Awdurdod Refeniw Cymru – prawf o gysyniad data tir ac eiddo

Beth yw’r nod?

Creu prawf cysyniad ymarferol i ddangos sut gall data gefnogi trethiant tir ac eiddo datganoledig sy’n symlach, yn decach ac yn fwy effeithlon.

Pa broblemau y gallai eu datrys i bobl?

Nod Awdurdod Cyllid Cymru yw dod yn sefydliad treth cwbl ddigidol ar gyfer Cymru. Gallai gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, wedi’u seilio ar egwyddorion Ystwyth, wneud trethiant yn symlach, yn decach ac yn fwy effeithlon.

Rydyn ni’n archwilio sut gallai platfform data ar gyfer tir ac eiddo yng Nghymru gefnogi trethi sy’n amrywio’n ddaearyddol. Rydyn ni hefyd yn ystyried sut gallai platfform o’r fath fod yn ddefnyddiol i ystod o sefydliadau eraill yng Nghymru ym maes llywodraeth leol neu’r trydydd sector, er enghraifft.

Rydyn ni’n ceisio:

Pwy sy’n cymryd rhan?

Tîm cyfunol sy’n cynnwys CDPS ac Awdurdod Cyllid Cymru.

Beth mae CDPS wedi’i wneud?

Yn dilyn y cyfnod profi cysyniad, rydym wedi bod yn defnyddio data go iawn i adeiladu gwasanaethau prototeip . Mae prototeipiau wedi ein helpu i archwilio:

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cafodd y prosiect ei oedi ar ôl i’r ddau gam cyntaf ddod i ben yn llwyddiannus. Mae’r gwaith a gwblhawyd gennym yn ystod y camau cyntaf wedi tynnu sylw at y cyfleoedd y mae platfform data tir ac eiddo yn eu cyflwyno. Yn nodedig, mae’r hyn a ddysgwyd o’r gwaith wedi newid dealltwriaeth ACC o’r ffordd orau o gymhwyso cyfraddau uwch o’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau.   

Fodd bynnag, o ystyried y pwysau ariannol sy’n datblygu’n gyflym yr ydym i gyd yn ymgodymu ag e, a’r ansicrwydd a ddaw yn ei sgil, mae ACC wedi dod i’r casgliad bod angen iddynt flaenoriaethu ac oedi’r gwaith platfform data tir ac eiddo ehangach am y tro.  

Rydym yn benderfynol o ail-ddechrau’r gwaith hwn yn y dyfodol. 

Sut bydd y gwaith hwn yn helpu cyflawni’r strategaeth ddigidol i Gymru?

Bydd yr asesiad aeddfedrwydd digidol a’r ymarfer prototeipio yn helpu cyflawni dwy o genadaethau’r strategaeth:

Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol

Cyflenwi a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr ac yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.

Cenhadaeth 4: yr economi ddigidol

Sbarduno ffyniant a chydnerthedd economaidd drwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol.

Postiadau blog

O ddata i ddyled, beth rydw iwedi ei ddysgu wrth weithio gyda CDPS – cyhoeddwyd 14 Hydref 2022

Sut mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyflawni canlyniadau dyled gwell – cyhoeddwyd 29 Medi 2022

Beth ddysgon ni o anghenion ein defnyddwyr? – cyhoeddwyd 16 Mai 2022

Sut y gwnaethom ni ddefnyddio nodiadau wythnosol – cyhoeddwyd 10 Mai 2022

Beth rydym wedi ei ddysgu o weithio’n agored – cyhoeddwyd 5 Ebrill 2022

Beth yw llwyfan data? – cyhoeddwyd 2 Mawrth 2022

Helpu Awdurdod Cyllid Cymru i ddod yn gwbl ddigidol – cyhoeddwyd 23 Chwefror 2022