Digidol ac Ystwyth: yr hanfodion (Dyddiadau newydd yn dod yn fuan)
Addas ar gyfer
- unrhyw un sy’n darparu gwasanaethau sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru
- y rhai sy’n newydd i ffyrdd digidol neu Ystwyth o weithio
Canlyniadau
- dysgu mwy am y weledigaeth ddigidol genedlaethol, a sut mae hyn yn sbarduno newid ar draws sector gyhoeddus Cymru
- meddu ar well dealltwriaeth o aeddfedrwydd digidol, ystyr Ysytwyth a ffyrdd Ystwyth o weithio
- deall Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru sef y safonau mae angen i holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â nhw
Amlinelliad y cwrs
- Beth yw digidol, Ystywth, a ffyrdd Ystwyth o weithio?
- Yr ymrwymiad i ddigidol gan Lywodraeth Cymru
- Hanes Ystwyth, sut a pham y daeth i’r amlwg?
- Sut mae timau Ystwyth yn gweithio?
- Sut mae dechrau trawsnewid digidol
- Creu cynllun i ddechrau trawsnewid eich ffyrdd eich hun o weithio
Hyd
3.5 awr
Cadw lle
Ar hyn o bryd, mae’r cyrsiau yma yn llawn tan Ebrill 2023. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r garfan hyfforddi nesaf, llenwch ein ffurflen mynegi diddordeb.