Darganfod gwybodaeth reoli ysgolion

Beth yw’r nod?

Cynhyrchu gofynion ar gyfer system rheoli gwybodaeth ysgolion yn seiliedig ar anghenion ysgolion ac awdurdodau lleol.

Pa broblemau gallai’r prosiect eu datrys i bobl?

Roedd cyfnod darganfod (ymchwil) y prosiect Ystwyth yma’n archwilio’r posibiliad o ddull ‘unwaith i Gymru’, lle gall awdurdodau lleol rannu gofynion am sims newydd. Bydd set o ddata cyson a chlir yn gweithio gyda’i gilydd

Pwy sy’n cymryd rhan?

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n bartner i CDPS yn y darganfyddiad. Bydd CDPS yn gweithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i gytuno ar set o ofynion ar gyfer sims.

Beth mae CDPS wedi’i wneud?

Rydym wedi dod â thîm o ymchwilwyr, arbenigwyr caffael, ac arweinwyr addysg ynghyd. Hefyd, rydym wedi cysylltu â’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i egluro’r darganfyddiad a’u gwahodd i gymryd rhan.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Dros y 10 wythnos nesaf, bydd ein hymchwilwyr yn cyfweld â phobl sy’n defnyddio sims mewn ysgolion a phobl mewn awdurdodau lleol, i greu dealltwriaeth ddyfnach o anghenion y defnyddiwr.

Sut bydd y gwaith hwn yn helpu cyflawni’r strategaeth ddigidol i Gymru?

Mae’r darganfyddiad sims yn helpu cyflawni 3 cenhadaeth y strategaeth:

Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol

Darparu a moderneiddio gwasanaeth fel eu bod nhw’n cael eu dylunio gyda phwyslais ar anghenion y defnyddiwr, yn syml, diogel a chyfleus.

Cenhadaeth 4: economi digidol

Er mwyn cyflawni ein huchelgais o amgylch gwasanaethau digidol cyhoeddus o’r ansawdd uchaf, mae angen economi digidol sy’n gallu cefnogi ein sector cyhoeddus, ond hefyd sector cyhoeddus sy’n deall sut i gyd-weithio gyda’r farchnad er mwyn darparu beth sydd angen arnynt mewn modd ymatebol a hyblyg.

Cenhadaeth 6: data a chydweithio

Mae gwasanaethau yn cael eu gwella trwy weithio gyda’n gilydd, gyda data a dealltwriaeth yn cael eu defnyddio a’u rhannu.

Postiadau blog

Systemau rheoli gwybodaeth ysgolion – ein canfyddiadau – cyhoedd 18 Tachwedd 2022

Amser adnewyddu peiriant gwybodaeth ysgolion – cyhoeddwyd 18 Awst 2022