Darganfod gofal sylfaenol
Beth oedd nod y prosiect?
Pa broblemau all y cyfnod darganfod ddatrys i bobl?
O ganlyniad i COVID-19, rydym wedi gorfod rhyngweithio gyda’n meddyg teulu o bell, gan gynyddu’r angen am wasanaethau gofal iechyd digidol da.
Trwy ddeall gofynion cleifion a darparwyr gofal iechyd yn drylwyr, bbyddai GIG Cymru yn gallu gwneud penderfyniadau da wrth ddatblygu math o wasanaethau i’r cyhoedd.
Pwy oedd yn rhan o’r adolygiad?
Noddwr y prosiect oedd Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd.
Roedd defnyddwyr a darparwyr systemau digidol sy’n wynebu cleifion, gan gynnwys Fy Iechyd Ar-lein, yn ogystal â meddygon teulu a nyrsys practis meddygon teulu, rheolwyr a staff gweinyddol, i gyd yn rhan o’r ymchwil.
Beth wnaeth CDPS?
Y ‘cyfnod darganfod’ yw cam ymchwilio cyntaf cynllun gwasanaeth dylunio Ystwyth, sef y dull graddol o adeiladu gwasanaethau y mae CDPS yn ei hyrwyddo. Mae’r cyfnod darganfod yn cynnwys deall anghenion posibl defnyddwyr y gwasanaeth – cam hanfodol cyn ystyried ffyrdd o ddiwallu’r anghenion hynny.
Fel rhan o’r cyfnod darganfod, gwnaeth CDPS gyfweld â’r defnyddwyr a’r darparwyr y soniwyd amdanynt uchod am eu:
- profiadau gofal sylfaenol blaenorol
- canfyddiadau o ofal sylfaenol
- agweddau tuag at dechnoleg
Rhoddodd y sgyrsiau yma fewnwelediad i’r hyn sy’n bwysig i bobl sy’n derbyn ac yn darparu gofal sylfaenol yng Nghymru. Fe wnaeth y mewnwelediadau hynny ein helpu i greu darlun o dirwedd gofal sylfaenol ehangach Cymru, gan ystyried bwriad polisi a safbwyntiau rhanddeiliaid eraill, megis safbwyntiau asiantaethau’r llywodraeth y tu hwnt i ofal iechyd.
Dyna fydd y cyd-destun o ran yn le bydd gwasanaethau digidol newydd i gleifion yn eistedd. Ar ddiwedd y cyfnod darganfod, roeddem yn gallu gwneud argymhellion gwybodus – cydbwyso anghenion defnyddwyr, buddiannau ehangach rhanddeiliaid a strategaeth y llywodraeth – ynglŷn â’r ffyrdd gall y gwasanaethau hynny eu cymryd yn y dyfodol.
Sut wnaeth y prosiect yma helpu darparu’r strategaeth ddigidol i Gymru?
Bydd adeiladu gwell gwasanaethau digidol mewn gofal cynradd yn helpu i gyflawni dwy genhadaeth y strategaeth:
Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol
Darparu a moderneiddio gwasanaeth fel eu bod nhw’n cael eu dylunio gyda phwyslais ar angehnion y defnyddiwr, yn syml, diogel a chyfleus.
Cenhadaeth 6: data a chydweithio
Mae gwasanaethau yn cael eu gwella trwy weithio gyda’n gilydd, gyda data a dealltwriaeth yn cael eu defnyddio a’u rhannu.
Postiadau blog
Gwaith ymchwil CDPS yn amlygu heriau yn ymwneud â mynediad at wasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru – cyhoeddwyd 17 Awst 2022
Ffôn, fideo, ymweliad? Themâu sy’n dod i’r amlwg o’r prosiect darganfod ar fynediad at Feddygon Teulu – cyhoeddwyd 18 Mawrth 2022
Beth all technoleg ddigidol ei wneud? Archwilio tirwedd gofal iechyd sylfaenol Cymru – cyhoeddwyd 4 Mawrth 2022