Sylfeini Ystwyth ar gyfer arweinwyr (Dyddiadau newydd yn dod yn fuan)
Addas ar gyfer
- unrhyw un sy’n darparu gwasanaethau sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru
- y rhai sy’n newydd i ffyrdd digidol neu Ystwyth o weithio
Canlyniadau
- dysgu am yr angen i wneud yn siŵr bod gwasanaethau cyhoeddus digidol wedi’u cynllunio gan ddefnyddio safonau sy’n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr, o ddechrau’r gwasanaethau hyd at y diwedd, ac yn galluogi cynwysoldeb
- esbonio a hyrwyddo gwerthoedd ac egwyddorion ffyrdd Ystwyth o weithio
- bod yn fodel rôl ar gyfer y diwylliant a’r arweinyddiaeth sy’n cefnogi gweithio Ystwyth
- ennyn mwy o ddealltwriaeth o sut i drawsnewid a diwygio’n uniongyrchol y ffordd mae eich tîm yn gweithio, yn ogystal â newidiadau i’r amgylchedd ehangach sydd eu hangen i gefnogi’r trawsnewidiad
Amlinelliad o’r cwrs
- Meithrin aeddfedrwydd digidol
- Pwrpas clir
- Rolau, cyfrifoldebau a ffyrdd o weithio clir
- Adlewyrchu a gwella
- Mae cynnydd i’w weld
- Sesiwn cynllunio rheolaidd
- Dysgu’n gyflym a newid cyfeiriad
- Amgylchedd diogel
- Creu cynllun i ddechrau trawsnewid eich ffyrdd eich hun o weithio
Hyd
2 ddiwrnod
Cadw lle
Ar hyn o bryd, mae’r cyrsiau yma yn llawn tan Ebrill 2023. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r garfan hyfforddi nesaf, llenwch ein ffurflen mynegi diddordeb.