4 Awst 2021

Fe wnaethom ddechrau hysbysebu am Brif Weithredwr parhaol i CDPS wythnos diwethaf. 

Ers hynny, rydw i wedi bod yn cael sgyrsiau gyda phobl sydd â diddordeb yn y rôl. Un o'r cwestiynau allweddol sy'n dal i ddod yw, "Beth yw diwylliant CDPS"?

Roeddwn i'n meddwl y byddai'n dda rhannu fy marn ar hyn yn ehangach.

Safonau Gwasanaeth 

Mae ein Safonau Gwasanaeth Digidol wrth wraidd pwy ydym ni fel sefydliad, yn enwedig y ddwy safon gyntaf.

Rydym yn canolbwyntio ar ddinasyddion Cymru a fydd yn defnyddio gwasanaethau digidol. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yw ein safon gyntaf. Rhaid i beth bynnag a wnawn ddiwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol o safbwynt cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

Dylai gwasanaethau yng Nghymru fodloni anghenion pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Dylai timau ddylunio a chreu gwasanaethau sy’n hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg, ac sy’n trin defnyddwyr sy’n siarad yr iaith yn gydradd â’r rhai hynny y mae’n well ganddynt siarad Saesneg.

Timau wedi'u grymuso, amrywiol a chynhwysol 

Tîm bach ydyn ni ar hyn o bryd; cymysgedd o staff parhaol a dros dro. Mae pawb yn arbenigwr ar yr hyn maen nhw'n ei wneud. Mae gan ein holl dîm y grym i weithio gyda'n partneriaid - i adeiladu perthynas, arwain prosiectau a sicrhau canlyniadau sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion.

Rydyn ni'n gwneud llawer o waith i sicrhau bod y ffordd rydyn ni'n cyflogi ein pobl a chaffael y gwasanaethau rydyn ni eu hangen yn gynhwysol ac amrywiol.

Mae gennym berthynas agored, dryloyw a chydweithredol gyda'n cyflenwyr, rydym i gyd yn rhan o un tîm. Mae “bathodynnau” yn cael eu gadael wrth y drws.

Cydweithio 

Rydyn ni'n gwybod nad ni yw'r arbenigwyr ar sut mae pob elfen o’r sector gyhoeddus yng Nghymru yn gweithio, felly rydyn ni'n gweithio gyda phobl yn y sefydliadau hynny i gyflawni gyda'n gilydd.

Mae'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda Chwaraeon Cymru yn dangos sut rydyn ni'n dod at ein gilydd i ffurfio un tîm i weithio ar broblem a meithrin gallu. 

Fe wnaethom ddod â chynghorau Torfaen, Blaenau Gwent a Castell-nedd Port Talbot ynghyd i weithio ar broblem gyffredin – sef sut i'w gwneud hi'n haws i breswylwyr gael mynediad at ofal cymdeithasol oedolion

Mae'r tri Prif Swyddog Digidol (Llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a Iechyd) a Phrif Weithredwr CDPS yn dod at ei gilydd bob wythnos i drafod a chynllunio sut i gyflawni'r strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru. Yn fy holl brofiad o drawsnewid digidol, mae hyn yn wirioneddol unigryw a gwych.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'n panel cynghori, y gangen sy’n ein noddi a'r Gweinidog, Lee Waters AS ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n bwrdd newydd.

Pragmatiaeth 

Fe'n sefydlwyd i gefnogi dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus da yng Nghymru.

Mae yna lawer o waith da iawn yn digwydd nawr, ond mae cymaint mwy i'w wneud.

Mae angen i ni gael arweinwyr (etholedig a swyddogion) cefnogol a'u helpu i adeiladu'r achos ariannol dros drawsnewid digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae angen i ni feithrin sgiliau a gallu ar raddfa a datblygu talent.

Rydym yn gwybod na allwn wneud hyn i gyd ar ein pennau ein hunain. Ac rydyn ni'n gwybod na allwn ni wneud hyn i gyd ar unwaith - marathon ydyw, nid sbrint.

Diwylliant digidol 

Rydyn ni yma i helpu i greu sefydliadau digidol - nid dim ond sefydliadau gyda thimau digidol (dyfyniad wedi'i ‘fenthyg' gan Dyfed Alsop yn Awdurdod Cyllid Cymru).

Nid ydym am weld dim ond gwasanaethau digidol pen blaen wedi'u cynllunio'n dda, ble mae staff yn dal i gael trafferth cyflawni'r rhan weithredol olaf. Rydyn ni eisiau helpu sefydliadau i newid y ffordd maen nhw'n gweithio i ddarparu gwasanaethau wedi’u cysylltu, o'r dechrau i'r diwedd. Mae angen i weithrediadau, cyllid, caffael, AD a pholisi i gyd fod yn rhan o'r newid.

Does dim angen ailddyfeisio'r olwyn 

Rydym am fanteisio ar waith da sydd eisoes wedi'i wneud mewn llefydd eraill. Pa wersi allwn ni eu dysgu o'r hyn sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru a hefyd gwledydd eraill sydd wedi cychwyn ar y siwrnai hon o'n blaen. Ble allwn ni ailddefnyddio llwyfannau, cod, cydrannau i arbed amser, arian ac ymdrech?

Gweithio’n agored 

Rydyn ni'n agored ac yn dryloyw am beth ydyn ni'n ei wneud. Rydym yn cyhoeddi postiadau blog am ein gwaith yn rheolaidd. Rydym yn cyhoeddi nodiadau wythnos i restr hir iawn o randdeiliaid. Rydyn ni ar fin dechrau rhannu ychydig o’n sesiynau ‘dangos a dweud’ yn gyhoeddus.

Defnyddiwch dystiolaeth a data i wneud penderfyniadau 

Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio tystiolaeth a data i wneud penderfyniadau.  

Rydym wedi cychwyn adolygiad tirwedd o'r holl wasanaethau sector cyhoeddus a ddarperir yng Nghymru i'n helpu i ddeall y dirwedd ehangach fel y gallwn flaenoriaethu ein llif gwaith, sicrhau gwerth am arian ar wariant digidol ac ymuno a chydweithio ar gyflawni gwasanaethau cyhoeddus.

Rydym wedi gwneud dechrau da ond mae tipyn o ffordd i fynd. Os oes gennych chi ddiddordeb gwneud cais am y swydd barhaol Prif Swyddog Gweithredol, gallaf sicrhau y bydd hon yn daith wych, heriol a chyffrous. Byddwch chi’n cael gweithio gyda phobl Cymru, sydd wir yn gefnogol ac yn anhygoel.

 

Sally Meecham