Digwyddiad 2 y Gyfres Rhannu Gwybodaeth – Y Gymraeg

Diolch yn fawr i bawb a ymunodd â gweminar rhannu gwybodaeth yr wythnos hon. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan ac yn awyddus i rannu eu meddyliau a’u syniadau. Daeth dros 50 o bobl ledled Cymru ynghyd i edrych ar sut gall dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru helpu i hyrwyddo’r Gymraeg a bodloni anghenion defnyddwyr.

Trosolwg o’r sesiwn

Yn y sesiwn, fe glywson ni gan Alun Shurmer o Ddŵr Cymru, Jeremy Evas o Lywodraeth Cymru a Heledd Evans o Cyfoeth Naturiol Cymru.  Gan amrywio o wasanaeth cwsmeriaid i newid ymddygiad a magu hyder, dyma rai o’r pwyntiau allweddol gan y tri siaradwr:

Mae ymchwil a phrofiad hyd yma yn awgrymu pedwar rhwystr allweddol rhag mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus: pobl, offer, arweiniad a chyllideb.  A oes gennym ni’r bobl iawn, sydd â’r sgiliau iawn, yn y lle iawn?  Mae’r angen yno; y cwestiwn yw beth sy’n ei atal rhag digwydd?

Mae angen i ni feddwl am ddylunio gwasanaethau gyda’r Gymraeg mewn golwg o’r dechrau.  Mae hynny’n cynnwys meddwl am sut, pryd a pham mae pobl eisiau defnyddio gwasanaethau yn Gymraeg a sut gellir dylunio gwasanaethau i ganiatáu iddynt wneud hynny.  Mae hyn hefyd yn cynnwys profi gyda siaradwyr Cymraeg wrth i wasanaethau gael eu dylunio a’u datblygu.  Er enghraifft, mae’r postiad blog hwn ar brototeipioyn sôn am brofi prototeipiau gyda siaradwyr Cymraeg yn rhan o’n gwaith.

Dylai egwyddorion newid ymddygiad (gwneud pethau’n Rhwydd, yn Ddeniadol, yn Gymdeithasol ac yn Amserol) fod yr un mor berthnasol i’n ffordd o feddwl am sut rydym yn dylunio gwasanaethau a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.  Gallwch ddysgu mwy am yr egwyddorion yn y canllawiau hyn gan Wasanaeth Cyfathrebu’r Llywodraeth

Thema gyffredin drwy gydol y sesiwn oedd hyder.  Hyder siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg a hyder y rhai sy’n datblygu gwasanaethau cyhoeddus i feddwl yn wahanol am sut maen nhw’n darparu’r gwasanaethau hynny.  Sut gallwn gynyddu’r hyder hwnnw a ‘normaleiddio’ defnydd o’r Gymraeg?

Aeth y drafodaeth a ddilynodd i’r afael â nifer o feysydd, gan gynnwys dewis iaith, gwneud y Gymraeg yn opsiwn diofyn, sgiliau a gallu, a rhannu heriau ac arfer da.

Profiad newydd i ni

Am y tro cyntaf i ni yn y Ganolfan, fe gynhalion ni’r weminar gan ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd.  A bod yn onest, doedden ni ddim yn siŵr sut byddai’n gweithio, ond roedd y dechnoleg yn eithaf syml i’w sefydlu mewn gwirionedd (ar ôl i ni ddeall beth oedd arnom ei angen!) ac yn rhwydd i bobl ei defnyddio.  O ganlyniad, gallai pawb a fynychodd, gan gynnwys y siaradwyr, ddewis ymgysylltu yn Gymraeg neu Saesneg.  Wrth i ni ddysgu, rydym wedi canfod bod Zoom yn recordio’r iaith wreiddiol yn unig, nid y cyfieithiad, felly er ein bod yn rhannu’r recordiad o’r sesiwn, sylwch fod y mwyafrif ohoni wedi’i chynnal yn Gymraeg, felly gallai’r recordiad fod yn gyfyngedig i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Gallwch wylio’r recordiad yma:

https://us02web.zoom.us/rec/share/hkSC0V8HUO8arJuxifdrZFPKkndVgWSX_N8H5epKF6y7vFV7SyLgpkRPqZUJ1jad.KaUeIYUyQnSUKbv_?startTime=1611157460000

Parhau â’r sgwrs

Gan ddilyn ymlaen o’r weminar hon, rydym yn sefydlu ein cymuned ymarfer gyntaf.  Bydd y gymuned hon yn gyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg a darparu gwasanaethau cyhoeddus ddod ynghyd i rannu syniadau, gwersi a ddysgwyd a chynnydd.  Os hoffech ymuno â’r gymuned, gallwch gofrestru’ch diddordeb trwy anfon neges e-bost atom yn info@digitalpublicservices.gov.wales.  Mae croeso i bawb a does dim angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg i ymuno.

Ein gweminar nesaf

Cynhelir ein gweminar rhannu gwybodaeth nesaf o 1-2 pm ddydd Mercher 10 Chwefror pan fyddwn yn trafod y Strategaeth Ddigidol i Gymru.  Rhoddir rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru cyn hir.