniol ac agwedd dyner os nad ydynt cystal am gyfathrebu: mae lle i’r ddau”

Meddyg Teulu

Nesaf: Gallai gwahanol fodelau mynediad arwain at annhegwch