Gwella gwasanaethau mamolaeth gyda chofnodion digidol
Bydd rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru yn helpu i gyflwyno cofnodion mamolaeth digidol i glinigwyr ac i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru.
Nod y prosiect
Mae’r tîm yn cynnal ymchwil gyda chlinigwyr ac i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth. Bydd yr ymchwil yn ein helpu i ddeall:
- profiadau menywod a allai fod mewn mwy o berygl o ganlyniadau iechyd negyddol
- profiadau merched sy’n fwy tebygol o brofi allgáu digidol
Mae gwneud hyn yn ein helpu i ddechrau dod o hyd i ffyrdd o wella’r gwasanaeth cyffredinol.
Y broblem i’w datrys
Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth mamolaeth yng Nghymru yn dibynnu’n helaeth ar gofnodion clinigol ar bapur.
Gall cyflwyno cofnodion mamolaeth digidol wella gwasanaethau mamolaeth drwy:
- galluogi gwell adrodd ar ddata canlyniadau
- alluogi menywod i fod yn bartner yn eu gofal
- lleihau’r amser a dreulir ar ddata dyblygu
- sicrhau bod cofnodion ar gael i’r holl weithwyr proffesiynol sydd eu hangen i ddarparu gofal
- creu cysondeb ar draws Cymru
Partneriaid
Tîm amlddisgyblaeth a gafodd ei sefydlu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n cyflwyno’r rhaglen.
Mae aelodau tîm CDPS yn gweithio ar ddylunio gwasanaethau ac ymchwil defnyddwyr.