Edrych yn ôl: adolygiad blwyddyn CDPS 2021-22
Cynnwys
- Crynodeb gweithredol: defnyddwyr yn gyntaf yng Nghymru
- Rhagair y Dirprwy Weinidog
- Cyflwyniad y Cadeirydd
- Ein hamcanion cyflawni
- Ein gweithgareddau cyflawni
- Gweithgaredd: Hyrwyddo trawsnewid digidol
- Gweithgaredd: Gweithio yn agored
- Gweithgaredd: Datblygu arweinyddiaeth ddigidol
- Gweithgaredd: Darparu hyfforddiant arweinyddiaeth
- Gweithgaredd: Adeiladu cymunedau
- Gweithgaredd: Datblygu safonau gwasanaeth
- Gweithgaredd: Datblygu pensaernïaeth technoleg fodern
- Gweithgaredd: Mapio cynhwysiant digidol
- Gweithgaredd: Cefnogi BBaChau yng Nghymru
- Y ffordd ymlaen i CDPS
1. Crynodeb gweithredol: defnyddwyr yn gyntaf yng Nghymru
Yn ei blwyddyn lawn gyntaf o weithredu, mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi paratoi’r tir ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru sy’n rhoi anghenion y defnyddiwr yn gyntaf oll. Rydym yn helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol sy’n symlach, yn gyflymach ac yn haws eu defnyddio. Maent yn wasanaethau sy’n caniatáu i ddinasyddion gael yr hyn sydd ei angen arnynt gan Llywodraeth Cymru, cynghorau ac elusennau mor effeithlon â phosibl ac yna bwrw ymlaen â’u bywydau.
Rydym wedi paratoi’r tir ar gyfer gwell gwasanaethau cyhoeddus drwy:
- arolygu’r tirlun gwasanaeth yng Nghymru i flaenoriaethu gweithgarwch a buddsoddiad
- gweithio gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus i wella gwasanaethau drwy ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a dulliau Ystwyth
- cyfoethogi’r sylfaen sgiliau digidol o fewn sector cyhoeddus Cymru, drwy rannu sgiliau ‘yn y gwaith’ mewn timau amlddisgyblaethol a thrwy gyrsiau hyfforddi poblogaidd CDPS
- codi ymwybyddiaeth am wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr drwy raglen cyfathrebu amrywiol a thrwy adeiladu cymunedau proffesiynol
- dylanwadu ar uwch arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud penderfyniadau sy’n cefnogi newid digidol
Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn ôl ar weithgareddau CDPS yn ystod y flwyddyn ariannol 2021-22. Mae’n dangos sut mae’r gweithgareddau hynny, a’u canlyniadau, yn mapio i’n hamcanion sylfaenol. Mae CDPS am adeiladu ffynhonnell barhaol o arbenigedd digidol yng Nghymru – gyda hynny mewn golwg, mae’r adroddiad hefyd yn dangos sut mae ein gweithgarwch yn cyd-fynd â’r 7 nod llesiant a 5 ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Rydym, hefyd, yn ymarfer yr hyn yr ydym yn ei bregethu. Mae’r adroddiad wedi’i ysgrifennu mewn Cymraeg clir a Saesneg clir, gan ddefnyddio brawddegau byr ac iaith y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr yn ei deall. Mae gan ddiagramau a siartiau ddigon o gyferbyniad lliw i bobl â nam ar eu golwg i’w dehongli. Mae gan yr holl graffeg esboniad testun amgen – ‘alt text’ – y gall apiau darllenydd sgrin eu darllen yn uchel.
Yn olaf, rydym yn cyhoeddi’r adroddiad fel tudalennau gwe HTML ar wefan CDPS, yn hytrach nag yn y fformat PDF hen ffasiwn (nad oedd yn hygyrch). Rydym hefyd yn defnyddio cynnwys amlgyfrwng – cyfweliadau fideo gyda chydweithwyr yn y sector cyhoeddus y mae CDPS wedi gweithio gyda nhw, yn ogystal â chan bobl sy’n gweithio yn CDPS yn esbonio eu gwaith.
Mae’r crynodeb gweithredol hwn yn tynnu sylw at brif ganlyniadau gweithgarwch CDPS yn 2021-22. Mae’n crynhoi ein heffaith ar wasanaethau penodol – yr hyn rydym wedi helpu i’w adeiladu. Ac mae’n dangos sut rydym wedi gweithio yn agored drwy gydol ein blwyddyn gyntaf, gan adrodd ar gynnydd a heriau mewn modd tryloyw.
1.1 Canlyniadau gwaith CDPS yn 2021-22
1.1.1 Mapio tirwedd ddigidol Cymru
Er mwyn gweithio’n effeithiol o fewn sector cyhoeddus Cymru, roedd angen map o’r diriogaeth ar CDPS. Rydym wedi dechrau creu un – y trosolwg cyntaf o gyflwr gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru – a elwir yn Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol (DLR). Mae’r tîm DLR wedi siarad â channoedd o bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, o arweinwyr i staff rheng flaen. Daw’r bobl hynny a gafodd eu cyfweld o fwy na 30 o sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn ogystal â llywodraeth leol a grwpiau a noddir gan y llywodraeth.
O’r ymgynghoriad eang iawn hwnnw, cynigiodd tîm y DLR 16 o gyfleoedd digidol i CDPS i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus. O’r cyfleoedd hynny, mae ein bwrdd wedi cynnig rhestr fer i CDPS weithio arni, gyda phartneriaid, yn 2022-23 a thu hwnt.
1.1.2 Canlyniad: cynhwysiant digidol
Waeth pa mor ddatblygedig yn dechnegol yw gwasanaeth digidol, mae’n methu os nad yw’n gwasanaethu pawb y gallai eu gwasanaethu. Un canfyddiad pwysig o’r DLR yw pa mor anghyfartal yw mynediad digidol yng Nghymru. Mae gormod o bobl yn colli allan ar fanteision y byd digidol, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus digidol. Maent yn colli allan oherwydd eu daearyddiaeth (os oes diffyg seilwaith technegol), sgiliau digidol gwael (oherwydd eu cenhedlaeth neu lefel addysg, er enghraifft) neu rwystrau hygyrchedd (fel anhawster golwg neu ddarllen).
Er mwyn mynd i’r afael â’r math hwn o anghydraddoldeb, mae un rhan o’r DLR wedi datblygu’n brosiect ar wahân – Cyfeiriadur Cynhwysiant Digidol. Mae’r cyfeiriadur yn cynnwys gweithgareddau sy’n cael eu rhedeg gan Gymunedau Digidol Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru i gynnwys pobl yn y byd digidol. Mae’n cymharu ymagwedd Cymru at gynhwysiant digidol ag ymagwedd gwledydd eraill y DU a gwledydd yr UE sy’n perfformio orau.
1.1.3 Canlyniad: sgiliau ar gyfer y dyfodol
Mae ar weision sifil, gweision cyhoeddus a staff y trydydd sector yng Nghymru angen y sgiliau digidol i gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Rhaid i’r gwasanaethau hynny wneud y sector cyhoeddus yn fwy effeithlon gan hefyd ddiwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio yn well. Mae trosglwyddo sgiliau o’r fath i bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus wedi bod yn ganlyniad hollbwysig i CDPS yn 2021-22. Rydym wedi’i gyflawni drwy hyfforddiant eang ac mewn ffyrdd eraill fel cymell, gweithdai a seminarau ar-lein.
Dechreuodd ein hyfforddiant mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) a sgiliau Ystwyth yn 2021-22 gyda chyrsiau ‘anghenion uniongyrchol’. Roedd yr hyfforddiant hwnnw’n cwmpasu’r hyn a ddangosodd ein hymchwil fel y bylchau gwybodaeth mwyaf dybryd ymhlith gweision cyhoeddus. Mae’r cyrsiau, sy’n cael eu rhedeg gan arweinwyr o’r proffesiynau UCD, wedi hyfforddi mwy na 600 o bobl, ar bob lefel, o 80 o sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru.
1.1.4 Canlyniad: cyfleoedd i rhannu gwybodaeth
Nid dim ond mewn hyfforddiant ffurfiol yr ydym wedi trosglwyddo sgiliau. Mae adborth yn awgrymu y gall cymgelliant un-i-un o fewn tîm amlddisgyblaethol fod yn werthfawr iawn hefyd. Gan ddefnyddio cymell, helpodd y tîm gofal iechyd sylfaenol, er enghraifft, reolwr cyflawni i symud o wasanaeth ‘rhaeadr’ confensiynol i ddatblygu gwasanaethau Ystwyth. Mae sesiynau cinio a dysgu neu sesiynau galw heibio ar bynciau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, fel y rhai sy’n cael eu rhedeg gan dimau Cyfoeth Naturiol Cymru a Chwaraeon Cymru, hefyd wedi bod yn gyffredin.
Yn olaf, mae gweminarau a chymunedau ymarfer CDPS wedi bod yn ffyrdd gwych o rannu gwybodaeth. Mewn gweminarau fel ‘Hyrwyddo’r Gymraeg’ a ‘Cadwch bethau’n syml… Dylunio cynnwys’, mae arbenigwyr yn arddangos technegau a phrosesau. Yn y cyfamser, mae ein 2 gymuned ymarfer, Cyfathrebu Digidol ac Adeiladu Gwasanaethau Dwyieithog, yn creu ymwybyddiaeth a chyfleoedd ar gyfer cefnogaeth gan gymheiriaid.
1.2 Darganfyddiadau amrywiol: ein heffaith ar wasanaethau
Mae gweithio ystwyth – symud ymlaen mewn camau bach, gan brofi’n gyson – yn hanfodol i CDPS. Yn ein blwyddyn gyntaf o weithredu, mae partneriaethau CDPS unigol wedi bod yn bennaf yng nghamau cyntaf ac ail Ystwyth: darganfod ac alpha. Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, rydym wedi gwneud ymchwil ddwys gyda defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus o iechyd i ddiogelu’r amgylchedd a chwaraeon cymunedol. Mae’r ymchwil honno wedi arwain at gronfa o wybodaeth am ddefnyddwyr y gallwn ei defnyddio i helpu i adeiladu gwasanaethau digidol yn seiliedig ar anghenion gwirioneddol, amlwg pobl.
Mae darganfyddiad gofal iechyd sylfaenol CDPS, a wnaed gyda Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd (DSPP), wedi cynnwys oriau lawer o gyfweliadau gyda meddygon teulu, staff practis a thrigolion Cymru. Wedi’i gwblhau’n ddiweddar, mae wedi rhoi darlun manwl iawn o brofiadau darparwyr a chleifion. Gan ddefnyddio’r canlyniadau darganfod, mae CDPS wedi rhannu tystiolaeth o ddatganiadau am wasanaethau gofal sylfaenol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr er mwyn i DSPP ystyried gweithredu arnynt.
Roedd y gwasanaeth cyntaf y gweithiodd CDPS arno, Mynediad at ofal cymdeithasol i oedolion, yn bartneriaeth gyda 3 awdurdod lleol i wella cyfathrebu â defnyddwyr gofal cymdeithasol. Dangosodd ymchwil fod angen mwy o wybodaeth bersonol ar dderbynwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys am ba hyd y byddai’n rhaid iddynt aros am gymorth. Gweithiodd y tîm CDPS ar y gwasanaeth gyda chynghorau i ddod â negeseuon testun defnyddwyr yn unol â chyfathrebu modern wedi’i deilwra gan fanciau ac ysbytai, er enghraifft. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot bellach wedi gallu cymryd y gwasanaeth ‘Olrhain fy nghais’ yn fewnol.
Mae’r darganfyddiad gwastraff peryglus wedi bod yn gyfle i adeiladu gwasanaeth digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ar egwyddorion Ystwyth, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Ymchwiliodd y tîm darganfod ar y cyd i anghenion defnyddwyr trin gwastraff peryglus drwy siarad ag arbenigwyr CNC a’r diwydiant trin gwastraff. Mae’r tîm bellach yn profi prototeipiau o wasanaeth o’r dechrau i’r diwedd a fwriedir i wneud triniaeth yn fwy effeithlon ac i helpu mwy o bobl i ddilyn y gyfraith.
Roedd darganfyddiad canolfannau sector cyhoeddus CDPS, a wnaed i Llywodraeth Cymru, yn mynd i’r afael ag angen mawr o’r pandemig. Yr angen oedd dod o hyd i weithle arall – ‘hwb’ – ar gyfer pobl na allent weithio o’r swyddfa mwyach ond a oedd hefyd yn ei chael yn anodd gweithio gartref. Gwnaeth CDPS ymchwil i’r rhesymau dros yr angen hwn gyda gweithwyr amrywiol gan gynnwys siaradwyr Cymraeg, pobl anabl a phobl ag anghenion iechyd meddwl. Mae’r ymchwil honno’n ategu’r argymhellion y mae CDPS bellach wedi’u gwneud i Llywodraeth Cymru ynghylch dewis darparwr archebu hwb ar-lein.
Daeth darganfyddiad Chwaraeon Cymru o’r angen i wneud grantiau chwaraeon cymunedol yn fwy hygyrch. Dangosodd ymchwil fod proses ymgeisio am grant Chwaraeon Cymru yn rhy gymhleth ac yn defnyddio iaith ffurfiol a oedd yn atal pobl. (Dywedodd un defnyddiwr: “Dydi hwn ddim i fi. Does gen i ddim gradd.”) Yn ystod cam alpha datblygiad Ystwyth, profodd y tîm brototeipiau o wasanaeth newydd. Mae’r modelau gwasanaeth hyn yn defnyddio iaith syml y mae mwy o ddefnyddwyr yn ei deall ac yn symleiddio cynnwys i roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar ymgeiswyr ar bob cam yn unig. Bydd gwasanaeth mwy cynhwysol yn agor cyllid chwaraeon i bawb sy’n gymwys, gan hefyd leihau costau gweinyddol Chwaraeon Cymru.
Mae CDPS hefyd yn gweithio gydag Awdurdod Cyllid Cymru (WRA) ar brawf o gysyniad data tir ac eiddo. Mae tîm cyfunol CDPS-WRA wedi bod yn ymchwilio i sut y gallai l lwyfan data gefnogi trethi tir tecach, amrywiol yn ddaearyddol (ac o bosibl yn tyfu i fod yn ffynhonnell ddata ar gyfer y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru). Mae Awdurdod Cyllid Cymru am ddod yn sefydliad cwbl ddigidol, ac mae’r prototeip trethiant hwn yn gam mawr tuag at y nod hwnnw.
Mae CDPS, o’r diwedd, wedi gallu cefnogi sefydliadau eraill sy’n wynebu amgylchiadau brys yn 2021-22. Helpodd ein harbenigwyr digidol i leihau’r effaith ar ddysgu plant o ddigwyddiad hidlo gwe mewn ysgolion a oedd yn cynnwys rhwydwaith Cydgasglu Band Eang Sector Cyhoeddus Cymru. Mae darganfyddiad bellach yn edrych ar sut y gallai gwasanaeth hidlo gwe yn y dyfodol ddiwallu anghenion ysgolion a dysgwyr.
1.3 Gweithio yn agored
Fel datblygiad Ystwyth a meddwl sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, mae gweithio yn agored yn rhan o DNA CDPS. Mae un rheswm dros weithio’n agored yn glir – er mwyn sicrhau ein bod yn rhannu’r hyn a ddysgwn o ddatblygu gwasanaethau digidol mor eang â phosibl. Ond mae rheswm cryf arall dros weithio’n dryloyw: mae’n arwydd o newid o ddelwedd gaeedig, fiwrocrataidd o’r gwasanaethau cyhoeddus – yn enwedig y llywodraeth – sy’n dal i fodoli yn anffodus.
I’r gwrthwyneb, mae CDPS yn credu y dylai’r sector cyhoeddus arwain ar ddatblygu gwasanaethau syml, hawdd eu defnyddio sy’n cael eu adeiladu ar gyfer yr hyn y mae sylfaenydd yr arfer dylunio cynnwys, Sarah Winters, wedi’i alw’n “squishy humans” – pob un ohonom. Mae ein rhaglen lawn o gyflwyniadau byw (wedi’u recordio a’u cynnal ar YouTube), cylchlythyrau, nodiadau wythnosol, gweminarau, cyfryngau cymdeithasol a blogiau yn ymroi i ddangos ein bod yn gweithio mor agored â phosibl.
Mae corff yr adroddiad hwn yn dangos yn fanwl sut mae gweithgareddau CDPS yn 2021-22 wedi cyflawni ein hamcanion sylfaenol – i ddiwallu prinder sgiliau digidol ac anghenion hanfodol eraill. Ar gyfer pob gweithgaredd, mae’r adroddiad yn nodi’r nod, gyda phwy y gweithiodd CDPS, yr hyn a wnaethom a’r hyn rydym yn ei wneud nesaf.
Ond yn gyntaf gadewch i ni glywed gan ein dirprwy weinidog, Lee Waters, a’n cadeirydd, Jessica Leigh Jones.
– Harriet Green a Myra Hunt
Prif Weithredwyr ar y cyd
Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol