Prosiectau presennol
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gweithio gyda sefydliadau eraill sector cyhoeddus Cymru i adeiladu gwasanaethau gwell.
Mae’r dudalen hon yn dangos y prosiectau y mae sgwadiau CDPS yn gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd, ochr yn ochr â thimau mewnol. Mae ein sgwadiau, sy’n gweithio yn unol ag egwyddorion Ystwyth, yn cynnwys rolau fel dadansoddwr busnes, ymchwilydd i ddefnyddwyr, datblygwr, dylunydd gwasanaethau, rheolwr darparu a dylunydd cynnwys.