Cynnwys
Mae'r esiamplau hyn wedi'u seilio ar weminar a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2021. Yn y weminar, trafodwyd:
- ble mae’r bwlch mewn sgiliau a’r angen am reoli cyflenwyr, tech a sgiliau arwain
- yr angen sydd yna i newid diwylliant yn ogystal â datblygu gallu technegol
- ymagwedd ar reoli cyllid
- parodrwydd i dderbyn trawsnewid digidol
Gwyliwch y weminar
Cyfranwyr
Dafydd Vaughan, aelod o banel cynghori CDPS ac arbenigwr technoleg ddigidol
Siaradodd Dai am y dewisiadau technegol ydym ni’n eu gwneud, sut i wneud yn siŵr y byddant yn addas i’r dyfodol a rheoli cytundebau TG sydd wedi eu hetifeddu.
Sam Hall, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol
Rhoddodd Sam drosolwg i ni o’r heriau technegol yn y sector gyhoeddus a beth sydd angen newid. Bu’n sôn am y diffyg hyblygrwydd a’r angen i wneud penderfyniadau dewr yn fwy effeithiol.
A hwythau yn eu rôl yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, roedd rhai pethau roedd Sam wedi clywed eu bod yn rhwystr rhag trawsnewid digidol yn cynnwys:
- contractau hir
- darparu rhywbeth na ofynnwyd amdano
- cost uchel
- diffyg ffydd
- gormod o newid ar unwaith
Soniodd Sam am hynny i wneud hyn, mae'n rhaid i rai pethau newid. Gan gynnwys:
- clo-i-mewn gyda gwerthwr
- herio'r broses
- bod yn gwsmeriaid gwell
- y broses gaffael
- bofleidio côd agored
Mike Ogonovsky, Prif Swyddog Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cawsom drosolwg o’r gwaith mae wedi ei wneud yn arwain ymgynghoriadau fideo ac effaith COVID-19 ar gynnydd, defnydd a diwylliant.