Prosiect Braenaru Gofal Sylfaenol – adroddiad darganfod – blaenoriaethau ymchwil

Cynnwys

3. Yr hyn a ganolbwyntiom arno

Roedd ein gwaith ymchwil wedi blaenoriaethu:

Ceisiom siarad â dinasyddion, meddygon teulu, rheolwyr practis a staff gweinyddol a derbynfa yn rhan o’r ymchwil defnyddwyr oherwydd bod y galw mwyaf yn digwydd mewn ymarfer cyffredinol. Siaradom â chynrychiolwyr fferylliaeth, deintyddiaeth ac optometreg (iechyd y llygaid) hefyd.

4. Yr hyn a wnaethom

Cyfwelom â 14 o ddinasyddion ledled Cymru, a recriwtiwyd gan asiantaeth arbenigol ac a sgriniwyd am amrywiaeth o nodweddion, gan gynnwys grŵp oedran, rhywedd, ethnigrwydd, cyflyrau iechyd, a sgiliau Cymraeg.

Roedd y sesiynau ymchwil hyn yn cynnwys cyfran uwch o bobl a adroddodd fod ganddynt iechyd gwael ac anabledd nag a welir yn y boblogaeth gyffredinol. Mae hyn yn ddull sefydledig ar gyfer deall pobl ag anghenion mwy cymhleth.

Ni allwn rannu mwy o fanylion yma am resymau cyfrinachedd, oherwydd gallai hynny arwain at adnabod yr unigolion dan sylw.

Siaradom â meddygon teulu a staff meddygfa ym mhob bwrdd iechyd, trwy gyfweliadau 60-90 munud â 23 o gyfranogwyr. Amlygwyd yr unigolion hyn trwy gyfathrebu â’n rhwydweithiau a gofyn iddynt lenwi ffurflen i fynegi diddordeb. Roedd hyn wedi caniatáu i ni ddewis cyfranogwyr sy’n adlewyrchu cymysgedd o nodweddion, fel practisiau trefol/gwledig a bach/canolig/mawr, yn ogystal â lefelau amddifadedd yn nalgylch y practis.

Mae’r tablau isod yn dangos dadansoddiad o’r practisiau a’r staff y gwnaethom ymgysylltu â nhw.

RôlNifer
Meddyg teulu7
Rheolwr practis12
Staff gweinyddol1
Arall3
Maint y practisNifer
Bach3
Canolig15
Mawr5
Dalgylch Nifer
Trefol 14
Gwledig 9
Practisiau mewn ardaloedd o amddifadeddNifer 
Ardal o amddifadedd5
Ardal na ystyrir ei bod yn ardal o amddifadedd 18

Gwnaethom adolygu gwaith ymchwil arall, gan gynnwys astudiaethau meintiol (casglu a dadansoddi data rhifiadol), i gryfhau’r canfyddiadau o’r samplau bach a ddefnyddiom. Defnyddiwyd yr astudiaethau eraill hyn i driongli (cymharu’r canfyddiadau) â’n gwaith ymchwil cynradd ein hunain.

Siaradom hefyd â sefydliadau neu grwpiau sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol, i ddysgu am eu gwaith a’u safbwyntiau ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau meddyg teulu a dinasyddion. Roedd y rhain yn cynnwys:

Nesaf: Yr hyn a ganfuom