Prosiect Braenaru Gofal Sylfaenol: adroddiad darganfod – canfyddiadau
5. Yr hyn a ganfuom
5.1 Mae’r system iechyd a gofal yn wynebu nifer o heriau
Y galw am wasanaethau ymarfer cyffredinol a mynediad atynt yw’r her ganolog o hyd ym maes gofal sylfaenol. Roedd hyn yn amlwg o’n cyfweliadau â dinasyddion a staff practisiau. Dywedodd llawer o grwpiau rhanddeiliaid mai dyma’r prif faes y dylai offer digidol chwarae rôl liniarol ynddo.
Mae’r galw am wasanaethau iechyd a gofal yn cynyddu o ran swm a chymhlethdod, a bydd hynny’n parhau. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio a bod mwy o oedolion yn byw gyda nifer o wahanol gyflyrau tymor hir.
Nid oes ffordd rwydd o gynyddu capasiti gwasanaethau i fodloni’r galw sy’n cynyddu. Mae prinder staff difrifol mewn rolau clinigol a gofal cymdeithasol, gan gynnwys prinder meddygon teulu. Mae’n anodd recriwtio a chadw staff. Mae cost gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu’n gyflymach na thwf economaidd, gan adael bwlch ariannu.
Nid yw iechyd a gofal bob amser yn cael eu trefnu’n effeithiol o amgylch anghenion y dinesydd nac mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws ffiniau sefydliadol. Mae hyn yn gwaethygu’r profiad i ddinasyddion, yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau iechyd ac yn cyflwyno aneffeithlonrwydd, gan leihau’r capasiti a chynyddu’r gost ymhellach.
Ceir bwlch eang o hyd mewn canlyniadau iechyd i wahanol grwpiau o’r boblogaeth, ac mae penderfynyddion cymdeithasol yn cael mwy o ddylanwad ar les y boblogaeth na darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn uniongyrchol.
Yn olaf, mae disgwyliadau’r cyhoedd wedi newid o ganlyniad i hollbresenoldeb, cyflymder a chyfleustra ymadweithiau â gwasanaethau digidol modern. Mae llawer o bobl yn awyddus i ddefnyddio dulliau digidol o gael mynediad at ofal a’i reoli. Mae niferoedd cynyddol yn disgwyl gallu gwneud hynny. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu nad ydynt yn fodlon goddef gwasanaethau digidol sy’n rhoi profiad gwael i ddefnyddwyr a byddant yn cefnu arnynt os yw dulliau mynediad traddodiadol yn gyflymach, yn haws neu’n fwy effeithiol wrth eu helpu i gwblhau eu tasg.
5.2 Mae’r heriau hyn yn gorfodi newidiadau i fodelau iechyd a gofal
Mae Model Gofal Sylfaenol Cymru yn disgrifio sut y bydd gofal sylfaenol yn cael ei ailffurfio i gefnogi egwyddorion Cymru Iachach: Cynllun Hirdymor ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ar lefel uchel, mae’r model newydd hwn yn ceisio:
- dosbarthu’r galw’n fwy cytbwys ar draws ystod ehangach o ddarparwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gymuned leol
- cynllunio, datblygu a gwella gwasanaethau ar lefel glwstwr (grŵp lleol o ddarparwyr gofal iechyd)
- pwysleisio gofal a chymorth wedi’u seilio ar le, yn agosach at gartref pobl
- rhoi rôl ragweithiol i ddinasyddion ei chyflawni yn eu hiechyd eu hunain o ran atal, hunanofal a hunangyfeirio, yn ogystal â dylunio gwasanaethau lleol
- defnyddio data, datblygiadau digidol a thechnoleg i gefnogi’r newid hwn
Mae bwlch rhwng y weledigaeth hon a sut gellir ei chyflawni’n ymarferol gan y rhai hynny sy’n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn gweithio i fynd i’r afael â’r bwlch hwn.
Nesaf: Mae rhywfaint o gyfatebiaeth â model y dyfodol i’w weld ar draws gofal sylfaenol