Dysgu trwy greu

Mae Dysgu trwy greu yn cynnal arbrawf byr i archwilio sut mae pobl yn dysgu drwy greu pethau.   

Mae’n labordy digidol sy’n rhoi’r rhyddid i bobl feddwl yn wahanol. Byddwch yn dysgu sut i ddatrys problemau mewn grŵp, heb y cyfyngiadau a allai fodoli yn eich sefydliad, yn ogystal â darganfod sut mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn helpu adeiladu gwasanaethau gwell.  

Mae’r rhain yn sesiynau trochi ac ymarferol, i ddysgu sgiliau digidol a chreu cynnyrch a gwasanaethau digidol – yn yr agored, go iawn. 

Beth yw’r nod? 

Mae Dysgu trwy greu yn: 

Rydyn ni am i bobl bod yn hyderus wrth feddwl mewn ffordd ‘ddigidol’ ac i greu pethau yn yr agored.  

Pa broblemau allai’r prosiect eu datrys i bobl?  

Yn seiliedig ar ymchwil defnyddwyr, rydym yn ymwybodol bod angen help ar bobl i wybod lle i ddechrau o ran defnyddio gwybodaeth ddigidol newydd mewn ffordd ymarferol yn eu timau.  

Mae Dysgu trwy greu yn rhoi cyfle i bobl fod yn rhan o sesiynau labordy trochol ac ymarferol, lle mae pobl yn dysgu sgiliau digidol ac yn gwneud cynnyrch a gwasanaethau digidol – yn agored, go iawn. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddysgu am rywbeth newydd yw ei brofi eich hun.    

Drwy roi cynnig ar yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn seiliedig ar arbrofi go iawn, gallwch droi gwybodaeth ddamcaniaethol yn sgiliau ymarferol.    

Pwy sy’n cymryd rhan 

Beth mae CDPS wedi’i wneud hyd yma?  

CDPS sy’n noddi Dysgu trwy greu. Mae wedi gweithio ochr yn ochr â’r tîm Sgiliau a Gallu i greu labordai a fydd yn ategu’r cyrsiau hyfforddi a sesiynau cinio a dysgu y maent yn eu rhedeg, fel rhan o Gampws Digidol

Beth sydd ar y gweill nesaf?  

Ar gyfer y gyfres gyntaf o labordai arbrofol, rydym yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, ac yn dechrau ar 21 Tachwedd 2022. 

Sut mae’r gwaith hwn yn helpu cyflwyno’r strategaeth ddigidol i Gymru?  

Nod Dysgu trwy greu yw gwella sgiliau digidol y rheiny sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sy’n rhan o:  

Cenhadaeth 3: sgiliau digidol  

Creu gweithlu sydd gyda’r sgiliau, y gallu a’r hyder digidol i ragori yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd 

Blogs 

Darllenwch fwy am y prosiect yn ogystal â’r nodiadau wythnosol a gwefan Dysgu trwy greu