Presgripsiynu digidol mewn practisau meddygon teulu a fferyllfeydd lleol (gofal sylfaenol)

Cefndir

Rydym yn gweithio gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ddwy ran o’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (DMTP). Un darn o waith yr ydym yn ei gefnogi yn ymwneud â ‘gofal sylfaenol’. Mae’n golygu bod CDPS a DMTP gweithio ynghyd â byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i wella’r ffordd y mae meddyginiaeth yn cael ei ragnodi a’i dosbarthu mewn meddygfeydd teulu, ac mewn fferyllfeydd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae rhan sylweddol o’r broses yn seiliedig ar bapur, ond cyn bo hir bydd yn symud tuag at dechnoleg a elwir yn Wasanaeth Presgripsiwn Electronig (EPS). Mae’r gwaith hwn yn rhan allweddol o’r DMTP sy’n ceisio gwneud rhagnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhob man yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, effeithlon ac effeithiol.

Daw hyn â chyfleoedd newydd i wella diogelwch, yn ogystal â gwella profiad cleifion a chlinigwyr. Ond mae yna hefyd gyfyngiadau, anghenion defnyddwyr newydd, ‘realiti blêr’ ffyrdd gweithio o ddydd i ddydd, a systemau a phrosesau presennol, rhwystrau ac anfanteision i’w deall.

Beth yw’r nod?

Er mwyn deall anghenion a barn y rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu, gweinyddu, rheoli a derbyn meddyginiaethau mewn lleoliadau gofal sylfaenol yng Nghymru – gan gynnwys practisau meddygon teulu a fferyllfeydd lleol.

Pa broblemau gallai’r prosiect eu datrys i bobl?

Drwy’r darganfyddiad hwn, rydym yn gobeithio dangos i fyrddau iechyd a thimau gweithredu lleol, y risgiau a’r cyfleoedd o symud i systemau rhagnodi electronig mewn lleoliadau gofal sylfaenol (practisau meddygon teulu a fferyllfeydd lleol), fel y gallant baratoi’n ddiogel, dewis yr opsiynau gorau a gweithredu mewn ffordd sy’n darparu’r budd mwyaf.

Pwy sy’n cymryd rhan?

Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw partner CDPS yn y darganfyddiad yma. Mae CDPS yn gweithio gydag arbenigwyr pwnc Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol, ac yn cynnal ymchwil defnyddwyr gyda’r bobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â rhagnodi, dosbarthu, rhoi neu dderbyn meddyginiaethau, mewn lleoliadau gofal sylfaenol – gan gynnwys practisau meddygon teulu a fferyllfeydd lleol.

Beth mae CDPS wedi’i wneud?

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ysgrifennu argymhellion ar gyfer tîm gofal sylfaenol Iechyd a Gofal Digidol Cymru iddynt eu datblygu.

Sut bydd y gwaith hwn yn helpu cyflawni’r strategaeth ddigidol i Gymru?

Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol 

Darparu a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod wedi’u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr a’u bod yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus. 

Cenhadaeth 5: economi ddigidol 

Ysgogi ffyniant a gwytnwch economaidd trwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol. 

Cenhadaeth 6: data a chydweithio 

Mae gwasanaethau’n cael eu gwella trwy gydweithio, gyda data a gwybodaeth yn cael eu defnyddio a’u rhannu. 

Cofnodion blog

Symud tuag at bresgripsiynau electronig yng Nghymru – cyhoeddwyd 21 Tachwedd 2022

Dod ynghyd i wella ansawdd gwasanaethau presgripsiwn yng Nghymru – cyhoeddwyd 2 Tachwedd 2022