Defnyddio cwcis a thechnolegau eraill

Mae’r Hysbysiad hwn yn egluro sut a pham rydym yn defnyddio cwcis ar safle’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ac mae’n cynnig adnoddau a fydd yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â derbyn, gwrthod neu ddileu unrhyw gwcis a ddefnyddiwn. 

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis, felly argymhellwn eich bod yn darllen drwy’r wybodaeth isod. Gallai’r polisi cwcis hwn newid unrhyw bryd, felly dylech ei wirio’n rheolaidd. 

Ffeil fechan o lythrennau a rhifau yw cwci, ac mae’n aml yn cynnwys dynodydd unigryw, dienw. Mae hyn yn golygu y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod chi heb ddatgelu eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch chi’n ymweld â gwefan, mae’n gofyn am eich caniatâd i storio cwci yn yr adran cwcis ar eich gyriant caled. Mae cwcis yn cael eu defnyddio’n gyffredin ar y rhyngrwyd i wneud i wefannau weithio, i wneud iddynt weithio’n fwy effeithlon, neu i ddarparu gwybodaeth am eich defnydd o’r safle i berchennog y safle neu drydydd partïon. Er enghraifft, os ydych yn ychwanegu eitemau i fasged siopa, mae cwci’n galluogi’r wefan i gofio pa eitemau rydych chi’n eu prynu, neu os mewngofnodwch ar wefan, gall cwci eich adnabod chi nes ymlaen fel nad oes rhaid i chi roi eich cyfrinair i mewn eto. 

Sut ydym ni’n defnyddio cwcis? 

Rydym ni’n defnyddio cwcis i wella’r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti wedi’u gosod gan Google Analytics i adolygu ymarferoldeb ein safle. 

Cwcis trydydd parti 

Cwci trydydd parti yw un sy’n gysylltiedig â pharth neu wefan wahanol i’r hyn rydych chi’n ymweld â hi. Er enghraifft, ar y safle hwn, rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti wedi’u llunio gan Google i alluogi dadansoddeg  y wefan, ond gan nad yw ein safle ym mharth Google, mae hyn yn gwneud eu cwcis nhw yn gwcis “trydydd parti”. Bydd cwci Google Analytics yn adnabod ac yn cyfrif nifer y bobl sy’n ymweld â’n gwefan, yn ogystal â darparu gwybodaeth arall fel pa mor hir mae ymwelwyr yn aros, i ble maen nhw’n symud ar ein gwefan, a pha dudalennau sy’n derbyn y nifer fwyaf o ymweliadau. Ni allwn reoli sut mae cwcis Google yn ymddwyn yn uniongyrchol. 

Defnyddio Mailchimp ar www.digitalpublicservices.gov.wales 

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cyfeirio’n benodol at ein defnydd o ddata a gesglir trwy gynnig cynnwys defnyddwyr mewn rhestrau cyfathrebu, sef Cylchlythyr CDPS a chymryd rhan mewn un neu fwy o Grwpiau Cymuned Ymarfer, ar hyn o bryd. 

O ran cynnwys yn y naill restr neu’r llall, neu’r ddwy, yr unig wybodaeth a gesglir yw cyfeiriad e-bost a, thrwy fod ar y rhestr, marciwr caniatâd y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae’r marciwr caniatâd GDPR wedi’i osod ar widget, sydd wedyn yn sbarduno neges e-bost optio i mewn at y defnyddiwr. Dim ond trwy glicio ar ddolen gymeradwyo yn y neges e-bost hon y bydd cyfeiriad y defnyddiwr yn cael ei ychwanegu at y rhestr e-bost. Bydd y cofnod yn cael ei gadw hyd nes bod y defnyddiwr yn clicio ar y ddolen ddatdanysgrifio a geir ym mhob neges e-bost –  neu’n cysylltu â CDPS mewn ffordd arall. 

Diben prosesu 

Bydd y cyfeiriad e-bost a ddarparwyd yn cael ei ddefnyddio i anfon negeseuon e-bost at y rhai hynny sydd wedi optio i mewn a chynnal cysylltiad â nhw o dro i dro, at y diben y gwnaethant roi eu cyfeiriad e-bost yn unig. 

Bydd pob cyfeiriad e-bost yn cael ei gadw cyhyd â bod y cyfranogwr eisiau bod yn rhan o’r rhestr bostio. Wedi hynny, fe all ddewis datdanysgrifio o’r rhestr trwy glicio ar ddolen ddatdanysgrifio a ddarparwyd ar unrhyw negeseuon e-bost blaenorol. 

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu 

Trwy gyflwyno ei gyfeiriad e-bost, mae’r cyfranogwr yn optio i mewn i dderbyn negeseuon e-bost dilynol ynglŷn â’r pwnc hwnnw yn unig, ac mae unigolion yn rhoi caniatâd i ni brosesu eu data personol at y diben a bennwyd. 

Gyda phwy rydym yn rhannu data 

Mae’r data yn cael ei storio gan ein cyflenwr gwasanaeth e-bost, sef Mailchimp. Dim ond ar Weinyddion yn yr Undeb Ewropeaidd y mae’r wybodaeth hon yn cael ei storio ac nid yw’n cael ei rhannu, ei gwerthu na’i defnyddio gan unrhyw un y tu allan i Mailchimp neu CDPS. 

Polisi Preifatrwydd Mailchimp 

Mae rhagor o fanylion am sut mae gwybodaeth yn cael ei storio ar gael yn https://www.intuit.com/privacy/statement/ 

Sut mae cwcis yn cael eu defnyddio ar gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru? 

Mae cwcis ar gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru (CDPS) yn gwneud llawer o wahanol dasgau, fel caniatáu i chi lywio rhwng tudalennau’n effeithlon, storio’ch dewisiadau, a gwella’ch profiad o’r safle yn gyffredinol. Mae cwcis yn gwneud y rhyngweithio rhyngoch chi a’n gwefan yn gyflymach ac yn rhwyddach. Petaem ni ddim yn defnyddio cwcis, byddai’n meddwl eich bod yn ymwelydd newydd bob tro y byddech yn symud i dudalen newydd ar y safle. 

Bydd rhai gwefannau yn defnyddio cwcis hefyd i’w galluogi i dargedu eu negeseuon hysbysebu neu farchnata ar sail, er enghraifft, eich lleoliad a/neu’ch arferion pori. NID yw CDPS yn gwneud hyn. 

Yr enw ar gwcis sy’n cael eu gosod gan gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru yw ‘cwcis parti cyntaf’, a’r enw ar y rhai a allai gael eu gosod gan wefannau eraill sy’n cynnal cynnwys ar y dudalen rydych yn edrych arni yw ‘cwcis trydydd parti’. 

Sut mae gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru yn defnyddio cwcis? 

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu hanfon at eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol gan y gwefannau rydych yn ymweld â nhw. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchenogion y safle. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith i wybod pa iaith yr hoffech weld y wefan ynddi, ac rydym hefyd yn defnyddio cwcis YouTube i fewnosod fideos mewn tudalennau a chwcis Google Analytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr tra byddant yn ymweld â’r safle.  

Trwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein safle, gallwn wella’r broses bori a’r cynnwys i fodloni anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth a gesglir gan LLYW.CYMRU yn cynnwys cyfeiriad IP, y tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a’r system weithredu. Ni fydd y data’n cael ei ddefnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddiwr yn bersonol.  

Rydym yn defnyddio cwcis i’ch galluogi i symud o amgylch y safle ac i ddarparu rhai nodweddion sylfaenol. Heb gwci, ni fyddai’r safle’n cofio pa iaith yr oeddech yn ei defnyddio i’w weld, na pha dudalen o’r canlyniadau chwilio yr oeddech arni.  

Nid ydym yn gwerthu’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu gan gwcis, nac yn datgelu’r wybodaeth i drydydd partïon, heblaw pan fydd hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith (er enghraifft, i gyrff y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith). 

Rydym yn defnyddio Mailchimp i drin ein rhestrau postio e-bost a’n tanysgrifiadau. Rydym hefyd yn defnyddio Mailchimp i anfon negeseuon e-bost at y rhai hynny sydd wedi optio i mewn ar gyfer pob pwnc neu angen. Mae Mailchimp yn gosod cwcis hefyd i weithredu a gwella profiad y defnyddiwr. 

Enghreifftiau o gwcis cwbl angenrheidiol a osodir gan gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru  

Dyma’r cwcis a ddefnyddiwn ar ein safle: 

Cwci Enw Pwrpas Dod i ben 
Fersiwn iaith langPrefWAG Mae’r cwci hwn yn cael ei greu gan y system rheoli cynnwys ac mae’n hanfodol er mwyn i’r safle ddangos fersiwn iaith gywir y safle. Pan fyddwch yn cau eich porwr 
Olrhain Sesiwn JSessionID I olrhain sesiwn pan fydd cwcis yn cael eu hanalluogi. Mae hyn yn caniatáu i’r porwr gadw eich sesiwn. Ar ddiwedd y sesiwn 
CookieControl civicAllowCookies 
civicShowCookieIcon 
Mae’r cwci hwn yn cofnodi p’un a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar ein safle. 10 awr 
YouTube VISITOR_INFO1_LIVE PREF Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i ddangos fideos YouTube ar ein safle. 8 mis 
GoogleAnalytics CDPS_ga_a Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio 
i ganfod sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Defnyddiwn y wybodaeth i’n helpu i wella’r safle. Mae’r cwci’n casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â’r safle, p’un a ydynt wedi ymweld o’r blaen a’r tudalennau maen nhw’n ymweld â nhw. 
1 flwyddyn 
GoogleAnalytics _ga_HKYTNTNSKE Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio 
i ganfod sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Defnyddiwn y wybodaeth i’n helpu i wella’r safle. Mae’r cwci’n casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â’r safle, p’un a ydynt wedi ymweld o’r blaen a’r tudalennau maen nhw’n ymweld â nhw. 
2 flynedd 
GoogleAnalytics _ga Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio 
i ganfod sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Defnyddiwn y wybodaeth i’n helpu i wella’r safle. Mae’r cwci’n casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â’r safle, p’un a ydynt wedi ymweld o’r blaen a’r tudalennau maen nhw’n ymweld â nhw. 
2 flynedd 

Mae Mailchimp yn rhan o’n safle ac yn defnyddio ei gwcis ei hun i gyflawni’r swyddogaethau sy’n ymwneud â thanysgrifio i restrau e-bost. Bydd y cwcis hyn ond yn cael eu gosod os byddwch yn defnyddio’r widget tanysgrifio e-bost ar y safle, a dim ond Mailchimp fydd yn gallu eu darllen. 

I gael disgrifiad llawn o ba gwcis a allai gael eu defnyddio, ewch i https://mailchimp.com/en-gb/legal/cookies/